Hwb ariannol i wyddorau morol Cymru
Heddiw (dydd Mercher, 8 Medi), cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, fuddsoddiad sylweddol o £23.6m i ddatblygu sector morol Cymru sy’n tyfu trwy gynyddu nifer y prosiectau ymchwil y mae busnesau a phrifysgolion, rhyngddynt, yn gallu eu rhoi ar waith.
Mae prosiect SEACAMS (Ehangu Sectorau Arfordirol a Morol Cymwysedig mewn dull Cynaliadwy) Prifysgol Âé¶¹Íø wedi cael y golau gwyrdd yn dilyn hwb ariannol o £12.6m gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.Prince Madog
Bydd y prosiect yn datblygu syniadau ymchwil arloesol yn brosesau, yn wasanaethau ac yn dechnolegau newydd ac yn annog dros 450 o fusnesau i dyfu, i greu swyddi newydd technegol iawn ac i ennill mwy o gontractau rhyngwladol.
Fel rhan o’r prosiect, bydd Canolfan Arloesi newydd yn cael ei sefydlu yn Ysgol Gwyddorau’r Cefnforoedd y Brifysgol ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Bydd y Ganolfan yn darparu cyfleusterau labordy a chyfleusterau cyfrifiadurol i fentrau bach a chanolig.
Hefyd, bydd busnesau bach a chanolig yn gallu defnyddio llong 40 metr o hyd y mae Ysgol Gwyddorau’r Cefnforoedd yn ei defnyddio gyda’u gwaith ymchwil, sef y ‘Prince Madog’ er mwyn canolbwyntio ar astudiaethau’n ymwneud â thaclo effeithiau’r newid yn yr hinsawdd fel erydu arfordirol, llifogydd, ansawdd dŵr a chynhyrchu ynni ar y môr.
Mae Mr Jones yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth hefyd a dywedodd:
“Bydd cynyddu gweithgaredd masnachol a hybu mewnfuddsoddi yn y sector gwyddorau morol yn helpu i ddiogelu swyddi uchel eu hansawdd a chyfrannu tuag at wneud Cymru yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer y sector hwn sydd ar gynnydd.
“Mae ein polisi economaidd newydd ‘Adfywio’r Economi: Cyfeiriad Newydd’ yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu busnesau i ffynnu trwy fanteisio ar wybodaeth ein Prifysgolion. Hefyd, rydym yn ymrwymo i greu cyfleoedd i raddedigion i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus trwy ddefnyddio eu sgiliau o fewn eu cymunedau eu hunain ac i greu mentrau newydd.â€
Dywedodd yr Athro Colin Jago o Ysgol Gwyddorau’r Cefnforoedd Prifysgol Âé¶¹Íø:
“Mae Cymru mewn sefyllfa i weithredu mewn dull strategol i fanteisio ar gynnydd cyflym y diwydiant cynhyrchu ynni ar y môr sydd eisoes yn mynd rhagddo ym Môr yr Iwerydd. Mae’n holl bwysig ein bod yn cydlynu ein hymchwil a’n mentrau busnes fel bod Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn y diwydiant hwn ac mae SEACAMS yn rhan bwysig o’r broses hon hefyd.â€
“Mae newid yn yr hinsawdd yn cyflwyno heriau a chyfleoedd i’r sector morol ac arfordirol - materion fel cynhyrchu ynni ar y môr, erydu arfordirol a llifogydd, ansawdd dŵr o amgylch yr arfordir, ecosystemau ac iechyd y cyhoedd ac mae gan adnoddau morol cynaliadwy oblygiadau amrywiol iawn ar lefel leol, ranbarthol a rhyngwladol. Hefyd, mae’n gallu cael effaith ar gyfran fawr o’r boblogaeth ddynol sy’n ddibynnol ar yr amgylchedd morol ac arfordirol, nid yn unig ar lefel economaidd, ond ar lefel ddiwylliannol hefyd.â€
Prifysgol Âé¶¹Íø sy’n arwain y prosiect mewn cydweithrediad â’i bartneriaid ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth a nhw hefyd sy’n ariannu’r prosiect gyda chefnogaeth ariannol ychwanegol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
Dywedodd Dr Gay Mitchelson-Jacob, rheolwr y prosiect:
“Mae gan Gymru arbenigedd academaidd heb ei ail mewn gwyddorau morol ac arfordirol; gyda SEACAMS, bydd modd i gwmnïau bach a chanolig sy’n arbenigo yn sector morol Cymru ddefnyddio’r arbenigedd hwn i wneud gwaith ymchwil a datblygu. Hefyd, bydd yn rhoi cyfle i raddedigion gwyddorau morol barhau â’u gyrfaoedd yma yng Nghymru yn hytrach na’u bod yn gorfod mynd i weithio dros y ffin."
Dyddiad cyhoeddi: 8 Medi 2010