Âé¶ąÍř

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Clirio 2025
      • Cyrsiau Clirio
      • Gwneud Cais Clirio
      • Ffonio'r Llinell Gymorth Clirio
      • Sgwrs Fyw Clirio
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Diwrnodau Agored Clirio
    • Llety i Fyfyrwyr
      • Darganfod Eich Ystafell Berffaith
      • Sicrwydd Llety
    • Amdanom Ni
      • Taith Rithwir
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Rhesymau dros astudio yn lleol
      • Âé¶ąÍř a'r Ardal

    Dyddiau Agored Clirio

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Clirio 2025
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ă”l-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ă”l-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Clirio 2025

    Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig

    Archebu Prosbectws Poced

    Dyddiau Agored

    Taith Rhithiwr

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Âé¶ąÍř a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Croeso 2024
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Wythnos Groeso

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • PolisĂŻau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Clirio 2025
      • Cyrsiau Clirio
      • Gwneud Cais Clirio
      • Ffonio'r Llinell Gymorth Clirio
      • Sgwrs Fyw Clirio
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Diwrnodau Agored Clirio
    • Llety i Fyfyrwyr
      • Darganfod Eich Ystafell Berffaith
      • Sicrwydd Llety
    • Amdanom Ni
      • Taith Rithwir
    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Clirio 2025
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ă”l-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ă”l-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Clirio 2025

    Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig

    Archebu Prosbectws Poced

    Dyddiau Agored

    Taith Rhithiwr

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Âé¶ąÍř a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Croeso 2024
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Wythnos Groeso

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • PolisĂŻau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Gwneud defnydd llawn o blanhigion

Dr Dave Preskett yn paratoi'r eiddew ar gyfer ei beioburo.Dr Dave Preskett yn paratoi'r eiddew ar gyfer ei bioburo.Mae eiddew, sy’n tyfu’n helaeth yng Nghymru, yn un o nifer o blanhigion sy’n cael eu harchwilio am y cemegau mân ac echdynion a ffibrau gwerthfawr eraill maent yn eu cynnwys. Mae’r gwaith ymchwil yma’n  cael ei gynnal mewn bioburfa ar Ynys MĂ´n a allai gynnig model ar gyfer creu gwaith yng nghefn gwlad yn y dyfodol. Bwriad yr ymchwil yw chwilio am ddeunyddiau amgen i gymryd lle cynnyrch a chynhwysion sy’n deillio o olew crai a  ddefnyddir yn y diwydiannau cynhyrchu ac adeiladu.

Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Âé¶ąÍř sy’n gyfrifol am y gwaith yma o ddatblygu ffynonellau newydd ar gyfer cemegau mân a deunyddiau eraill. Mae’r Ganolfan yn canolbwyntio ar ganfod defnyddiau newydd ar gyfer adnoddau naturiol gwerthfawr sydd ar hyn o bryd yn cael eu hanwybyddu.

Mae’r gwyddonwyr yn gwneud gwaith ymchwil i’r cyfansoddion a geir mewn gwahanol blanhigion a sut y gellid eu defnyddio, a hefyd yn gwneud gwaith penodol o dan gontract i gwmnïau.

Gallai’r ffynhonnell newydd yma o ddeunyddiau naturiol greu cyfleoedd gwaith o bwys yng nghefn gwlad trwy gyfleusterau prosesu a elwir yn bioburfeydd.

Mae eiddew yn un o amryw o blanhigion sydd wedi cael ei archwilio’n drylwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n debyg y gallai eiddew ddarparu nifer o echdynion a ellid eu defnyddio mewn deunyddiau’n amrywio o gynnyrch personol fel siampŵ, at ddeunydd garddwriaethol a hyd yn oed yn y diwydiant bwyd.

Un o'r cemeigion pur a bioburwyd o eiddew.Un o'r cemeigion pur a bioburwyd o eiddew.Mae Dr Dave Preskett, sy’n gemegydd datblygiadol, wedi treulio 10 mlynedd yn edrych ar bob cyfansoddyn sydd yn eiddew ac mae’r hyn mae wedi ei ganfod yn ddiddorol iawn:

“Nid ydym yn gwneud y gorau o eiddew; mae’r planhigyn yn llawn potensial,” meddai. “Rydym wedi defnyddio echdynnyn ohono i wneud pelenni lladd gwlithod ac rydym wedi cynnal treialon yn ei ddefnyddio fel ffwngleiddiad i drin malltod tatws, yn lle chwistrellu cemegau sy’n deillio o olew, ac mae wedi profi’n effeithiol iawn yn diogelu cnydau. Mae potensial gwych o ran datblygu’r un echdynnyn i’w ddefnyddio mewn cynnyrch i drin cen ar y pen a tharwden y traed. Mae olew o’r aeron yn fwytadwy, gan nad yw eiddew yn wenwynig, yn wahanol i’r gred gyffredin. Mae iddo holl briodweddau iachusol olew olewydd ond mae iddo ansawdd debycach i fenyn neu lard.”

Fel yr esbonia Adam Charlton, rheolwr bioburfa’r Ganolfan ym Mona, Ynys Môn: “Ein rôl ni yw gwneud y gwaith maes sylfaenol ar gyfer cynnyrch newydd y gall busnesau eraill ei ddatblygu ar gyfer y farchnad. Rydym yn canolbwyntio ar ganfod defnydd newydd gwerthfawr ar gyfer deunydd o ffynonellau naturiol, a hynny’n amrywio o ddeunyddiau fferyllol a chemegau mân at deils toi ac insiwleiddio ar gyfer y diwydiant adeiladu.”

Ychwanega Dr Charlton: “Ni fyddai’r cnydau sydd dan ystyriaeth yn cystadlu am dir amaethyddol yn erbyn cnydau bwyd hanfodol gan eu bod yn tyfu fel arfer ar dir ffiniol gwael. Mae rhai’n cael eu cynhaeafu eisoes at ddiben arall, ond nid yw’r holl blanhigyn yn cael ei ddefnyddio. Rydym yn edrych ar ddefnyddio’r rhannau hynny o’r cnydau sydd ar hyn o bryd yn cael eu taflu ar ôl cynaeafu’r prif gnwd.”

Mae’r Ganolfan Biogyfansoddion hefyd yn defnyddio dulliau echdynnu yn ei bioburfa sydd yn fwy “gwyrdd” na’r rhai a ddefnyddir mewn diwydiant traddodiadol. Maent yn unigryw o ran cyfrifo “cost gynhwysfawr” prosesu, gan gynnwys yr ynni a ddefnyddir wrth echdynnu'r cyfansoddion a deunyddiau o’r planhigyn.

Mae’r Ganolfan yn arwain y maes yng Nghymru ac yn gweithio ar nifer o brojectau ymchwil Ewropeaidd; mae eu gwaith yn cefnogi polisïau cynaladwyedd llywodraethau Cymru, y DU ac Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2013

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ă”±ô-°ů˛ą»ĺ»ĺ±đ»ĺľ±˛µľ±´Ç˛Ô
    • Diwrnodau agored
    • Fideos
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • PolisĂŻau'r Coleg
    • Iechyd a Diogelwch
    • Cysylltiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Âé¶ąÍř

Âé¶ąÍř, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Âé¶ąÍř
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Âé¶ąÍř yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Âé¶ąÍř