I Affrica ‐ Datblygu Cynaliadwy Cymreig
Mae arbenigwyr Cymreig ar dechnolegau ynni adnewyddadwy wedi bod yn rhannu eu profiadau i bobl fusnes fu ar gwrs ar ynni adnewyddadwy. Y gobaith yw y byddant yn gallu mynd â’u profiadau o Gymru yn ôl i Affrica i ddatrys yr her sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd fyd‐eang. Cafodd y pymtheg oedd yn rhan o’r cwrs eu hannog i ddatblygu syniadau busnes eu hunain fydd yn datrys problemau’n ymwneud â datblygu’n gynaliadwy.
“Ein gwaith ni oedd eu hannog i ystyried beth yw gwir ystyr cynaliadwyedd ac i fentro meddwl a gwneud pethau’n wahanol a chreadigol. Roeddem am roi’r hyder iddyn nhw fynd yn ôl gyda syniadau am dechnoleg adnewyddadwy y gallant eu haddasu i ddatrys eu problemau nhw yn eu ffordd eu hunain” meddai Dr Einir Young, Cyfarwyddwr dros dro a Phennaeth Datblygu Cynaliadwy Sefydliad Cymreig ar gyfer Adnoddau Naturiol (SCAN) Prifysgol 鶹.
Cefnogwyd y cwrs, a barodd am fis, gan Sefydliad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Diwydiant (UNIDO) a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd pobl o chwe gwlad Affricanaidd yn rhan o’r grŵp, i gyd wedi ymrwymo i ddelfryd UNIDO o ‘hyrwyddo datblygiad diwydiannol er mwyn lleihau tlodi, globaleiddio cynhwysol a chynaliadwyedd amgylcheddol’.
“Rydym i gyd yma o wahanol rannau o Affrica er mwyn dysgu am gynaliadwyedd yng Nghymru. Rydym oll wedi ymuno â her fyd‐eang o leihau ein dibyniaeth ar garbon” meddai Mr Samuka Dunnoh o Liberia.
Croeso i’r dreigiau Cymreig:
Cafodd yr ymwelwyr elwa ar brofiadau arbenigwyr o BC (Y ganolfan bio‐gyfansoddion), BML Oils, Bright Light Solar Ltd, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Clifford Jones Timber Ltd, Canolfan Newid Hinsawdd Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Infinis Plc, Canolfan Amgylcheddol Moelyci, Reegen Ltd, Resurgam (project ynni’r llanw Conwy tidal ), Q Marketing & PR Ltd, Venture Wales, Waste Recycling Group Ltd, Ynni Gwynt Cymru Cyf. ac Ynys Resources Ltd
Uchafbwynt y cwrs, ddydd Iau Medi 16, oedd cyflwyno cynlluniau busnes i banel o ‘Ddraig Cymreig’ er mwyn ymarfer gwneud cyflwyniad busnes llwyddiannus. Gyda’r nos cawsant gyfarfod y Gweinidog Diwylliant Alun Ffred Jones i ddiolch i’r Cynulliad am eu haelioni’n ariannu’r cwrs, i drafod eu cynlluniau a rhannu uchafbwyntiau'r mis gydag ef. Cyflwynwyd tystysgrifau cyrhaeddiad iddynt gan Alun Ffred Jones.
“Mae hwn wedi bod yn gyfle arbennig i ddangos technoleg adnewyddadwy Cymru ar ei orau ac rwy’n mawr obeithio y bydd eu profiad yng Nghymru yn eu helpu i ddod o hyd i atebion o Affrica ar gyfer yr her newid hinsawdd” meddai Alun Ffred Jones.
“Hoffwn ddiolch i’r Brifysgol am eu harbenigedd a’u croeso. Cawsom ein goleuo yn ystod y teithiau i weld arbenigwyr Cymreig. Llwyddodd y cwrs i chwalu’r hud cynaliadwyedd a thechnoleg gynaliadwy, mae gen i’r hyder nawr i roi technoleg Gymreig ar waith yng nghyd‐destun Affrica. Rydym yn barod ar gyfer yr her” meddai Usamah L. Kaggwa, Swyddog Ynni Gweriniaeth Uganda.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2010