A ydych yn cael digon o ymarfer corff i fynd yn sâl?
A ddylech ymarfer yn galetach neu am fwy o amser?
Mae rasys Marathon a rasys dygnwch yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ac felly hefyd yr awch am ymarfer yn ddwys, megis mewn dulliau a dosbarthiadau hyfforddi dwys ‘spike’ neu ‘buzz’. Ond p’un sydd orau i chi? Neu, fel arall, p’un fydd yn achosi’r niwed lleiaf i’ch system imiwnedd?
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Âé¶¹Íø yn herio’r meddylfryd cyfredol fod ymarferion hwy, llai straenus yn llai niweidiol i’r system imiwnedd.
Yn ôl y canfyddiadau newydd (a gyhoeddwyd yn Medicine & Science in Sports & Exercise –, Tachwedd 2014 DOI: 10.1249/MSS.0000000000000562), nid yw hanner awr o ymarfer dwys iawn yn effeithio ar yr adwaith imiwn; yn hytrach, ymarfer hwy ar ddwysedd cymedrol sy’n lleihau imiwnedd.
Cynhaliwyd yr ymchwil am y tro cyntaf gan ddefnyddio pobl go-iawn, yn hytrach na thiwbiau profi, celloedd neu arbrofion ‘labordy’, a chan fesur ymateb imiwn gwirioneddol y corff i brofion patshys croen a ddefnyddiwyd ar ôl amseroedd a dwyseddau gwahanol o ymarfer, ac mae’r canlyniadau’n awgrymu’n glir y bydd cyfnodau hir o ymarfer cymedrol yn lleihau gallu eich system imiwn – fel y byddwch yn debycach o ddioddef gan unrhyw germau a allai fod o gwmpas i fanteisio ar y gwendid. Fodd bynnag, cafwyd nad oedd ymarferion byr a dwys yn cael effaith arwyddocaol ar system imiwn y corff.
Rhoddodd yr Athro Walsh a’i dîm ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø gemegyn a elwir yn ddiffenylcyclopropenon (DPCP) trwy batshyn ar waelod y cefn 20 munud ar ôl sesiynau o ymarfer a oedd yn amrywio o ran hyd a dwysedd. Mae DPCP yn antigen sy’n ysgogi datblygiad ymateb imiwn newydd sbon – asesir cryfder yr ymateb imiwn trwy osod mwy o DPCP ar y croen bedair wythnos yn ddiweddarach a mesur y cochni a’r tewhau sy’n digwydd ar y croen.
Yn ôl yr Athro Neil Walsh, Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil i Eithafion yn yr y Brifysgol a phrif awdur y papur:
“Y newydd da yw bod y canfyddiadau, mewn gwirionedd, yn gyson â’r meddylfryd cyfredol ynglÅ·n â hyfforddiant dygnwch, sydd hefyd yn awgrymu bod sesiynau dwys, cymharol fyr o ymarfer yn bwysig o ran gwella perfformiad. Felly nid yw’n anghyson â rhaglen hyfforddi dygnwch optimaidd ar gyfer athletwyr.â€
Ychwanega Walsh: “Gallwn i gyd ddysgu o hyn, o’r athletwyr gorau hyd at yr athletwr oriau hamdden. Meddyliwch yn ôl am rai enghreifftiau nodedig o’r athletwyr gorau yn mynd yn sâl ar adeg dyngedfennol: bu’n rhaid i Paula Radcliffe dynnu allan o Ras Fawr BUPA yn y Gogledd ym Mai 2011 oherwydd haint ar y frest, a haint ar y frest barodd i Syr Chris Hoy yntau dynnu allan a’r Pencampwriaethau Trac Ewropeaidd ym mis Hydref yr un flwyddyn. Nid oes tystiolaeth empeiraidd i awgrymu eu bod yn dioddef gan atal imiwnedd oherwydd eu hyfforddiant, ond yn sicr, nid ydynt unigryw wrth brofi annwyd a heintiau eraill tra byddant yn cymryd rhan mewn hyfforddiant trwm iawn.â€
“Mae optimeiddio imiwnedd yn bwysig i athletwyr, am i arolwg a gynhaliwyd ar berfformwyr elitaidd o wledydd Prydain ddangos bod heintiau ar y llwybr resbiradol uchaf yn un o brif achosion tanberfformio, yn ail yn unig i anaf ar y cymalau. Yr hyn sydd eisiau inni ei ganfod yn awr yw’r cydbwysedd gorau rhwng hyfforddi a rheoli ein hymateb imiwn.â€
Bydd yr Athro Neil Walsh yn trafod sut i osgoi mynd yn sâl mewn hyfforddiant caled a chystadlaethau yn , Cynhadledd ryngwladol o bwys mewn Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer sydd i’w chynnal yn Newcastle ar 16-18 Rhagfyr.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2014