Wedi ei ganslo: Sgwrs yn rhagflaenu creu’r mynydd iâ mwyaf erioed
Mae'r sgwrs wedi ei ganslo oherwydd amgylchiadau na ellir eu rhagweld.
Wrth i arbenigwyr ym meysydd rhewlifoedd, hinsawdd ac eigioneg ddisgwyl am y foment y rhagwelir y bydd silff iâ Antarctig yn torri ac yn creu un o'r mynyddoedd iâ mwyaf a gofnodwyd – tua chwarter maint Cymru – mae staff a myfyrwyr Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 鶹 yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddarlith ar yr union bwnc hwn gan aelod o'r British Antarctic Survey (BAS).
Bydd yr Athro Hilmar Gudmundsson o’r BAS yn trafod “Ocean-induced thinning of Antarctic Ice Shelves and the impact on the ice flow of the Antarctic Ice Sheet” am 6.00 ar Chwefror 2 ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau. Gall y ddarlith hon, sydd wedi ei hanelu at fyfyrwyr ac academyddion y Brifysgol, fod o ddiddordeb i'r cyhoedd hefyd, o ystyried tynged bresennol y silff iâ Larsen C, sydd o fewn 20 cilomedr o dorri’n rhydd.
Dywedodd trefnydd y sgwrs, Dr Mattias Green, sy’n Darllenydd mewn Eigioneg Ffisegol yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 鶹:
"Mae'n anodd rhagweld effeithiau toriad mor fawr yn y llen iâ. Yr hyn sydd wedi ei weld yn y gorffennol yw bod rhewlifoedd wedi cyflym ar eu taith at y môr, gan nad yw llen iâ yn rhwystro’u llif at y môr, ac yn ei dro, mae hyn wedi cael effaith ar y lefel y môr. Yn y pen draw, bydd y mynydd iâ ei hun yn cael ei gludo i ffwrdd gan y cerryntau, ond nid oes modd rhagweld llwybr ei daith gan nad yw’r basddwr yn y dyfroedd hyn wedi eu mapio yn dda. "
Ychwanegodd: "Mae gan yr Athro Gudmundsson record anhygoel mewn ymchwil ar ryngweithiadau iâ cefnfor. Mae wedi treulio cryn dipyn o amser ar y llenni iâ yn yr Antarctig yn casglu data a'i ddefnyddio i ddilysu ei fodelau rhifiadol. Mae hefyd yn dod yn ôl gyda lluniau anhygoel, felly dylai fod rhywbeth at ddant pawb yn ei sgwrs."
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017