Gwylwyr ledled Prydain i gael golwg ar fywyd o amgylch Y Fenai
Dr Mike Roberts
Bydd gwylwyr teledu oriau brig ledled Prydain yn cael cyfle i ddod i wybod mwy am fywyd o amgylch Y Fenai gan fod cyfres boblogaidd ITV Cymru 'The Strait' i gael ei darlledu ar y sianel genedlaethol dan yr enw newydd 'The Island Strait' am 8.00pm ar ITV am bedair wythnos o 14 Medi.
Mae'r gyfres yn edrych ar fywydau pobl sy'n byw a gweithio ar Y Fenai - y culfor rhyfeddol sy'n gwahanu Ynys Môn oddi wrth dir mawr Cymru. Ymysg yr unigolion a gaiff sylw yn y gyfres mae Dr Mike Roberts o Brifysgol Âé¶¹Íø. Trwy lygaid nifer o ddynion a merched sy'n gweithio ar y culfor dramatig ac unigryw hwn, ac ar ei lannau, caiff gwylwyr gyfle i ddeall pa mor bwysig yw'r Fenai fel ased amgylcheddol.
Mae Mike, sy'n enedigol o Fôn, yn gefnforegydd daearegol ac yn gymrawd ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion enwog ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø. Daeareg fôr yw ei faes ac mae'n eithriadol frwd dros yr amgylchedd arfordirol nodedig hwn.
Yn y Fenai ei hun mae diddordeb Mike ac yn arbennig yn yr hyn sydd dan y tonnau, gan ei fod wedi ymchwilio i'r ffordd y ffurfiwyd y culfor a phryd y digwyddodd hynny. Mae ei waith wedi dangos y daeth unrhyw gyswllt tir rhwng Môn a'r tir mawr i ben tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae deall beth sydd dan y môr yn hollbwysig iddo yn ei swydd bresennol fel Rheolwr Ymchwil a Datblygu i'r project SEACAMS yn y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol, sy'n cefnogi datblygiad y sector ynni môr adnewyddadwy yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Mike yn ymwneud â mapio llongddrylliadau o amgylch ein harfordir, gan y gallant ddatgelu llawer ynghylch sut y gall prosesau môr ymateb pan gaiff offer ynni môr adnewyddadwy eu gosod ar wely'r môr.
Dyma oedd ganddo i'w ddweud am gymryd rhan mewn ffilmio'r gyfres:
"A finnau'n dod o Fôn, dwi'n wirioneddol ffodus i gael swydd sy'n fy ngalluogi i weithio mewn amgylchedd dwi wedi ei hadnabod ar hyd fy oes, ond dwi'n fwy lwcus fyth fod y gwaith yma'n rhoi cyfle i mi weld y Fenai o bersbectif cwbl wahanol. Dwi'n ei theimlo'n fraint hefyd i fedru rhannu'r wybodaeth yma gyda chymunedau lleol ac unigolion sy'n byw a gweithio ar y Fenai, neu ddim ond yn ymweld yn achlysurol. Dwi'n falch fod y rhaglen yn cael ei dangos ledled Prydain, fel y gall pawb werthfawrogi mor arbennig o unigryw ydi'r rhan yma o'n harfordir mewn gwirionedd."
Y bobl eraill sy'n ymddangos yn y gyfres yw Frankie Hobro, sy'n rhedeg Sw Môr Ynys Môn ac sydd wedi graddio mewn Bioleg Môr o Brifysgol Âé¶¹Íø; Glyn Davies, sy'n ffotograffydd tirwedd; John Jones, pysgotwr cregyn gleision sy'n gweithio o Borth Penrhyn, Âé¶¹Íø; Stan Zalot, sy'n cynnal teithiau pleser yn ei gwch o Fiwmares ac Emrys Jones, sydd hefyd yn cynnal teithiau cwch o Gaernarfon ym mhen arall y Fenai; a'r hyfforddwyr chwaraeon dŵr, Jamie Johnson ac Ali Yates, sy'n gweithio yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2018