Dyfarnu Medalau Cwmni’r Brethynwyr i fyfyrwyr o Brifysgol Âé¶¹Íø
Cyflwynwyd Medalau’r Brethynwyr i fyfyrwyr o Brifysgol Âé¶¹Íø yn ddiweddar. Mae Cwmni’r Brethynwyr yn un o Gwmnïau Lifrai hanesyddol Dinas Llundain, sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni’r Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i’w dyfarnu i fyfyrwyr ôl-radd nodedig.
Ers dros gan mlynedd, mae’r Cwmni wedi bod yn gysylltiedig â Phrifysgol Âé¶¹Íø, i ddechrau drwy roi grantiau sylweddol tuag at godi rhai o brif adeiladau’r Brifysgol, yn cynnwys y llyfrgell, y labordai gwyddoniaeth a’r Adran Peirianneg Electronig.
Yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (myfyrwyr) oedd yn arwain y seremoni, a John Giffard oedd yn cyflwyno’r medalau i’r myfyrwyr. Mae’r gwobrau pwysig hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth y myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned.
Ben Butler (chwith) yn derbyn ei fedal gan John Giffard o Gwmni'r Brethynwyr.Enillodd Benjamin Butler, 25, o Cranleigh, Surrey fedal arian Cwmni'r Brethynwyr ac mae’n agosáu at ddiwedd ei PhD mewn Geocemeg Forol. Astudiodd Benjamin am radd israddedig yn yr Ysgol Cemeg ac am radd ôl-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion cyn dechrau ar ei PhD yn 2012.
Meddai Benjamin: "Rwy'n falch iawn o fod wedi ennill y fedal hon yn gydnabyddiaeth am fy nghyfraniad fel myfyriwr ôl-raddedig. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn o gael cymorth hael gan fy ngoruchwyliwr, Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol yng nghyswllt nifer o gyfrifoldebau yn ystod fy PhD. Mae’r cymorth hwn wedi fy ngalluogi i gymryd rhan mewn ymchwil, ymwneud â'r cyhoedd, a chymryd rhan yn chwaraeon y Brifysgol ac mae wedi rhoi profiad ôl-raddedig cyflawn a boddhaus imi. Gobeithio y bydd y profiad, a chydnabyddiaeth y wobr hon, yn fuddiol imi wrth geisio dilyn gyrfa yn y byd academaidd.â€
Enwebwyd Benjamin am fedal gan yr Athro Hilary Kennedy, a ddywedodd: "Mae Ben yn un o'r myfyrwyr PhD gorau i mi eu goruchwylio. Yn ystod ei PhD gwnaeth gyfraniad sylweddol at waith ymchwil mewn amgylcheddau rhew môr pegynol mewn tymheredd is-sero. Mae ei waith bob amser o'r safon uchaf fel y gwelir o’r nifer o wobrau y mae wedi’u hennill.
"Mae Ben wedi cyfrannu'n fawr at yr ysgol trwy roi arddangosiadau yn ystod Diwrnodau Agored a rhoi cyflwyniadau i'w gyd-fyfyrwyr. Mae hefyd wedi cynrychioli’r Ysgol a'r Brifysgol fel rhan o broject ymwneud â'r cyhoedd, gan gynnal gweithdai gwyddoniaeth ymarferol i dros 1000 o ddisgyblion ysgol gogledd Cymru."
Géraldine Derroire yn derbyn ei medal gan John Giffard o Gwmni'r Brethynwyr.Enillodd Géraldine Derroire, 35, o Clermont-Ferrand, Ffrainc, fedal efydd y Brethynwyr. Mae Géraldine yn y tri mis olaf o orffen ei PhD ar ecoleg coedwigoedd trofannol sych, drwy Raglen Doethuriaeth Erasmus Mundus FONASO (Forest and Nature for Society) yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth.
Dywedodd Géraldine: "Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn yn derbyn y wobr hon. Mae’n anogaeth wych ar adeg pan rwy’n ceisio gorffen fy PhD ac ar fin cychwyn ar yrfa ymchwil. Mae astudio ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø wedi fy nghyfoethogi’n fawr. Rwyf wedi cael fy hyfforddi nid yn unig i wneud gwaith ymchwil, ond hefyd i fod yn ymchwilydd, diolch i'r profiad a'r cyfleoedd academaidd ehangach mae Prifysgol Âé¶¹Íø wedi eu rhoi i mi. Bu cael ymgymryd â gweithgareddau addysgu yn arbennig o bleserus. Rwy'n ddiolchgar iawn i fy ngoruchwyliwr, Yr Athro John Healey, am ei gefnogaeth a’i arweiniad, ac i staff academaidd a gweinyddol yr Ysgol am ddarparu amgylchedd gwych i weithio ynddo."
Enwebwyd Géraldine am y fedal gan yr Athro John Healy, a ddywedodd: "Trwy gydol ei hastudiaethau doethurol, mae Géraldine wedi cymryd yr awenau deallusol yn ei phroject gan fod yn hynod ragweithiol wrth gynllunio a chynnal rhaglen ymchwil o ansawdd uchel. Roedd hyn yn gofyn iddi fuddsoddi cryn amser i ddysgu gwybodaeth a medrau newydd, ac o ganlyniad mae hi bellach yn wyddonydd gyrfaol gyda photensial uchel iawn. Mae ei hegni, ei phenderfyniad a'i gallu i addasu yng nghyd-destun amlddiwylliannol Costa Rica wedi caniatáu iddi i gynnal cyfres uchelgeisiol o brojectau ymchwil maes llwyddiannus yno. Datblygodd gydweithrediad cryf gydag ymarferwyr cadwraeth ac adfer a gwyddonwyr rhyngwladol yn yr ardal."
Dywedodd John Giffard: "Rydym yn falch iawn o fod ym Mangor ac mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i gwrdd â’r staff a Myfyrwyr. Rydym wedi gweld yr adeilad a'r cyfleusterau newydd gwych yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion a Pontio, y ganolfan celfyddydau ac arloesi newydd. Rydym wedi gweld gwaith gwych gan y myfyrwyr ac yr ydym yn falch iawn o allu eu cefnogi. Rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas gyda Phrifysgol Âé¶¹Íø, sydd wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd ac a fydd, gobeithio, yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod."
Straeon Perthnasol
Medal efydd i Ben
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2016