30 Years of Mathematics Master Classes
Rhes flaen, dd-ch: Victoria Tyler, Ysgol John Bright; Rhian Jones, myfyrwraig TAR; Samantha Durbin, Sefydliad Brenhinol; Gordon Malcolm, Cwmni Magnox; Chris Wensley, Ysgol Cyfrifiadureg, Geraint Simpson, Ysgol Uwchradd Caergybi, Geraint Rowlands, : myfyriwr TAR, a tu cefn iddynt y disgyblion sydd wedi bod yn cymryd rhan eleni.Mae’r Dosbarthiadau Meistr Mathemateg yn dathlu yn dathlu eu 30ain flwyddyn. Mae’r rhain yn sesiynau ymarferol a rhyngweithiol cyffrous a arweinir gan arbenigwyr ym myd addysg a diwydiant ar gyfer pobl ifanc frwdfrydig a dawnus ar draws Gogledd-Orllewin Cymru. Mae’r sesiynau unigryw hyn yn mynd y tu hwnt i’r cwricwlwm ysgol ac yn dod â mathemateg, cyfrifiadureg a pheirianneg yn fyw mewn pynciau annisgwyl, megis celfyddyd a cherflunio, cyfrifiadureg, dylunio, meddygaeth a hyd yn oed cryptograffeg, sef y gelfyddyd o warchod gwybodaeth trwy ei hamgryptio ar ffurf annarllenadwy, o’r enw testun seiffr.
Bob blwyddyn, mae’r dosbarthiadau meistr yn anelu at agor llygaid rhyw 50 o bobl ifanc i gyffro, mantais a gwerth y pynciau hyn ac, yn eu tro, ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, mathemategwyr a pheirianwyr.
Eleni, Magnox a noddodd y dosbarthiadau, sy’n cael eu cefnogi gan y Sefydliad Brenhinol, a cafodd eu noddi gan Magnox eleni. Cymerodd Dirprwy Gyfarwyddwr Safle Atomfa’r Wylfa, Gordon Malcolm, ran yn un o’r sesiynau.
Meddai Gordon, “Mae’n bleser gan Magnox gefnogi Dosbarthiadau Meistr Prifysgol 鶹 trwy gynllun economaidd-gymdeithasol Magnox, sy’n gwneud gwaith gwych wrth gefnogi’r cymunedau y mae’n gweithio o’u mewn. Mae mathemateg yn sylfaenol i gymaint o yrfaoedd cyffrous ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg neu fusnes. Mae’n wych o beth gweld pobl ifanc leol yn mwynhau’r sesiynau hyn ac yn cychwyn ar eu taith eu hunain o ddysgu.”
Meddai Dr Chris Wensley, sy’n aelod o’r pwyllgor trefnu ers 30 mlynedd, “Rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad penaethiaid Mathemateg mewn ysgolion uwchradd Môn, Conwy a Gwynedd wrth iddynt enwebu eu disgyblion Blwyddyn 9. Mae’n bleser gennym gael nawdd gan gwmni Magnox eleni ac, fel bob amser, mae cymorth y Sefydliad Brenhinol yn amhrisiadwy. Rydym yn edrych ymlaen at y 30 mlynedd nesaf.”
Cynhelir y sesiynau bob blwyddyn, rhwng Ionawr a Mawrth – cewch fwy o fanylion ynglŷn â’r rhaglen a sut i gymryd rhan ynddi ar y wefan: http://www.maths.bangor.ac.uk/masterclasses/
A aethoch chi i’r dosbarthiadau meistr rai blynyddoedd yn ôl? Os felly, rydym yn awyddus ichi gysylltu â ni – rhowch wybod inni am yr hyn yr ydych yn ei wneud yn awr. Stevie.scanlan@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014