Cytundeb newydd rhwng cwrs Gwyddorau Meddygol ym Mangor a chwrs Meddygaeth Ôl-radd yng Nghaerdydd
Cytundeb newydd rhwng cwrs Gwyddorau Meddygol ym Mangor a chwrs Meddygaeth Ôl-radd yng NghaerdyddMae Prifysgol Âé¶¹Íø a Phrifysgol Caerdydd wedi llofnodi cytundeb hanesyddol i raddedigion yn y Gwyddorau Meddygol (BMedSci) o Fangor fynd ymlaen i'r rhaglen Meddygaeth MBBCh yng Nghaerdydd. Gwarantir cyfweliad pob blwyddyn i hyd at ddeg myfyriwr sy'n bodloni'r meini prawf am le ar y cwrs MBBSCh Meddygaeth pedair blynedd yng Nghaerdydd. Nod y cytundeb yw cefnogi'r agenda ehangu cyfranogiad ym maes meddygaeth a hefyd cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei ymdrechion i gynyddu nifer y meddygon sy'n cael eu recriwtio i weithio i'r GIG yng ngogledd Cymru.
Dywed Mr Dean Williams, Pennaeth yr ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø a Llawfeddyg Fasgiwlar Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd: "Mae'r cytundeb hwn yn ddatblygiad pwysig i'r ysgol ac i ogledd Cymru. Bydd addysg ragorol a safonau uchel y cwrs BMedSci yn paratoi ein myfyrwyr am yrfa ym maes meddygaeth neu mewn maes gwyddonol arall."
Mae'r cwrs BMedSci mewn Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø yn ei ail flwyddyn erbyn hyn. Bydd y cytundeb hwn yn rhoi cyfle i'r garfan gyntaf o raddedigion fynd ymlaen i ail flwyddyn y rhaglen feddygol yn 2015. Bydd gradd Gwyddorau Meddygol Prifysgol Âé¶¹Íø yn rhoi sylfaen wybodaeth ragorol i fyfyrwyr sydd eisiau mynd ymlaen i astudio meddygaeth, ond mae hefyd yn gwrs da i fyfyrwyr sydd eisiau gyrfa ym maes meddygaeth neu mewn maes gwyddonol arall. Meddai Dr Nichola Callow, Deon Coleg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø: "Bydd myfyrwyr yn gallu elwa ar arbenigedd addysgu ac ymchwil nifer o ysgolion yn y brifysgol ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bydd hynny'n cynnig cyfleoedd dysgu amlddisgyblaethol unigryw i fyfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau trosglwyddadwy."
Llofnodwyd y cytundeb ar ran Prifysgol Âé¶¹Íø gan yr Is-Ganghellor, yr Athro John Hughes, ac meddai: “Mae hon yn esiampl wych o sut gall Prifysgol Âé¶¹Íø a Phrifysgol Caerdydd weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â phethau sydd o bwys mawr i Gymru. Mae'r cytundeb yma yn rhoi gwell cyfle i fyfyrwyr fynd ymlaen i addysg feddygol ac mae hefyd yn annog hyfforddeion meddygol i ystyried gogledd Cymru fel lle i hyfforddi ac i weithio. Bydd hefyd yn gymorth i ateb y galw am feddygon a chlinigwyr sy'n gallu siarad Cymraeg.â€
Er na fydd y myfyrwyr fydd yn mynd ymlaen i astudio yn sgil y cytundeb hwn yn cymhwyso am nifer o flynyddoedd, gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr elwa ar y staff clinigol fydd eisiau bod yn rhan o'r gweithgareddau addysgu ac ymchwil sydd ynghlwm wrth y datblygiad hwn.
Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Yr Athro Colin Riordan:
"Mae Prifysgol Caerdydd yn croesawu'r cytundeb yma gyda Phrifysgol Âé¶¹Íø a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bydd yn fodd i gryfhau'r cysylltiadau rhwng ein sefydliadau ymhellach. Mae hwn yn gynllun cyffrous a fydd yn cynyddu'r cyfleoedd i fyfyrwyr o Ogledd Cymru astudio meddygaeth yn un o brif ysgolion meddygol Prydain. Mae ein myfyrwyr meddygol eisoes yn treulio llawer o'u hyfforddiant clinigol yng Ngogledd Cymru a byddant yn gweithredu fel mentoriaid i fyfyrwyr fydd yn trosglwyddo o raglen gwyddorau meddygol Âé¶¹Íø i Gaerdydd."
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2014