Dathlu rhagoriaeth ymysg myfyrwyr y flwyddyn gyntaf
Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.
Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Âé¶¹Íø yn cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.
Derbyniodd tair ar ddeg o fyfyrwyr ysgoloriaethau gwerth o £3,000 hyd at £4,000 mewn noswaith wobrwyo arbennig a gynhaliwyd gan y Dirprwy Is-Ganghellor Yr Athro Oliver Turnbull.
Rhoddwyd 65 o Ysgoloriaethau Mynediad werth dros £138,000 i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf.
Y myfyrwyr a dderbyniodd ysgoloriaethau oedd:
- Myfyriwr Ieithyddiaeth, Robert Reddington
- Myfyriwr Cerdd, Jerome Becks
- a Sioned Rowlands o Ysgol y Gymraeg
- Myfyrwraig Peirianneg Electronig, Daisy Hung
- o’r Ysgol Gemeg
- o Ysgol y Gyfraith
- Myfyrwyr Gwyddorau Naturiol Alex Moir, , Harry Elliott a Llywelyn Hill
- o’r Ysgol Seicoleg
- Myfyrwraig Gwyddorau Chwaraeon, Kelly Baldwin
Enillwyr Ysgoloriaeth RhagoriaethMae Elinor Pritchard o Rosneigr yn Ynys Mon yn gyn disgybl Ysgol Gyfun Llangefni. Mae Elinor wedi ennill Ysgoloriaeth Rhagoriaeth am iddi gael A* mewn Celf, A mewn Daearyddiaeth ac A mewn Cymraeg yn ei Lefel A.
Dywedodd Elinor, “Mae’n deimlad gwych ennill yr ysgoloriaeth gan nad oeddwn yn ei ddisgwyl. Gweithiais yn galed iawn ar gyfer fy arholiadau Lefel A ac mae’n bleser cael clod am wneud hynny.â€
Mae Mirain Llwyd Roberts, sy’n astudio Seicoleg, yn 19 mlwydd oed ac yn dod o Langwm, Sir Conwy. Mynychodd Ysgol y Berwyn, Bala a derbyniodd 3 A yn ei Lefel A, ynghyd a'r Bagloriaeth Cymraeg.
Meddal Mirain, "Mae’n deimlad anhygoel, nid oeddwn wedi disgwyl y buasai gennyf unrhyw fath o siawns i ennill yr ysgoloriaeth yma. Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried cymryd rhan yn y cynllun Erasmus rhywbryd yn ystod fy nghyfnod yma ym Mangor ac felly buasai yr arian o gymorth mawr i gwblhau hwnnw. Hefyd bydd yn ddefnyddiol iawn i brynnu llyfrau ac adnoddau addysgol eraill."
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014