Pa mor gyfeillgar i'r hinsawdd ydi'ch paned o goffi chi?
Mae yfwyr coffi'n cael eu hannog i brynu coffi sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, boed yn goffi wedi'i ardystio, organig neu goffi cysgod (wedi'i dyfu yng nghysgod coed sy'n gynefin pwysig i adar). Ond pa mor effeithiol ydi'r ffyrdd hyn o dyfu coffi o ran trechu newid hinsawdd?
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, The Tropical Agricultural Research and Higher Education Centre, Costa Rica (CATIE) a'r Natural Resources Institute ym Mhrifysgol Greenwich, wedi cyhoeddi darganfyddiadau yn y cyfnodolion gwyddonol s ac a all ateb y cwestiwn hwn i ryw raddau.
Mae canlyniadau’r astudiaethau hyn yn awgrymu y gall lleihau gollyngiadau carbon drwy ddwysau dulliau amaethyddol helpu ffermydd coffi frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Gallai cynhyrchu mwy ar ffermydd coffi presennol, yn hytrach nag ymestyn cynhyrchu coffi i dir sydd dan goedwigoedd ar hyn o bryd, leihau gollyngiadau carbon sy'n achosi newid hinsawdd.
Roedd eu hastudiaeth wedi'i seilio ar ffermydd coffi ac arbrofion maes tymor hir yn Costa Rica a Nicaragua gan ymchwilio i weld a fyddai'n gwneud mwy o synnwyr yn ariannol ac o ran yr hinsawdd i ffermwyr newid o un math o reoli ffermydd i un arall. Er enghraifft, o system lai dwys i un ddwysach, neu o ffermio confensiynol i ffermio organig.
Meddai Dr Martin Noponen, myfyriwr PhD ar y cyd rhwng Prifysgol Âé¶¹Íø a CATIE, a phrif awdur y ddwy astudiaeth: "Er y gwelwyd nad oedd tyfu coffi dan gysgod yn gwella stoc carbon pridd dros y deg mlynedd gyntaf, rydym yn gwybod bod ffermydd coffi gyda chysgod (rhai gyda choed wedi'u plannu ymysg y llwyni coffi) yn storio mwy o garbon mewn biomas coed na systemau coffi digysgod sy'n cael haul llawn. Yr un pryd, fodd bynnag, gall ffermydd sy'n cael haul llawn fod yn fwy proffidiol drwy gynhyrchu mwy o goffi, a thrwy hynny fod yn ysgogiad i ffermwyr newid o dyfu coffi dan gysgod i'w dyfu dan haul llawn."
Darganfu'r astudiaeth y byddai rhoi iawndal i ffermwyr am beidio â newid i'r dull mwy proffidiol (ond llai cyfeillgar i'r amgylchedd) o dyfu coffi dan haul llawn yn costio rhwng 9.3 i 196.3 US$ am bob tunnell o ollyngiadau carbon a fyddai'n cael ei osgoi. Mae hyn at ei gilydd yn ddrud iawn ac yn llawer uwch na phrisiau presennol y farchnad garbon ryngwladol.
Meddai John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, a arweiniodd y tîm ymchwil:
"Mae'n bwysig cofio, er y gall ffermydd coffi dan gysgod storio mwy o garbon ac felly fod yn dda i'r hinsawdd mewn un ystyr, os yw'r cnwd o goffi'n llai, yna gall y ffermwyr benderfynu ffermio ardal fwy o dir er mwyn cynnal eu hincwm. Gallai rhai wedyn ddechrau clirio tiroedd coedwig a chael effaith negyddol ar hinsawdd, bioamrywiaeth a gwasanaethau eraill a ddarperir gan ecosystemau coedwig."
"Ar y llaw arall, pe gellid cynhyrchu mwy ar ffermydd lle tyfir coffi dan gysgod, gallai ffermio coffi helpu i leihau newid hinsawdd drwy storio mwy o garbon deuocsid atmosfferig mewn biomas ar yr wyneb, ac yr un pryd leihau'r pwysau i drosi mwy o dir coedwig yn dir amaethyddol."
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2013