Yn ôl tîm o wyddonwyr, cafodd heidiau o anifeiliaid ffyrnig effaith ar ecosystem y cyfnod Pleistosen
Roedd Dr Matt Hayward, Uwch Ddarlithydd mewn Cadwraeth yn y , Prifysgol 鶹 yn rhan o dîm sydd wedi nodi’r rôl hollbwysig a chwaraewyd gan ysglyfaethwyr mawrion wrth reoli niferoedd llysysyddion (herbivores) mewn ecosystemau.
Darlun gan Mauricio Anton.Ѳ’r , a arweiniwyd gan Blaire Van Valkenburgh o UCLA, yn amcangyfrif maint yr ysglyfaeth a laddwyd gan y rhywogaethau amrywiol o fega-ysglyfaethwr a fodolai yn ystod y Pleistosen (hyd at ryw 10,000 o flynyddoedd yn ôl). Cafwyd y byddent wedi gallu lladd hyd yn oed y llysysyddion mwyaf (mamothiaid a mastodoniaid ifainc, er enghraifft). Roedd yr amcangyfrifon am bwysau’r anifeiliaid a laddwyd yn seiliedig ar raglen ymchwil eang y mae Matt wedi’i chynnal ar bwysau’r anifeiliaid a laddwyd gan ysglyfaethwyr sydd wedi goroesi, gan ei fod wedi gweithio ym maes ail-gyflwyno llewod yn Ne Affrig.
“Ers degawd, rwyf wedi bod yn ymchwilio i ysglyfaeth ddewisol ysglyfaethwyr mawr drwy’r byd, felly mae’n gyffrous gweld y gwaith hwn yn cael ei ddefnyddio mewn meysydd eraill, megis paleontoleg,” meddai Dr Matt Hayward.
Darllenwch y datganiad gwreiddiol .
Darllenwch erthygl .
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2015