Y Gymdeithas Ecolegol Brydeinig yn gwobrwyo darlithydd o Brifysgol Âé¶¹Íø
Julia Jones yn derbyn ei GwobrMae darlithydd yn Prifysgol Âé¶¹Íø wedi ei hanrhydeddu â Gwobr Sylfaenwr 2014 gan Y (British Ecological Society).
Dyfernir y wobr bwysig hon bob yn ail blwyddyn i ecolegydd ifanc amlwg yn y maes, sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i wyddor ecoleg. Wrth ei derbyn, disgrifiwyd Dr Julia Jones fel: “ysbrydoliaeth i ecolegwyr cadwraethol ifanc, sydd wedi datblygu rhaglen ymchwil unigryw a llwyddiannus iawn, sydd yn torri tir newydd mewn monitro canlyniadau cadwraeth yn ogystal â deall cymelliadau i warchod.â€
Mae Julia’n ymddiddori yn y ffordd mae pobl yn ymwneud ag adnoddau naturiol a sut orau i gynllunio datblygiadau newydd i gynnal gwasanaethau ecosystem a chael dylanwad cadarnhaol ar fywoliaethau pobl leol yr un pryd. Mae ganddi hefyd ddiddordeb cryf mewn cynllunio systemau monitro grymus, gan ddefnyddio mathau gwahanol o ddata, ac mewn dadansoddi’r dystiolaeth sy’n sail i bolisïau a phenderfyniadau amgylcheddol.
Wrth dderbyn y Wobr, dywedodd Julia Jones: “Rwy’n defnyddio dulliau a theorïau o wahanol ddisgyblaethau megis economeg, addysg a seicoleg yn fy ymchwil ac yn eu rhoi ar waith i wynebu’r sialensiau a ddaw o ran rheolaeth amgylcheddol. Fodd bynnag, ecoleg yw fy nghefndir a’m cartref ysgolheigaidd naturiol, ac felly mae derbyn y gydnabyddiaeth hon gan y Gymdeithas Ecolegol Brydeinig yn wir fraint.â€
Julia Jones yn ystod gwaithmaes.A hithau bellach yn uwch ddarlithydd mewn bioleg gadwraethol, gwaith PhD Julia ym Mhrifysgol Caergrawnt yn edrych ar gynaliadwyedd pysgota cimychiaid coch neu gimychiaid yr afon ym Madagascar a arweiniodd at ei diddordeb oes mewn ymchwil ryngddisgyblaethol, gan gyfuno gwyddor cymdeithas ac ecoleg. Mae Julia ar hyn o bryd yn arwain project sy’n edrych ar y dulliau gorau o gynllunio cynlluniau eco-wasanaethau er mwyn lleihau tlodi. Mae hwn yn broject consortiwm mawr a gyllidir gan Ecosystems for Poverty Alleviation. Mae hefyd wedi cael grant newydd sydd yn defnyddio hap-brawf gyda rheolydd mewn cynllun taliadau ar sail dŵr ym Molivia sy’n edrych i weld a yw cynlluniau o’r fath yn cyfrannu at les lleol a buddiannau amgylcheddol mwy eang. Mae Julia yn gyfarwyddwr cwrs Cadwraeth Amgylcheddol ac Ecoleg Tir a Môr Cymhwysol ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014