Staff ADNODD wrthi'n datblygu economi werdd
Mae staff (ADNODD) wrthi ar hyn o bryd yn ceisio datblygu'r economi werdd yng Nghymru ac Iwerddon. Mae'n adeg brysur i'r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd, grŵp sy'n cynnwys busnesau yng Nghymru a staff ADNODD, yn arbennig Heli Gittins a Nicola Owen sy'n rhoi o'u harbenigedd i gefnogi'r gwaith. Mae'r Rhwydwaith yn rhan o Broject ehangach sydd wedi ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac sy'n dod ag arbenigedd academaidd Prifysgol Âé¶¹Íø, University College Dulyn a'r Waterford Institute of Technology, Iwerddon at ei gilydd.
Nod yr economi werdd yw defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon, gwarchod natur a gwella cymunedau. Nod y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd yw annog a helpu cwmnïau i "wneud i'ch busnes dyfu'n wyrdd".
Mae'n adeg brysur i'r Rhwydwaith; mae chwe busnes o Gymru wedi dychwelyd o Iwerddon yn ddiweddar i ledaenu'r neges ynghylch sut mae cofleidio'r economi werdd wedi helpu eu busnesau. Hefyd mae'r ymweliad wedi helpu i ddangos y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Rhwydwaith, gan gynnwys cyngor a chefnogaeth, gwella sgiliau a chyfleoedd rhwydweithio i fusnesau.
Ar 20 Tachwedd bydd Prifysgol Âé¶¹Íø yn croesawu digwyddiad Hyrwyddo Economi Werdd yng Nghymru i hybu'r economi werdd yng ngogledd Cymru ac amlygu'r manteision i fusnesau a'r gymuned. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan Gynghrair yr Economi Werdd a'r Ymddiriedolaeth Economaidd Newydd, Mae Stuart Bond o'r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø yn siwr bod "datblygu economi werdd yng Ngogledd Cymru'n gallu gyrru buddsoddiadau sylweddol gan fusnesau a chreu manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cynaliadwy".
Mae'r cysyniad o'r economi werdd hefyd yn un o nodweddion pwysicaf MBA Rheolaeth Amgylcheddol Prifysgol Âé¶¹Íø, sydd wedi ei gymeradwyo gan y Sefydliad Rheoli ac Asesu'r Amgylchedd. Amcan y rhaglen hon yw datblygu sgiliau cyflawni gweithgareddau economaidd sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, technoleg werdd a chynaladwyedd.
Ceir mwy o wybodaeth am y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd yn
‘Âé¶¹Íøâ€™s Green Innovation Network heading for Irelandâ€
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2013