Âé¶¹Íø

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Âé¶¹Íø yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Âé¶¹Íø a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Âé¶¹Íø yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Âé¶¹Íø a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Cyfuno iechyd cyhoeddus a gwyddoniaeth amgylcheddol i ddatblygu rhagolygon paill

Gall ymchwil newydd sy'n cyfuno data gofal iechyd gyda thechnegau ecolegol arloesol, osod cynllun  i wella’r rhagolygon paill yn y dyfodol.

Mae'r rhagolygon paill presennol, sy'n hanfodol i bobl ag asthma acíwt neu glefyd y gwair reoli eu symptomau, yn dibynnu ar fesur cyfanswm paill glaswellt yn yr atmosffer. Ond nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng paill o wahanol fathau o laswellt.

Mae cysylltiad posibl wedi ei ddangos erbyn hyn rhwng paill o rai rhywogaethau glaswellt a phroblemau iechyd resbiradol.

Mae’r canlyniadau, a gyhoeddwyd yn Current Biology, (11.3.21 DOI: 10.1016/j.cub.2021.02.019) wedi cael eu cynhyrchu gan y project cyntaf i ddefnyddio dull biofonitorio ecolegol o'r enw eDNA ('DNA amgylcheddol') i archwilio'r cysylltiadau rhwng paill yn yr awyr ac iechyd pobl.  Mae'r ymchwil dan arweiniad Prifysgol Âé¶¹Íø a Phrifysgol Caerwysg yn rhan o broject ymchwil PollerGEN ar raddfa fwy (a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol), a sefydlodd yn 2019 y defnydd o dechnegau eDNA i nodi gwahanol fathau o rawn paill glaswellt microsgopig.

Mae’r gwaith presennol yn cydfynd â dwy flynedd o gofnodion am ddata iechyd cyhoeddus (derbyniadau i'r ysbyty yn gysylltiedig ag asthma, a meddygon teulu yn rhagnodi triniaethau i alergedd resbiradol a thrwynol) â'r data monitro eDNA ar gyfer paill o wahanol rywogaethau glaswellt a wnaed mewn 14 lleoliad ledled y DU.

Ar rai adegau o'r flwyddyn, rhwng mis Mai a chanol mis Awst mewn mannau tymherus, glaswellt yw'r alergen pwysicaf yn yr awyr agored sy’n achosi clefyd y gwair ac asthma.

Eglurodd yr Athro Simon Creer, o Brifysgol Âé¶¹Íø, sy'n arwain yr ymchwil PollerGEN:

“Dyma un o’r camau cyntaf a phrawf cysyniad damcaniaethol o broject ymchwil helaeth, a all arwain at ragolygon paill mwy manwl gywir neu ragolygon ar gyfer gwahanol fathau o alergenau.

Drwy’r byd, mae dros 400 miliwn o bobl yn dioddef o rhinitis alergaidd ac mae dros 300 miliwn yn dioddef o asthma. Mae trin asthma alergaidd yn costio dros £2 filiwn y flwyddyn i'r DU mewn costau uniongyrchol yn unig, felly mae arbedion posib mawr i'w gwneud.â€

Dywedodd Dr Francis Rowney, a arweiniodd y rhan data iechyd o'r gwaith pan oedd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerwysg:
“Er mai dyddiau cynnar yw hyn, roedd yn hynod ddiddorol darganfod y gall rhywogaethau glaswellt penodol gael mwy o effaith ar iechyd resbiradol na rhai eraill.â€

“Proteinau yn y paill yw’r hyn sy’n sbarduno adweithiau alergaidd, ac mae gan rai rhywogaethau glaswellt yr un proteinau alergenig. Mae angen i ni gael gwell dealltwriaeth o sail foleciwlaidd yr alergenau ac adweithiau alergaidd i wneud ymchwil pellach ynglŷn â pha rai yw'r rhywogaethau mwyaf alergenig, ac a oes gwahaniaethau mewn adweithiau rhwng gwahanol bobl."

Roedd Dr Georgina Brennan, pan oedd wedi'i lleoli yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Âé¶¹Íø, yn un o dîm a arloesodd wrth ddefnyddio monitro DNA amgylcheddol.

Meddai:

“Mae grawn paill o wahanol rywogaethau o laswellt yn edrych bron yn union yr un fath, hyd yn oed o dan y microsgop, a chyn dyfodiad eDNA ynghyd ag offer moleciwlaidd fel metabarcodio a PCR meintiol (qPCR), nid oedd yn bosibl adnabod paill glaswellt o wahanol rywogaethau glaswellt ac archwilio a oedd gwahanol laswelltau yn achosi mwy o adwaith alergenig.

Gwnaethom edrych ar amrywiaeth o'r rhywogaethau mwyaf cyffredin yn ein safleoedd. Yn yr astudiaeth ddwy flynedd gyntaf hon, gwelwyd cysylltiadau rhwng y gweiriau cyffredin, Rhonwellt y ci (Cynosurus cristatus) a Chynffon y gath (Phleum pratense), ond bydd angen llawer mwy o ddata arnom i fod yn fanwl gywir ynglŷn â pha fathau o baill glaswellt sy’n cael yr effaith gwaethaf. Byddai setiau data hirach, yn cynnwys mwy o rywogaethau a gwahanol batrymau tywydd a lleoliadau yn darparu'r dystiolaeth sydd ei hangen."

Wrth ddychmygu datblygiadau pellach, dywedodd Georgina, a arweiniodd y rhan eDNA o’r ymchwil y gallai weld dyfodol lle byddai rhwydwaith byd-eang o samplwyr paill awtonomaidd, a allai wahaniaethu a mesur paill yn yr awyr, yn caniatáu biofonitorio pwysig o aeroalergenau.

“Efallai mai’r hyn sydd ei angen arnom yw nid yn unig rhagolwg o gyfanswm paill glaswellt, ond hefyd rhagolwg neu ragolygon o’r mathau mwyaf alergenig o baill glaswellt fel yr ydym yn ei wneud ar gyfer coed a chwyn," ychwanegodd:

Roedd y papur ymchwil yn cynnwys gweithio amlddisgyblaethol ar draws sawl sefydliad. Roedd y rhain hefyd yn cynnwys Prifysgol Lund, Prifysgol Caerwrangon, Prifysgol Aberystwyth, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Adran Mathemateg ac Adran Daearyddiaeth, Prifysgol Caerwysg; Allergy UK, Y Swyddfa Dywydd a Phrifysgol Queensland.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2021

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô
    • Diwrnodau agored
    • Fideos
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Polisïau'r Coleg
    • Iechyd a Diogelwch
    • Cysylltiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Âé¶¹Íø

Âé¶¹Íø, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Âé¶¹Íø
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Âé¶¹Íø yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Âé¶¹Íø