ECB yn sicrhau help gwyddonwyr o Brifysgol 鶹 o ran profi dawn cricedwyr
Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi troi at wyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol 鶹 i’w cynorthwyo o greu model darogan talent i helpu i adnabod cenedlaethau cricedwyr penigamp yn y dyfodol.
Y Tîm project Bwrdd Criced Cymru a Lloegr a Phrifysgol 鶹Amcan y project ymchwil rhwng yr ECB a’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn y Brifysgol yw dilysu model ar gyfer darogan talent ym maes criced. Defnyddir hwn i helpu dewiswyr a hyfforddwyr i asesu ac adnabod chwaraewyr ifainc addawol ac i gynyddu’r graddau y daw’r rhain yn gricedwyr rhyngwladol llwyddiannus.
Mae’r symudiad yn rhan o strategaeth ehangach yr ECB i astudio’r arfer gorau o ran adnabod a dewis dawn ar draws gwahanol chwaraeon ers tair blynedd. Buwyd yn archwilio’r holl bosibiliadau wrth sefydlu strategaeth newydd yr ECB ar recriwtio dawn ar gyfer Llwybr Criced Lloegr. Y nod yw sicrhau cadarnhad fod gan gricedwyr a ddewisir ar gyfer rhaglenni Lloegr ar Ddatblygu a Pherfformio y posibiliadau o ddod yn chwaraewyr penigamp.
Buwyd yn edrych ar fuddion profi dawn ar lefel dorfol trwy raglen Combine NFL a Rhaglen Pitch to Podium Sefydliad Chwaraeon y DU. Buwyd yn ymweld â thimau Pêl Fâs y Brif Gynghrair, clybiau pêl droed yr Uwch Gynghrair, â chymdeithasau â thrwydded yr NFL a’r NBA i gyd, er mwyn archwilio trefnau recriwtio dawn. Crëwyd cyswllt â’r Baltimore Ravens, trwydded NFL, i ddysgu am fodelau darogan dawn, yn cynnwys trefnau chwilota a phroffilio seicolegol.
Yn sgil ei ganfyddiadau, mae ECB bellach yn gweithredu strategaeth arloesol ar recriwtio dawn, sy’n cynnwys y Prawf Dawn Criced, trefn chwilota safonol ac ymchwil flaengar i ddarogan dawn.
Meddai Pennaeth ECB dros Wyddoniaeth a Meddygaeth, Simon Timson:
“Mae chwaraeon Proffesiynol ac Olympaidd i gyd yn cystadlu i ddenu’r plant mwyaf dawnus o blith carfan ddawn gymharol fach. Mae’r ECB yn dod â’r meddyliau gorau ym meysydd hyfforddi mewn criced a gwyddor canfod dawn er mwyn creu’r system fwyaf manwl posibl o ran nodi dawn a dewis chwaraewyr. Dylai’r bartneriaeth â Phrifysgol 鶹 i lunio model darogan dawn adnabod nodweddion sy’n canfod pa chwaraewyr ifainc sydd â’r posibiliadau ar gyfer llwyddiant rhyngwladol ar lefel uwch. Prifysgol 鶹 sy’n darparu’r arbenigedd penodol sy’n ofynnol er mwyn ymdrin â chyfresi enfawr o ddata ar ganlyniadau profion cricedwyr ifainc, hanesion ymarfer ac ystadegau perfformio sy’n ofynnol er mwyn creu’r model. Rydym yn gobeithio y bydd y canlyniad yn gymorth i’n rhwydwaith cenedlaethol o hyfforddwyr iau ddewis y chwaraewyr sydd fwyaf tebygol o lwyddo, a chanolbwyntio eu hegni arnynt.
Trwy’r ymchwil, cipir grant o £44,000 gan yr ECB dros 4 blynedd ECB ar gyfer profi dawn criced yn flynyddol, ynghyd ag efrydiaeth PhD. Arweinir yr ymchwil gan yr Athro Michael Khan, sy’n arbenigo ym meysydd amser ymateb a dysgu medrau.
“Mae’n ofynnol i gricedwyr ar y lefel uchaf gymryd penderfyniadau’n sydyn a defnyddio medrau uwch, heb gamgymeriadau, pan fyddant dan bwysau anferthol,” meddai’r Athro Khan.
“Deall y gofynion i ymateb i’r sialensiau hyn, yn ogystal â chreu llwybrau datblygiad cricedwyr, fydd yr allwedd tuag at ddatblygu model darogan dawn a all adnabod chwaraewyr sydd â’r posibiliadau o gyrraedd y brig ar raddfa ryngwladol,” ychwanegol.
Yr Athro Lew Hardy o’r Ysgol, sydd wedi gweithio gyda’r Fyddin Brydeinig, yn ogystal â chyda’r ECB, fydd yn arolygu cydran seicolegol y profion dawn a’r dadansoddiadau ystadegol. Bydd yr Athro Bruce Abernethy o Brifysgol Hong Kong yntau’n cydweithio ar y project. Mae’r Athro Abernethy wedi arloesi mewn ymchwil ym maes rhagweld ac arbenigedd.
Ed Barney yw’r myfyriwr PhD a gyllidir ar y project ymchwil a fydd, yn y lle cyntaf, yn cymryd 4 blynedd. Cwblhaodd Ed Barney (28) ei radd gyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Caer-Wysg, cyn graddio’n ddiweddar o Brifysgol Loughborough gydag MSc mewn Gwyddor Chwaraeon. Bydd Ed yn rhannu ei amser rhwng y Ganolfan Genedlaethol dros Berfformiad Criced yn Loughborough a Phrifysgol 鶹.
“Profir dawn chwaraewyr dan 13, 16 a 19 oed o Gymru a Lloegr yn ystod y tair blynedd nesaf. Bydd cyfuniad o’r data hyn ag ystadegau ar berfformiad ac adroddiadau ar chwilota yn cyfrannu at fodel fel y gellir darogan pa rai a allai ddatblygu’n chwaraewyr gorau’r byd yn y dyfodol. Yn ogystal ag i adnabod dawn, defnyddir y model hwn fel sail ar gyfer ymarfer hyfforddi ar gyfer y chwaraewyr hynny a allai fod yn sêr yng Nghymru a Lloegr yn y dyfodol,” eglurodd yr Athro Khan.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2011