Myfyrwraig PhD o Fangor yn cael gwobr yn 6ed Cyngres Pysgodfeydd y Byd
Gwladys Lambert sydd wedi cwblhau ei gradd PhD yn ddiweddar yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.Ar ôl cwblhau ei gradd PhD yn ddiweddar yn yr , Prifysgol Âé¶¹Íø, mae Gwladys Lambert wedi dod yn gydradd am ei chyflwyniad llafar yn 6ed Cyngres Pysgodfeydd y Byd a gynhaliwyd yng Nghaeredin ar 7-11 Mai.
Mae Cyngres Pysgodfeydd y Byd yn ddigwyddiad o bwys, a drefnir bob 4 blynedd gan Gyngor Cymdeithasau Pysgodfeydd y Byd. Mae’r Gyngres yn casglu gwyddonwyr, rheolwyr, gwleidyddion a chynrychiolwyr o’r diwydiant er mwyn trafod y gwaith o hyrwyddo cydweithrediad rhyngwladol mewn gwyddor pysgodfeydd, cadwraeth a rheolaeth, er mwyn gweithio tuag at ddefnydd cynaliadwy ar adnoddau morol ar draws y byd. Wrth fod mwy na 1,000 o gynrychiolwyr yn bresennol o fwy na 65 o wledydd, bu’r cynhadledd bedwar-diwrnod yn ymdrin ag amrywiaeth o themâu, yn cynnwys effeithiau pysgota, newid hinsawdd a mannau morol a warchodir.
Gwladys yn rhoi sgwrs yng Nghyngres Pysgodfeydd y Byd.Rhoddwyd mwy na 300 o gyflwyniadau gan fyfyrwyr yn y Gyngres, a Gwladys yn rhoi sgwrs yn y sesiwn oedd yn trafod effeithiau pysgota. Cyflwynodd rywfaint o ymchwil yr oedd hi wedi’i gwneud yn ystod ei PhD, dan oruchwyliaeth yr Athro Michel Kaiser, Dr Jan Hiddink a’r Athro Simon Jennings (CEFAS). Y syniad y tu ôl i’r gwaith oedd ceisio amcangyfrif faint o amser a gymer i gymunedau milodol gwely’r môr ymadfer ar ôl i offer pysgota, megis llusgrwydi cregyn bylchog, aflonyddu arnynt. Eglurodd Gwladys:
“Gall offer pysgota a lusgir ddifrodi, dileu neu ladd rhywogaethau nad yw’r bysgodfa, o reidrwydd, yn eu targedu. Mae’n bwysig iawn astudio’r effaith a gaiff pysgota ar organebau gwely’r môr, am eu bod yn rhan o ecosystemau’r môr. Mae’r organebau hyn yn hanfodol yn y gadwyn fwyd, ac yn darparu cynefin i rywogaethau eraill. Os ydym yn gwybod pa organebau ar wely’r môr sy’n dioddef fwyaf, sut y mae hyn yn digwydd, a pha mor hir y mae’n cymryd iddynt ymadfer, ac a oes unrhyw leoedd y byddant yn ymadfer yn gynt oherwydd amodau amgylcheddol da, mae’n fwy na thebyg y gallwn wella strategaethau rheoli pysgodfeydd, ac yna weithio tuag at ddefnyddio ein hadnodd mewn modd cynaliadwy.â€
“Y prif bwynt yr oeddwn yn ei drafod yn ystod fy anerchiad oedd sut i wybod lle a phryd y mae pysgota’n digwydd. Yn gyffredinol, nid oes gan wyddonwyr data cywir iawn, a rhaid iddynt amcangyfrif/ darogan. Gallwn gyrchu rhywfaint o ddata ar bysgota, ond mae mynediad yn cael ei gyfyngu at ddibenion preifatrwydd, a gall hyn fod yn rhwystr mawr rhag i wyddor pysgodfeydd symud ymlaen. Yn ei dro, gall hyn effeithio’n uniongyrchol ar gyngor gan reolwyr, gan effeithio, trwy hynny, ar y diwydiant pysgota yn y tymor hir.
“Mwynheais wneud yr ymchwil hon yn fawr, a hefyd ei chyflwyno i arbenigwyr, cydweithwyr a ffrindiau yn ystod y Gyngres. Nid oeddwn yn disgwyl unrhyw wobr amdani, ond mae’n amlwg fod hyn yn galonogol ac ysgogol iawn!â€
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2012