Airbus, Prifysgol Âé¶¹Íø a Grŵp Llandrillo Menai yn dechrau partneriaeth sgiliau newydd
Gyda'r tri phrentis, James Roles, Alexander Jones a Tomos Parry mae'r Athro Oliver Turnbull Dirprwy Is-ganghellor a'r Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Âé¶¹ÍøGwnaeth dri Phrentis Gradd yn Airbus ddechrau'r rhaglen Gwyddor Data Cymhwysol newydd gyda Phrifysgol Âé¶¹Íø a'i phartner cyflenwi, Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar.
Mae'r Prentisiaid Gradd, sef Alexander Jones, Tomos Parry a James Roles, yn weithwyr llawn amser yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, lle caiff adenydd ar gyfer awyrennau masnachol Airbus eu hadeiladu. Dros y tair blynedd nesaf byddant yn cael eu dysgu am ddiwrnod a noson yr wythnos gan academyddion Cyfrifiadureg o Brifysgol Âé¶¹Íø a Grŵp Llandrillo Menai. Cyflwynir y rhaglen ar safle Airbus a, thrwy bartneriaeth â Choleg Cambria, yn eu cyfleusterau yng Nglannau Dyfrdwy a bydd yn ymdrin ag ystod o bynciau.
Mae Prentisiaethau Gradd, sydd wedi'u hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig llwybr newydd i gael gradd yn ogystal â chefnogi cwmnïau i ddatblygu sgiliau technegol lefel uwch sy'n hanfodol i fusnesau. Mae hon yn bartneriaeth unigryw yng Nghymru, lle mae Prifysgol Âé¶¹Íø a Grŵp Llandrillo Menai wedi datblygu cyfres o gymwysterau Prentisiaethau Gradd i gyflawni gofynion cwmnïau am sgiliau Peirianneg a Digidol, yn cynnwys BSc (Anrh) mewn Peirianneg Drydanol/Electronig neu Beirianneg Fecanyddol; a chymwysterau BSc (Anrh) mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, Seiberddiogelwch Cymhwysol a Gwyddor Data Cymhwysol.
Mae dros 30 o Brentisiaid Gradd ledled Gogledd Cymru yn dechrau eu hastudiaethau gyda Âé¶¹Íø a Grŵp Llandrillo Menai yr hydref hwn gydag ystod o gyflogwyr mawr a bach, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Gyda'r tri phrentis mae (cefn chwith-dde): Athro Oliver Turnbull; Dr Dave Perkins, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig; Athro Iwan Davies; David Owen, Rheolwr Ardal, Joseph Owen, Cydlynnydd Cwricwlwm AU, Cyfrifiaduro a'r Cyfryngau, GLLM; Dr Iestyn Pierce, Wrth groesawu’r Rhaglen Prentisiaethau Gradd newydd gydag Airbus, dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Âé¶¹Íø, yr Athro Iwan Davies:
“Rydym yn falch iawn o ddechrau gyda'r cydweithrediad cyffrous hwn gydag Airbus, un o gwmnïau pwysicaf y rhanbarth. Byddaf yn dilyn hynt ein Prentisiaid Gradd gyda diddordeb mawr ac mae'r rhaglen newydd yn dyst i'r ddarpariaeth ragorol yn y ddau sefydliad. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y berthynas bwysig hon gydag Airbus er mwyn cryfhau economi'r rhanbarth ymhellach.â€
Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:
“Rydym yn falch iawn o fod mewn partneriaeth gydag Airbus a Phrifysgol Âé¶¹Íø i gyflwyno'r cynllun Prentisiaethau Gradd newydd cyffrous hwn.
“Mae prentisiaethau gradd yn ffordd effeithiol i weithwyr gael mynediad at addysg uwch tra'n ennill profiad penodol i'r diwydiant yn y gwaith ac ennill cyflog wrth ddysgu.
“Mae prentisiaethau gradd yn galluogi cwmnïau i ddatblygu ac ymgorffori graddau yn eu sefydliadau mewn ffordd hynod gost-effeithiol. Gall unigolion na fyddent fel arall yn cael mynediad at addysg uwch wneud hynny trwy brentisiaethau gradd tra'n galluogi cwmnïau i fuddsoddi mewn talent leol a datblygu gweithlu rhanbarthol medrus.â€
Dywedodd Tomos Parry, un o'r Prentisiaid Gradd newydd a chyn-ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun:
“Mae'n wych cael y cyfle hwn sydd bron ar garreg fy nrws - ac mae'r gymysgedd o fod 'mewn addysg' yng Ngrŵp Llandrillo Menai ac ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø ynghyd â 'bod mewn gwaith' yn Airbus yn rhywbeth rwy'n edrych ymlaen yn fawr ato."
Gellir cael rhagor o wybodaeth, yn cynnwys sut i fod yn rhan o'r rhaglen brentisiaeth yn:
/computer-science-and-electronic-engineering/digital-apprenticeships.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2019