Myfyriwr a raddiodd ym Mhrifysgol 鶹 yn treulio amser yn adrodd ar reolaeth pysgodfeydd Chile
Eleni, graddiodd Andrew Frederick Johnson, 29, gyda PhD mewn Ecoleg Pysgod Môr o’r . Yna, aeth ymlaen i ennill Ysgoloriaeth ‘World of Difference’ gan Vodafone, i weithio ar acwsteg morfilod a dolffiniaid, cyn cael cyllid gan Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill i deithio i Chile am ddau fis i adrodd ar y cynllun rheoli pysgodfeydd yno.
Meddai Andrew, sy’n hanu o Suffolk, “Cefais wybod am ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill (WCMT) trwy ffrindiau pan oeddwn i’n iau – ond roeddwn i’n rhy ifanc i wneud cais. Doeddwn i ddim am orffen fy PhD a symud yn union i ôl-ddoethuriaeth, ac roeddwn i’n awyddus i fynd i ffwrdd i ddysgu rhywbeth newydd, felly gwnes i gais am WCMT.
“Dysgais lawer trwy’r drefn ymgeisio’n unig – roedd yn debyg i dendro am gontract ar lawer i ystyr – rhaid ichi ennill pot o arian, a hynny er eich bod yn cystadlu â charfan amrywiol iawn o bobl ac o fedrau. Roedd yn anodd, am fy mod yn gwneud cais yn ystod blwyddyn olaf fy PhD.”
Ynglŷn â’r amser a dreuliodd yn Chile, meddai Andrew, “Treuliais i lawer o amser yn gyrru am ei bod yn wlad hir – er na theithiais i ond trwy ei hanner! Yn sicr, roedd darganfod cymunedau pysgota bach y tu fewn i holl gonglau’r arfordir serth yn uchafbwynt.
“Oherwydd y pysgotwyr cyfeillgar a’r potswyr grwgnachlyd, roedd yn brofiad diddorol ac yn antur, a dweud y lleiaf. Byddwn yn fwy na bodlon mynd yn ôl i weithio eto yn Chile.
“Y person mwyaf diddorol imi ei gyfarfod oedd hen ddeifar sgolpiau a oedd yn dal i weithio ar y cychod yn 76 oed. Yr unig reswm nad oedd yn deifio oedd bod ei wraig wedi’i wahardd rhag gwneud ... fel arall, byddai wedi treulio diwrnod cyfan yn y dŵr!”
Ynglŷn â'r dyfodol, ychwanegodd Andrew, “Ar hyn o bryd, rwy’n mwynhau’r rhyddid y mae fy PhD wedi’i roi imi, yn ogystal â gweithio ym mhen draw’r byd, ond hoffwn barhau â’m hymchwil ac ymgymryd â chymrodoriaeth ôl-ddoethurol mewn Ecoleg Pysgod Môr a Chadwraeth Môr.”
Ynglŷn â 鶹, dywedodd, “Mae gan Fangor dimau da o ddarlithwyr, cyfleusterau gwych, megis llong y Prince Madog, ac mae’r lleoliad yn wych – môr, creigiau ac anialwch, a’r cyfan yn agos iawn at ei gilydd. Gellwch brofi natur mor rhwydd, ac i mi, wrth imi astudio, roedd y penwythnosau’n estyniad ar fy ngwaith a’m hangerdd!”
Darllenwch flog Andrew yma:
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2013