Staff o’r Ysgol Gwyddorau Eigion ar rhaglen BBC Radio Wales Science Cafe
Bydd y rhaglen ar BBC Radio Wales yn cynnwys gwaith ymchwilwyr hinsawdd yn yr mewn rhaglen hanner awr gaiff ei darlledu ddydd Mawrth nesaf (14 Awst) am 7pm.
Bydd cyflwynydd Science Cafe, Adam Walton, yn sgwrsio gyda Dr Paul Butler a'r Athro Chris Richardson am sut mae eu gwaith gyda chregyn molysgiaid môr hirhoedlog yn helpu gwyddonwyr i ddeall rôl hinsawdd y môr mewn newidiadau yn system hinsawdd y Ddaear dros y mileniwm diwethaf.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad diweddar o’u papur yn y cyfnodolyn a oedd yn cofnodi canlyniadau cyntaf eu gwaith ymchwil i gregyn bylchog o ddyfroedd oddi ar arfordir gogledd Gwlad yr Iâ.
Mae’r stori wreiddiol ar gael .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2012