Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld i glywed am 25 mlynedd o ymchwil
Yr Athro Chris Freeman yn dangos cyfarpar sy'n dadansoddi nwyon a geir o wlypdiroedd i Dr Emyr Roberts.Bu Dr Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld â Phrifysgol Âé¶¹Íø yn ddiweddar i gyflwyno darlith ar y cyfleoedd ar gyfer rheolaeth integredig ar ein hadnoddau naturiol i gynulleidfa wadd o staff a myfyrwyr.
Cymerodd Dr Roberts y cyfle i gyfarfod â sawl aelod o staff Prifysgol Âé¶¹Íø sy’n gweithio ar themâu amgylcheddol, gan gynnwys yr Athro David Thomas, Cyfarwyddwr Sêr Cymru, sef Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Carbon Isel, Ynni ac Amgylchedd, yr Athro Colin Jago, Deon y Coleg Gwyddorau Naturiol ²¹â€™r Athro Chris Richardson, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Yn ystod yr ymweliad, cafodd gyfle hefyd i ddysgu mwy am 25 mlynedd o ymchwil ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø i wlypdiroedd.
Mae Âé¶¹Íø ar flaen y gad mewn ymchwil yn y maes hwn. Mae’r Athro Chris Freeman, sydd yn Bennaeth ar yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, wedi arloesi mewn ymchwil yn y maes ac yn arwain Tîm ymchwil a darlithio Grŵp Gwlypdiroedd Âé¶¹Íø yn yr Ysgol. Mae’r Athro Freeman a’i dîm wedi ymchwilio i feysydd mor eang â defnyddio gwlypdiroedd i drin gwastraff llaethdai hyd at weithgaredd ensymau mewn gwlypdiroedd mangrof. Mae papurau gwyddonol o’u heiddo wedi’u cyhoeddi mewn sawl cylchgrawn gwyddonol o bwys, ac maent wedi cynghori gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi ledled y byd, ac eitemau ar eu gwaith wedi cael sylw ar gyfryngau mor wahanol i’w gilydd â Gardeners’ World ²¹â€™r New York Times.
Bu Dr Emyr Roberts a Dr Kathryn Monk, Prif Gynghorydd Gwyddoniaeth CNC hefyd yn ymweld â'r acwaria dŵr croyw. Yma efo'r Athro Chris Freeman. ac ymchwilydd Alix Tyers.Meddai Dr Emyr Roberts:
“Ers 25 mlynedd, mae Prifysgol Âé¶¹Íø wedi bod ar y blaen o safbwynt ymchwil a dysgu ym maes gwlypdiroedd, ac mae’n wych fod gennym y fath arbenigedd yma yng Nghymru.â€
“Rydym yn dal i ddysgu pa mor bwysig yw ein gwlypdiroedd i ni – nid yn unig o ran y cynefinoedd unigryw y maent yn eu cynnig, ond hefyd am eu rôl yn atal llifogydd, trin dyfroedd llygredig, amddiffyn yr arfordir ac wrth atal newid hinsawdd.
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod y buddiannau lluosog a ddaw o wlypdiroedd – ac rydym yn gweithio gydag eraill i’w hadfer, er enghraifft trwy broject Corsydd Môn a Llŷn.
“Rwy’n talu teyrnged i’r Athro Chris Freeman sydd wedi bod yn allweddol wrth arwain tîm ymroddgar o wyddonwyr gwlypdiroedd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Phrifysgol Âé¶¹Íø ar ymchwil i wlypdiroedd ac at gymhwyso’r gwaith hwnnw ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru.â€
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2014