鶹

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • 鶹 yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • 鶹 a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • 鶹 yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • 鶹 a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Gall coedwigoedd trofannol ymdopi â'r gwres, i ryw raddau

Mae coedwigoedd trofannol yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd newid yn yr hinsawdd, ond mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn Science yn awgrymu y gallant barhau i storio llawer iawn o garbon mewn byd cynhesach, os bydd gwledydd yn cyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae coedwigoedd trofannol y byd yn storio gwerth chwarter canrif o allyriadau tanwydd ffosil yn eu coed. Mae pobl yn ofni y gall cynhesu byd-eang leihau'r storfa hon os bydd llai o goed yn tyfu neu os bydd mwy o goed yn marw, gan gyflymu newid yn yr hinsawdd.

Roedd Dr Simon Willcock o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 鶹 yn un o dîm ymchwil rhyngwladol a fesurodd dros hanner miliwn o goed mewn 813 o goedwigoedd ledled y trofannau i asesu faint o garbon sy'n cael ei storio gan goedwigoedd sy'n tyfu o dan amodau hinsoddol gwahanol heddiw.

Mae'r tîm wedi darganfod bod coedwigoedd trofannol yn parhau i storio lefelau uchel o garbon mewn tymheredd uchel, gan ddangos y bydd y coedwigoedd hyn yn gallu ymdopi â gwres hyd at drothwy amcangyfrifedig o 32 gradd Celsius yn ystod y dydd yn y tymor hir.

Ac eto, bydd hyn yn bosib dim ond os bydd coedwigoedd yn cael amser i addasu, eu bod yn parhau i fod yn gyfan, ac os yw cynhesu byd-eang yn gyfyngedig er mwyn osgoi gwthio tymereddau byd-eang i amodau y tu hwnt i'r trothwy critigol.

Meddai Dr Simon Willcock: “Coedwigoedd trofannol yw un o ecosystemau pwysicaf y byd. Cyfeirir atynt weithiau fel 'ysgyfaint y blaned', maent yn helpu sefydlogi hinsawdd y byd, yn ogystal â darparu cartref i tua hanner y planhigion a'r anifeiliaid sy'n byw ar y ddaear. Oherwydd hyn, mae'n hollbwysig deall effaith newid yn yr hinsawdd ar yr ecosystemau hyn."

Meddai'r prif awdur Dr Martin Sullivan, o Brifysgol Leeds a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion: “Mae ein dadansoddiad yn datgelu bod coedwigoedd trofannol yn rhyfeddol yn eu gallu i wrthsefyll gwahaniaethau tymheredd bach, hyd at dymheredd penodol. Os byddwn yn cyfyngu ar newid yn yr hinsawdd gallant barhau i storio llawer iawn o garbon mewn byd cynhesach.

“Mae’r trothwy 32 gradd yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol lleihau ein hallyriadau ar frys er mwyn osgoi gwthio gormod o goedwigoedd y tu hwnt i’r parth diogelwch.

“Er enghraifft, os ydym yn cyfyngu tymereddau cyfartalog byd-eang i gynnydd o 2°C yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol, mae hyn yn gwthio bron i dri chwarter y coedwigoedd trofannol uwchlaw'r trothwy gwres a nodwyd gennym. Bydd unrhyw gynnydd pellach yn y tymheredd yn arwain at golledion cyflym mewn carbon coedwigoedd.

“Byddai pob gradd ychwanegol mewn tymheredd yn rhyddhau 51 biliwn tunnell o CO2 o goedwigoedd trofannol i'r awyrgylch”.

Mae coedwigoedd yn rhyddhau carbon deuocsid i'r awyrgylch pan fo'r carbon a ddaw o dyfiant coed yn llai na'r hyn a gollir trwy goed yn marw a phydru.

Yr astudiaeth hon yw'r gyntaf i ddadansoddi sensitifrwydd hirdymor yr hinsawdd yn seiliedig ar arsylwi coedwigoedd cyfan yn uniongyrchol ar draws y trofannau. Mae'r ymchwil yn awgrymu mai'r tymheredd tymor hir sy'n cael yr effaith fwyaf ar stociau carbon coedwig trwy leihau twf, ac mai sychder yn lladd coed yw'r ail ffactor allweddol.

Daw'r ymchwilwyr i'r casgliad bod gan goedwigoedd trofannol allu tymor hir i addasu i rywfaint o newid yn yr hinsawdd, yn rhannol oherwydd eu bioamrywiaeth uchel, wrth i rywogaethau coed sy'n gallu goddef amodau hinsoddol newydd dyfu'n dda a disodli rhywogaethau eraill nad ydynt yn gallu goddef yr amodau newydd cystal, dros y tymor hir.

Ond mae gwneud y mwyaf o'r gwydnwch posib hwn yn dibynnu ar gadw coedwigoedd yn gyfan.

Mae un o'r cyd-awduron, yr Athro Beatriz Marimon o'r State University of Mato Grosso ym Mrasil yn astudio rhai o goedwigoedd trofannol poethaf y byd yng nghanol Brasil. Meddai: “Mae ein canlyniadau’n awgrymu bod coedwigoedd cyfan yn gallu gwrthsefyll rhywfaint o newid yn yr hinsawdd. Ond eto mae'r coed hyn sy'n gallu gwrthsefyll gwres hefyd yn wynebu bygythiadau uniongyrchol gan dân a darnio.

“Mae sicrhau bod y coed yn gallu addasu i'r hinsawdd yn golygu yn gyntaf oll bod rhaid amddiffyn a chysylltu'r coedwigoedd sy'n weddill.”

Mae'r Athro Marimon yn nodi'r cyfyngiadau amlwg i addasu. “Mae'r astudiaeth yn nodi trothwy gwres o 32 gradd Celsius mewn tymheredd yn ystod y dydd. Uwchlaw'r pwynt hwn mae carbon coedwig drofannol yn gostwng yn gyflymach gyda thymheredd uwch, waeth pa rywogaethau sy'n bresennol.”

Dim ond gyda degawdau o waith maes gofalus, yn aml mewn lleoliadau anghysbell, y bu modd deall sut mae coedwigoedd trofannol y byd yn ymateb i'r hinsawdd. Cyfunodd y tîm byd-eang o 225 o ymchwilwyr arsylwadau mewn coedwigoedd ar draws De America (), Affrica () ac Asia (). Ym mhob llain fonitro, defnyddiwyd diamedr ac uchder pob coeden i gyfrifo faint o garbon roeddent yn ei storio. Ailymwelwyd â'r lleiniau bob ychydig flynyddoedd i weld faint o garbon oedd yn cael ei amsugno, a pha mor hir yr oedd yn cael ei storio cyn bod y coed yn marw.

Er mwyn cyfrifo newidiadau mewn storio carbon, roedd rhaid nodi bron i 10,000 o rywogaethau coed a dros ddwy filiwn o fesuriadau o ddiamedr coed, mewn 24 gwlad drofannol. Yn ôl yr Athro Simon Lewis o Brifysgol Leeds a Choleg Prifysgol Llundain: “Mae faint o garbon sy'n cael ei amsugno a'i storio gan goedwigoedd yn rhan hanfodol o sut mae'r ddaear yn ymateb i newid yn yr hinsawdd.”

“Mae’r astudiaeth yn tanlinellu pam mae cydweithredu mewn ymchwil tymor hir yn hanfodol er mwyn deall effeithiau newid amgylcheddol. Mae'n rhaid i wyddonwyr gydweithio yn fwy nag erioed, gan fod monitro iechyd coedwigoedd trofannol mawr ein planed yn hanfodol i bob un ohonom."

Bydd lleihau allyriadau carbon digon i allu cadw coedwigoedd o fewn y parth diogelwch yn heriol iawn. Meddai un arall o awduron yr astudiaeth, yr Athro Oliver Phillips o Brifysgol Leeds: “Ni fu cadw ein planed a’n hunain yn iach erioed yn fwy pwysig. Ar hyn o bryd, mae gan ddynoliaeth gyfle unigryw i symud tuag at hinsawdd sefydlog.

“Trwy beidio â dychwelyd i ‘fusnes fel arfer’ ar ôl yr argyfwng presennol, gallwn sicrhau bod coedwigoedd trofannol yn parhau i fod yn storfeydd carbon enfawr. Mae'n rhaid diogelu'r coedwigoedd rhag newid yn yr hinsawdd, datgoedwigo a chamfanteisio ar fywyd gwyllt fod yn flaenoriaeth ac yn ganolbwynt i'n hymdrechion i sicrhau bioddiogelwch byd-eang.

“Dychmygwch pe bawn yn cymryd y cyfle hwn i newid y ffordd rydym yn trin ein daear. Gallwn gadw ein cartrefi'n ddigon oer i ddiogelu'r coedwigoedd godidog hyn - a chadw pob un ohonom yn fwy diogel.”

Rhagor o wybodaeth:

Cyhoeddir y papur Long-term thermal sensitivity of Earth’s tropical forests yn Science 22 Mai 2020 (Embargo 21 Mai 19:00 BST / 14:00 ET) (DOI: 10.1126 / gwyddoniaeth.aaw7578)

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2020

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ô-徱Dz
    • Diwrnodau agored
    • Fideos
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Polisïau'r Coleg
    • Iechyd a Diogelwch
    • Cysylltiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol 鶹

鶹, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol 鶹
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol 鶹 yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol 鶹