Âé¶ąÍř

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ă”l-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Âé¶ąÍř yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Âé¶ąÍř a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • PolisĂŻau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ă”l-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Âé¶ąÍř yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Âé¶ąÍř a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • PolisĂŻau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Mesur llwyddiant adferiad gweundir

Mike Peacock yn hel data yn y maesMike Peacock yn hel data yn y maesMae Prifysgol Âé¶ąÍř yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn project uchelgeisiol i adfer yr ail fawnog i’r mwyaf yng Nghymru sydd hefyd yn ardal cadwraeth arbennig a ddynodwyd gan Ewrop.

Dros amser, byddir yn llenwi rhwydwaith o 400 milltir o ffosydd ar y Migneint, rhwng Ffestiniog a Llanrwst, er mwyn er mwyn adfer y gweundir i’w gyflwr naturiol. Torrwyd y ffosydd dros y canrifoedd, er mwyn gwella draenio a chael rhagor o dir amaethyddol, ac er mwyn saethu grugieir. Mae’n bosib eu bod bellach yn cyfrannu at y carbon a ollyngir i’r awyr.

Y nod yw lleihau’r carbon sy’n cael ei ryddhau o’r mawn wrth iddo sychu. A mesuriadau eisoes wedi’u cymryd cyn i’r gwaith gychwyn, bydd y gwaith mesur yn parhau am bedair blynedd, er mwyn asesu effeithiolrwydd y gwaith adferol.

Myfyriwr ymchwil PhD ym Mhrifysgol Âé¶ąÍř, Michael Peacock, sy’n gwneud y gwaith, gan gydweithredu â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS – am ragor o fanylion ewch i http://www.bangor.ac.uk/kess/index.php.cy). Ar ben hynny hefyd, mae’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru hwythau’n gyfranogol.

Mae mawnogydd yn dal swm enfawr o garbon deuocsid, wedi’i gloi yn y priddoedd dyfrlawn. Amcangyfrifir bod cyfwerth â 35 o flynyddoedd o allyriadau carbon deuocsid wedi’i gloi ym mhridd mawnog ein gweundiroedd. Ond mae’r carbon deuocsid yn cael ei ollwng – ac amheuir mai’r sychder a’r cynnydd mewn tymheredd yn sychu’r ucheldiroedd sydd ar fai.

Meddai Trystan Edwards, ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n berchen y tir:

“Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn chwilio am ffordd i brofi bod modd cadw’r carbon o fewn y mawn, ac rydym wrth ein boddau i gydweithio â Phrifysgol Âé¶ąÍř drwy broject ymchwil Michael. Mae’r cyfnod presennol o gau’r ffosydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan project LIFE Ewropeaidd, sy’n cael ei weinyddu gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar.”

Mae’r Migneint yn cynnwys bron i 200km², a’r Ymddiriedolaeth yn berchen ar oddeutu 8,000 acer. Bydd yr ymchwil yn caniatáu mesuriadau er mwyn canfod faint o garbon sy’n cael ei golli oherwydd y ffosydd. Ar ben hynny, mae’n bosib y byddai’n ddichonol i gredydau carbon cael eu cynhyrchu i’r Ymddiriedolaeth oherwydd y gwaith llenwi’r ffosydd. Gall y rhain gael eu defnyddio i ail-fuddsoddi mewn gwaith adferol ar y gweundir anferth.

Cau ffosydd yw’r modd poblogaidd o adfer tiroedd mawnog i’w cyflwr gwreiddiol, ond mae ansicrwydd yn parhau ynglŷn â’r effaith a gâi hyn ar y cylch carbon drwyddo draw. Wrth gofnodi a dadansoddi canlyniadau’r mesuriadau o garbon deuocsid sy’n cael ei ryddhau o’r pridd a’i gario yn y dŵr, yn ogystal â’r lefelau dŵr, rhediad dŵr a lefelau glaw dros sawl blwyddyn, gall y project asesu a yw cau ffosydd yn achosi i diroedd mawnog gadw mwy o garbon deuocsid, ynteu’n gyfrifol am ei ryddhau ac am ryddhau methan i’r awyr.

Meddai Michael Peacock, “Mae chwe mis o ddata dechreuol gennym erbyn hyn. Fel y mae’r gwaith i gau’r ffosydd yn cychwyn, byddwn ninnau’n cychwyn ar o broses fwy hirdymor o fonitro i weld faint o garbon, os o gwbl, sy’n cael ei ryddhau i’r awyr.”

Meddai’r Athro Chris Freeman o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol, “Disgwylir y bydd canlyniadau Michael yn rhoi gwybodaeth hanfodol i ni, a fydd yn dangos a yw cau’r ffosydd yn dechneg adferol sy’n rhoi ystyriaeth i’r amgylchedd. Bydd yr ymchwil yn edrych ar wahanol ffyrdd o gau’r ffosydd i ganfod pa un sydd orau ar gyfer cadw’r carbon. Gall y wybodaeth hon gael ei defnyddio yng nghyswllt projectau cyffelyb ar draws y DU.”

Un project yw hwn ymhlith sawl project PhD KESS ym Mhrifysgol Âé¶ąÍř sy’n edrych ar effeithiau carbon ar yr amgylchedd.

“Dewisais wneud fy Noethuriaeth ym Mangor gan fod gan y Brifysgol enw da am fiocemeg ddaearyddol tir mawnaidd, ac roeddwn yn gwybod y byddwn yn derbyn y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnaf gan fy arolygwr ar gyfer y PhD, Yr Athro Chris Freeman,” esboniodd. Roedd hefyd yn sylweddoli ei bod yn hawdd cyrraedd sawl lleoliad gwaith maes perthnasol nid nepell o’r Brifysgol.

Mae Michael yn 25 a daw o St Helen’s, Glannau Mersi. Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg Carmel, St Helen’s cyn graddio mewn Sŵoleg a mynd ymlaen i ennill MSc mewn Ecoleg o Brifysgol Âé¶ąÍř.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2011

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ă”±ô-°ů˛ą»ĺ»ĺ±đ»ĺľ±˛µľ±´Ç˛Ô
    • Diwrnodau agored
    • Fideos
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • PolisĂŻau'r Coleg
    • Iechyd a Diogelwch
    • Cysylltiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Âé¶ąÍř

Âé¶ąÍř, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Âé¶ąÍř
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Âé¶ąÍř yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Âé¶ąÍř