Âé¶¹Íø

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Âé¶¹Íø yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Âé¶¹Íø a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Âé¶¹Íø yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Âé¶¹Íø a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Y llanw'n corddi'r gwres Atlantig dwfn yng Nghefnfor yr Arctig

Llun o'r rhewfor a gymerwyd gan Joshua Griffiths sy'n fyfyriwr yma.: hawlfraint llun Joshua GriffithsLlun o'r rhew môr a gymerwyd gan Joshua Griffiths sy'n fyfyriwr yma.: hawlfraint llun Joshua GriffithsMae ymchwilwyr wedi canfod sut mae dŵr cynnes yr Atlantig sy'n llifo'n ddwfn i mewn i Gefnfor yr Arctig yn cymysgu gyda dyfroedd oerach uwchben a chyfrannu at doddi’r rhew môr yn yr Arctig. Mae'r canlyniadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn yr wythnos hon, yn dangos bod llif y llanw yn yr Arctig yn gwneud i ddŵr cynnes, dwfn (sy'n deillio o Lif y Gwlff) gymysgu gyda dŵr oer, ffres sy'n gorwedd uwchben. Mae hyn yn ei dro yn cyfrannu at doddi’r rhew môr sy'n arnofio.  

Mae ymchwil blaenorol i sut mae haenau cynnes o ddŵr y cefnfor yn cymysgu gyda haenau oer sy'n gorwedd uwchben wedi canolbwyntio ar gynnwrf a achosir gan wyntoedd a thonnau, yn hytrach na'r cymysgu gan y llanw, gan fod llif y llanw o amgylch Cefnfor yr Arctig yn wan yn gyffredinol. Ond mae mesuriadau uniongyrchol o gynnwrf ar draws Cefnfor yr Arctig sy'n rhydd o rew yn dymhorol yn dangos bod symudiadau'r llanw sy'n rhyngweithio gyda llethrau serth gwely'r môr yn un o brif achosion y cymysgu fertigol.

Eglurodd yr awdur arweiniol, Tom Rippeth o Brifysgol Âé¶¹Íø,

Wrth drilio drwy'r rhew, gwelodd y ddau ymchwilydd o Fangor gyfle i godi'r Ddraig Goch!Wrth drilio drwy'r rhew, gwelodd y ddau ymchwilydd o Fangor gyfle i godi'r Ddraig Goch!"Nid yw ein cefnforoedd yn cynnwys un corff o ddŵr, maent yn cynnwys dyfroedd o wahanol dymheredd a halwynedd, yn gorwedd mewn gwahanol 'haenau'. Felly mae Cefnfor yr Arctig fel brechdan jam i ryw raddau, gyda'r haenau o ddŵr oer uwchben ac oddi tano fel y "bara" a'r "jam" yw'r dŵr cynnes hallt sy'n llifo mewn i'r Arctig o'r Atlantig.  Caiff rhew môr sy'n arnofio ar wyneb y cefnfor ei inswleiddio oddi wrth wres yr haenen Atlantig gan yr haenen uchaf o ddŵr oer pegynol.

"Gwnaethom astudio'r dŵr cynnes o'r Atlantig sef y mewnbwn mwyaf o wres morol i'r Arctig - mae'n pedair gradd Celsius yn gynhesach na'r dŵr o amgylch, ac mae'n gynhesach nag y bu ers bron i ddwy fil o flynyddoedd. Mae brig yr haenen uchaf ar ddyfnderoedd rhwng 40 a 200 metr, ac mae ei wres yn ymledu i fyny i'r dŵr oer mwy ffres uwchben, ond weithiau gall y gwres hwn gael ei symud yn llawer cyflymach gan gynnwrf sy'n achosi'r cymysgu. Rydym wedi canfod bod y llanw yn creu llawer iawn o gynnwrf uwchben topograffi serth ar wely'r môr, ac felly'n gwneud i lawer mwy o wres symud i fyny yn yr ardaloedd hyn. Mewn ardaloedd lle mae cerrynt llanw yn rhyngweithio gyda llethrau serth ar wely'r môr, mae'r broses hon yn gwneud i'r dyfroedd cynnes gymysgu gyda'r dyfroedd oerach sy'n gorwedd uwchben. Gall hyn yn ei dro greu 'mannau poeth' lle mae'r rhew môr yn toddi neu'n teneuo."

Meddai Sheldon Bacon, o'r National Oceanography Centre,

"Mae'n debygol y bydd rhew môr yr Arctig yn encilio ymhellach yn y degawdau sydd i ddod, ac os ydyw, gall y rhyngweithio rhwng cerrynt y gwynt a'r cefnfor gryfhau. Gall y mannau poeth hyn sy'n cymysgu ymestyn i rannau eraill o Gefnfor yr Arctig sydd â llethrau serth ar wely'r môr, gan arwain at ragor o rew môr yn toddi. Rydym yn gwybod bod yr Arctig eisoes yn cynhesu'n gyflymach na gweddill y blaned, a bod ymchwil arall a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf yn dangos effaith cynhesu'r Arctig ar dywydd lledredau canol. Felly, efallai bod yr Arctig wedi chwarae rhan yn y tywydd eithafol diweddar yn yr Unol Daleithiau, y DU ac Ewrop. Felly pwysigrwydd darganfod y dull newydd hwn o symud gwres i fyny tuag at arwyneb Cefnfor yr Arctig yw'r posibilrwydd y gall gynyddu'r cynhesu yn yr Arctig." 

Bu Prifysgol Âé¶¹Íø, y Norwegian Polar Institute (NPI) a'r  National Oceanography Centre (NOC) yn cydweithio ar bedair mordaith ymchwil fawr yn yr Arctig ar hyd Cefnfor yr Arctig i'r gogledd o Svalbard, i'r gogledd o ddwyrain a gorllewin Siberia, ac ym Masn Canada. Gwnaed yr ymchwil trwy fesur cynnwrf yn uniongyrchol o amgylch Cefnfor yr Arctig a dangos ei gysylltiad uniongyrchol gydag amcangyfrifon gwasgariad ynni'r llanw a wnaed gan ddefnyddio data o loeren.

Mae'r ymchwil newydd yn rhan o broject y consortiwm TEA-COSI  (“The Environment of the Arctic:  Climate, Ocean, Sea Ice:  http://teacosi.org), dan arweiniad Sheldon Bacon. Mae'r project yn rhan o Raglen Ymchwil yr Arctig, rhaglen £15m i wella ymdrech ymchwil y DU yn yr Arctig, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô
    • Diwrnodau agored
    • Fideos
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Polisïau'r Coleg
    • Iechyd a Diogelwch
    • Cysylltiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Âé¶¹Íø

Âé¶¹Íø, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Âé¶¹Íø
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Âé¶¹Íø yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Âé¶¹Íø