Tyfu tomatos blasus iawn yn yr awyr agored yng Nghymru a'r DU
Tomatos 'Crimson Crush' fydd ar gael yn y Flwyddyn Newydd.O’r flwyddyn nesaf ymlaen bydd garddwyr Prydain yn medru tyfu tomatos sy’n medru gwrthsefyll malltod, yn dilyn gwaith ar y cyd gyda Prifysgol Âé¶¹Íø.
Mae wedi bod bron yn amhosib tyfu tomatos blasus yn yr awyr agored yn y DU, mae'r hafau gwlyb yn y blynyddoedd diweddar wedi gweld malltod tomatos yn difetha pob ymdrech ac mae'r prif gynhyrchwyr masnachol wedi hen roi'r gorau iddi.
Mae Prifysgol Âé¶¹Íø wedi bod yn gweithio efo un sefydliad dielw, ymddiriedolaeth ymchwil Sárvári, a hefyd bridiwr tomato profiadol, Simon Crawford o Burpee Europe, dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth () i ddatblygu cnydau newydd i arddwriaethwyr yn y DU.
Mae’r canlyniadau llwyddiannus wedi arwain at domato newydd, Crimson Crush a fydd ar gael i’w brynu gan yn y flwyddyn newydd.
Roedd yn ymchwil yn edrych ar y genynnau oedd yn deillio o domatos gwyllt oedd yn gallu gwrthsefyll malltod ac yna’u croesi gan ddefnyddio dulliau di-Gm. Mae adnabod a dethol y marcwyr moleciwlaidd sy’n gyfrifol am y nodweddion dewisol wedi cyflymu’r broses o ddatblygu math newydd o domatos gwydn masnachol ac a fyddai'n gwrthsefyll malltod hwyr.
Tyfu tomatos blasus iawn yn yr awyr agored yng Nghymru a'r DU-James Stroud-chwith a David Shaw ar y dde.Meddai James Stroud, "Mae gweithio gyda chwmni a gwneud ymchwil i'r byd go iawn wedi bod yn ddiddorol ac ysgogol iawn. Mae'n wych gweithio tuag at greu cynnyrch y gellir ei farchnata, cynnyrch a fydd yn tyfu'n dda yn yr awyr agored yng Nghymru, ac a fydd yn rhoi cnwd gwerthfawr i ffermwyr a thyfwyr."
"Mae wedi bod yn bleser cael canlyniadau go iawn o'r treialon a'u bod yn cael eu defnyddio fel rhan o raglen bridio."
Yn ôl David Shaw, Cyfarwyddwr yr , sydd wedi'i leoli ar y Brifysgol yn Abergwyngregyn yng Ngwynedd:
"Mae tomatos a dyfir yn yr awyr agored, pan ellwch eu tyfu, yn flasus iawn gan eu bod wedi tyfu'n uniongyrchol yng ngolau'r haul. Gall y math newydd dygn o domato sy'n gwrthsefyll malltod gael ei dyfu'n lleol gan arddwyr, deiliaid rhandiroedd a garddwyr masnachol hyd yn oed yn ein hinsawdd wlyb. Byddent yn cael eu tyfu heb ddefnyddio plaladdwyr ac felly yn ateb pob un o'r gofynion am fwyd o ansawdd da, cynaliadwy, mewnbwn isel a dyfir yn lleol."
O dan y cynllun, mae James Stroud yn gweithio efo’r cwmnïau dan arweiniad Dr Katherine Steele yn Y ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, lle mae hefyd yn dysgu sgiliau ymchwil a datblygu buddiol.
Meddai Katherine Steele, "Mae’r project hwn yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r gallu i wrthsefyll malltod mewn tomatos, ac yn enghraifft o'n gwaith i ddarparu sail wyddonol i amaethyddiaeth gynaliadwy, coedwigaeth a chadwraeth adnoddau naturiol."
Meddai David Shaw, "Mae gweithio gyda Katherine Steele wedi ein galluogi i ddefnyddio ei sgiliau blaengar yn tyfu cnydau. Mae'n hyfforddi James i ddefnyddio’r technegau moleciwlaidd diweddaraf, i adnabod genynnau a chymryd ‘olion bysedd’ yr organeb sy'n achosi malltod. Mae hyn wedi bod yn hollbwysig i lwyddiant y project."
Mae Ymddiriedolaeth Ymchwil Sárvári eisoes wedi llwyddo i ddatblygu saith math newydd o datws sy'n rhydd o falltod.
Cyllidir ysgoloriaeth ymchwil James Stroud dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Âé¶¹Íø ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru. Gan gael budd o Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF), mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Mae’r elfennau Meistr ymchwil a PhD wedi eu hintegreiddio gyda rhaglen hyfforddi sgiliau lefel uchel, sy’n arwain at Gymhwyster Datblygu Sgiliau Ôl-radd. Parodd KESS tan ddiwedd2014, ac mae wedi darparu dros 400 o leoedd PhD a Meistr.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014