Manylion
Mae tueddiad at law chwith yn beth prin, mae’n cael ei stigmateiddio, a’i gysylltu ag anghymesuredd mewn ymddygiad yn y ffordd y mae dau hanner yr ymennydd yn gweithio. Yn y sgwrs, byddaf yn sôn am rai o'r honiadau gwirion a llai gwirion ynglŷn â thueddiad at law chwith a’r hyn y mae’n ei olygu. Byddaf hefyd yn dangos i chi sut mae eich llawdueddiad yn berthnasol i anghymesureddau eraill yn eich ymddygiad. Byddaf yn gorffen trwy sôn am rywfaint o'n gwaith ninnau ym Mangor, sy'n ein galluogi i ragweld rhywbeth am anghymesuredd eich ymennydd o ran lleferydd ac iaith.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnydd a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu eich cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsynio.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o Gyfres Gweminarau Seicoleg Âé¶¹Íø.
Siaradwr
Dr David Carey
Darllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø
Mae Dr. David Carey yn Ddarllenydd yn Adran Seicoleg Prifysgol Âé¶¹Íø. Mae’n Aelod Cyswllt o'r Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol. Mae'n niwroseicolegydd clinigol hyfforddedig gyda diddordebau ymchwil mewn anghymesureddau hemisfferig, llawdueddiad ac ochroli ieithyddol.