Arloesedd newydd yn derbyn Gwobr y Gymdeithas Fetelegol
Dyma'r Tîm ymchwil y mae'r Athro Tom Rippeth yn ei harwain: ch-dd John Simpson, Brian Scannell, Ben Lincoln, Tom Rippeth, Natasha Lucas a Ben Powell. Ch-dd: Enillodd Tîm ymchwil Dyfarnwyd Gwobr Vaisala y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol ar gyfer Arsylwi Tywydd ac Offeryniaeth ar gyfer 2018 i'r Athro Tom Rippeth a'i dîm ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Âé¶¹Íø.
Mae gan yr Athro Rippeth ddiddordeb mewn sut mae gwahanol gyrff dŵr yn cymysgu o fewn ein cefnforoedd a sut mae cymysgu dyfroedd o wahanol dymereddau a halwynedd yn gyrru ac yn effeithio ar batrymau hinsawdd a thywydd byd-eang.
Mae grŵp ymchwil Tyrfedd a Chymysgu, dan arweiniad yr Athro Rippeth yn Ysgol Gwyddorau Eigion enwog y Brifysgol, wedi bod yn gyfrifol am gynnydd mawr mewn dulliau sydd wedi eu datblygu i fesur cymysgu neu dyrbedd o fewn y moroedd dros nifer o ddegawdau. Maent wedi cynyddu'n fawr y gallu i wneud mesuriadau cyfres amser, a thrwy ofynion llai o ran amser ar longau, maent hefyd wedi torri'r costau cysylltiedig.
Dywedodd yr Athro Tom Rippeth:
“Gellir defnyddio'r dull newydd hwn lle bynnag y gall long ddefnyddio ac adfer angorfa, ac mae hynny'n cynnwys y rhan fwyaf o'r rhanbarthau pegynol. O ganlyniad, bydd y mesuriadau hyn yn helpu i chwyldroi dealltwriaeth o dyrbedd morol a'i effaith ar yr hinsawdd fyd-eang.â€
Cyflwynwyd Gwobr Vaisala 2018 yng Nghyfarfod a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol
Ers dros ddau ddegawd, mae aelodau'r Grŵp wedi arwain mewn mesur tyrbedd morol. Maent yn dilyn ôl troed academyddion blaenllaw eraill ym maes eigioneg dros y 50 mlynedd diwethaf o wyddorau morol ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019