Gwyddonydd o Brifysgol Âé¶¹Íø yn derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan brifysgol o Chile
Dr Shaun Russell yn derbyn tystysgrif doethuriaeth er anrhydedd gan Dr Jose Maripani (chwith) Is-Brifathro yr Universidad de Magallanes, Punta Arenas, Chile, yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn ddiweddar.Yn ddiweddar mewn seremoni yn yr Universidad de Magallanes (UMAG) dyfarnwyd 'doctor honoris causa' i Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr Prifysgol Âé¶¹Íø.
Mae'r UMAG yn ninas Punta Arenas ar Gulfor Magellan yn ne Chile. Mae Dr Russell wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil botanegol yn y rhanbarth yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf. Yn Tierrra del Fuego ceir amrywiaeth hynod eang o fwsoglau a llysiau'r afu, a ystyrir yn bryoffytau, ac fe wnaeth gwaith Dr Russell ar y planhigion bychain hyn - ond pwysig yn ecolegol - gyfrannu'n uniongyrchol at greu 'Gwarchodfa Biosffer Penrhyn yr Horn' yno yn 2005.
Yn ystod yr 13 mlynedd diwethaf, mae Dr Russell wedi gweithio ar gynllunio rheoli, llwybrau i ymwelwyr, deunyddiau dehongli a hyfforddiant i dywysyddion ym Mharc Ethnofotanegol Omora yn y Warchodfa Biosffer. Yn 2018, llwyddodd Dr Russell a'i gydweithwyr o Chile i sicrhau amddiffyniad cyfreithiol dros 144,000km2 o forfynyddoedd tanfor yn y "Parc Môr Diego Ramirez-Drake Passage" a sefydlwyd yn ddiweddar i'r de o'r Warchodfa Biosffer.
Yn y seremoni gyflwyno, rhestrodd Llywydd yr International Association of Bryologists, Dr Bernard Goffinet (Prifysgol Connecticut), lwyddiannau gyrfa Dr Russell mewn bryoleg, gan gynnwys ei ymchwil gyfredol gyda myfyrwyr Prifysgol Âé¶¹Íø ar gynaliadwyedd cynaeafu mwsogl yng Nghymru ar gyfer y diwydiant garddwriaeth.
Yn y seremoni ac mewn derbyniad a gynhaliwyd yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar fwrdd y Llong Ymchwil Frenhinol 'Discovery' yn harbwr Punta Arenas, fe wnaeth Llysgennad Prydain i Chile, Mr Jamie Bowden, amlinellu hanes teithiau ymchwil Prydeinig yng nghwr deheuol eithaf De America. Nododd gyfraniad Dr Russell i lyfr newydd am deithiau Charles Darwin yn Tierra del Fuego, a phwysleisiodd bwysigrwydd cydweithio gwyddonol pellach rhwng Prydain a Chile, gan fod pwysau amgylcheddol a gwleidyddol yn cynyddu yn ardaloedd yr Antarctig a'r Is-Antarctig.
Nododd Mr Eduardo Barros, cyn-Lywodraethwr Talaith Antarctig Chile, sut yr oedd Dr Russell, o amser ei daith gyntaf i Chile, wedi gweithio i wneud ei ymchwil yn berthnasol a hygyrch i bobl leol, yn arbennig y gymuned Americaniadd frodorol ac i staff a disgyblion ysgolion lleol.
Dr Shaun Russell (chwith) gyda Llysgennad Ei Mawrhydi i Chile, Jamie Bowden CBE, yn y seremoni wobrwyo Diolchodd yr Athro Andres Mansilla, Is-Brifathro dros Ymchwil ac Astudiaethau Ôl-radd yn UMAG, i Dr Russell am ei flynyddoedd lawer o wasanaeth fel athro gwadd yn y Brifysgol, a'i swyddogaeth fel un o ymddiriedolwyr cyntaf 'Canolfan Is-Antarctig yr Horn', sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd yn Puerto Williams ar Sianel Beagle ar gost o US$20m.
Prifysgol Âé¶¹Íø yw'r sefydliad tramor cyntaf i lofnodi memorandwm o ddealltwriaeth gyda'r Ganolfan newydd, ac mae myfyriwr o Fangor eisoes wedi teithio i'r de i gynnal astudiaethau ecolegol gyda'i chymheiriaid o Chile.
Dywedodd Dr Russell fod derbyn gradd er anrhydedd yn hynod annisgwyl iddo, a dywedodd ei fod yn ei theimlo'n fraint eithriadol o fod wedi cael gweithio dros y ddau ddegawd diwethaf gyda biolegwyr cadwriaethol mor ymroddedig a chyfeillion agos yn Chile. Roedd yn edrych ymlaen at raglen gynyddol o gydweithio rhwng Prifysgol Âé¶¹Íø ac UMAG, wrth i gyfleoedd ymchwil a hyfforddi newydd godi, yn dilyn cwblhau Canolfan yr Horn yn 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2019