Darganfod rhywogaeth gwiberod newydd
Mae grŵp o wyddonwyr o Brifysgol Âé¶¹Íø wedi cael sylw yn y cylchgrawn National Geographic yr wythnos hon ar ôl iddynt ddarganfod dwy rywogaeth nadredd newydd yn Ne Ddwyrain Asia.
Mae’r grŵp, dan arweiniad Dr Anita Malhotra yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Âé¶¹Íø, wedi cyhoeddi papur yn y cyfnodolyn Zootaxa yn manylu ar hanes darganfod y wiber bydew werdd llygaid rhuddem - Cryptelytrops Rubeus. llun: Peter Paul Van Dijk a rhywogaeth debyg arall â llygaid melyn o'r enw gwiber bydew werdd Mynyddoedd Cardamom. Mae’r ddwy rywogaeth wedi cael eu hadnabod fel rhywogaethau gwahanol i'r wiber bydew llygaid mawr diolch i dros ddeuddeg mlynedd o waith yn y maes, dadansoddiad manwl ar nodweddion corfforol a dadansoddiad genetig. Mae’r olaf yn elfen hollbwysig gan fod amrywiaeth eang o rywogaethau’n gallu arddangos nodweddion corfforol tebyg iawn.
Gwnaed y gwaith dan arweiniad Dr Malhotra, mewn cydweithrediad â’r Roger Thorpe a Dr Bryan Stuart (oedd ar y pryd yn fyfyriwr PhD yn yr Amgueddfa Maes yn Chicago,ond sydd ar hyn o bryd yn Guradur Herpetoleg yn Amgueddfa Gwyddorau Naturiol Gogledd Carolina yn Raleigh, UDA). Ond gwnaed llawer o'r gwaith genetig gan y fyfyrwraig Mrinalini fel rhan o’i doethuriaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol.
Eglurodd Dr Malhotra: “Mae lliw’r wiber bydew llygaid mawr yn amrywio cryn dipyn, felly roedd yn anodd penderfynu a oedd lliw llygaid trawiadol y wiber bydew llygaid rhuddem, a’r gwahaniaethau mwy cynnil yng ngwiber bydew mynyddoedd Cardamom yn ddigon o reswm dros eu diffinio’n rhywogaethau newydd. Rydym wedi treulio rhai blynyddoedd yn gweithio ar eneteg y grŵp i wneud yn siwr eu bod yn rhywogaeth wahanol mewn gwirionedd, felly mae'r papur yn cynrychioli pen llanw 12 mlynedd o waith gan y grwp cyfan."
Ychwanegodd Dr Malhotra: “Mae ein darganfyddiadau’n bwysig oherwydd bod rhywogaethau â llai o amrywiaeth yn llawer mwy tebygol o wynebu difodiant. Mae adnabod y rhywogaethau hyn yn gam cyntaf tuag at eu hamddiffyn. Mae'n golygu bod pobl yn gwybod beth sydd yno i’w amddiffyn. Er bod rhai rhywogaethau o wiberod pydew fel pe baent yn ymaddasu’n eithaf da i bresenoldeb dyn, mae eraill yn fwy cyfyngedig i goedwigoedd. Yn dibynnu ar y rhywogaeth, y prif fygythiadau yw dinistrio cynefinoedd a gor-gasglu. Fel rheol mae’r rhywogaethau hyn yn cael eu hel i’w defnyddio mewn meddyginiaethau traddodiadol, ond yn achos rhywogaeth hardd fel y wiber bydew llygaid rhuddem, gallai llawer ohonynt gael eu targedu er mwyn eu cadw mewn caethiwed.
“Y cam nesaf yn y project fydd adnabod rhywogaethau eraill ac rydym yn cydweithio â grwpiau ym mhob man yn Asia i wneud hyn. Rydym yn edrych hefyd ar wenwyn y nadredd a sut mae bywyd a chysylltiadau esblygol yn effeithio ar hyn.
Mae grŵp ymchwil Ecoleg Foleciwlaidd ac Esblygiad Ymlusgiaid yn arweinwyr byd yn eu maes.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2011