FFIT Cymru yn ôl am ail gyfres – a Mared yn arwain y ffordd!
Mae un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C y llynedd, FFIT Cymru, yn ôl ar gyfer ail gyfres ym mis Ebrill a bydd ymwneud Prifysgol Âé¶¹Íø â chynhyrchiad Cwmni Da yn fwy fyth eleni, wedi i un o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gael ei dewis i fod yn un o ‘arweinwyr’ ysbrydoledig y gyfres.Mared Fôn Owen
Mae Mared Fôn Owen, 20 oed ac yn hanu o Fodedern, yn fyfyrwraig ym mlwyddyn olaf ei gradd yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol a thros gyfnod o saith wythnos, bydd Mared a phedwar arweinydd newydd arall yn mynd ati i drawsnewid eu bywydau drwy golli pwysau a datblygu lefelau newydd o ffitrwydd.
Wrth edrych ymlaen at y gyfres, meddai Mared:
“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy nerbyn i fod yn rhan o ail gyfres FFIT Cymru. Mae’n fraint fy mod i wedi cael fy newis o blith yr holl ymgeiswyr ac, yn sicr, efo’r holl gefnogaeth rwyf wedi ei derbyn yn barod, does dim amheuaeth na fydda i’n cyrraedd y nod!â€
Gan ffurfioli’r berthynas a ddatblygwyd ar gyfer y gyfres gyntaf y llynedd, mae’r Brifysgol yn un o ‘bartneriaid’ y gyfres unwaith eto eleni, gan ymuno â chriw dethol o gyrff a sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Sustrans, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Vitality Parkrun ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r Brifysgol wedi rhannu ei chyfleusterau chwaraeon a’i harbenigeddau ym maes gwyddorau chwaraeon â’r cynhyrchiad eto eleni.
Cyn dewis y pum arweinydd terfynol, daeth carfan o ymgeiswyr i ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford, i gael eu hasesu gan arbenigwyr y gyfres, sy’n cynnwys y dietegydd, Sioned Quirke, y seicolegydd, Dr Ioan Rees a’r arbenigydd ffitrwydd, Rae Carpenter – a’r cyfan dan lywyddiaeth y cyflwynydd, Lisa Gwilym. Yna, wedi dewis y pum arweinydd, byddwn yn eu gweld yn cael eu hasesu gan Tomos Jones, myfyriwr PhD yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol. Bydd y profion yn cael eu cynnal yn labordai PAWB yr Ysgol, sy’n cynnwys offer arbenigol ar gyfer mesur iechyd a ffitrwydd. Bydd y profion hyn yn cael eu hailadrodd ar ddiwedd y gyfres er mwyn gweld a yw’r pum arweinydd wedi llwyddo i drawsnewid eu bywydau am y gorau.
Mae’r gyfres yn dilyn fformat rhaglen Transformation Nation, sydd bellach ar ei deuddegfed cyfres ar sianel RTÉ yn Iwerddon a bydd FFIT Cymru yn annog gwylwyr i fynd ati i drawsnewid eu bywydau hwythau drwy ddilyn bwydlenni a rhaglenni ffitrwydd arweinwyr y rhaglen.
Wrth drafod y bartneriaeth rhwng y gyfres a Phrifysgol Âé¶¹Íø, meddai comisiynydd rhaglenni S4C, Sioned Wyn Roberts:
"Mae’r bartneriaeth rhwng S4C, Cwmni Da a Phrifysgol Âé¶¹Íø yn fuddiol iawn i gyfres FFIT Cymru. Mae’r Brifysgol yn chwarae rôl ganolog yn y gyfres eto eleni, drwy agor eu drysau i’r arweinwyr ac i’r camerâu i ffilmio yno.
"Un elfen hollbwysig yn siwrne'r pum arweinydd yw’r profion ffitrwydd manwl sy’n cael eu cynnal yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Âé¶¹Íø ar ddechrau ac ar ddiwedd y gyfres, ac mae hyn yn galluogi ni i fesur cynnydd a llwyddiant ein pump yn ystod eu taith FFIT Cymru."
Ac wrth edrych ymlaen at y gyfres newydd, meddai’r Athro Graham Upton, Is-ganghellor Dros Dro Prifysgol Âé¶¹Íø:
“Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â chynhyrchiad FFIT Cymru eto eleni a rhannu rhywfaint o arbenigeddau a chyfleusterau arbennig y Brifysgol – ac, wrth gwrs, rydym yn dymuno’n dda i Mared wrth iddi arwain eraill i ddilyn ei hesiampl!â€
Bydd pennod gyntaf cyfres newydd FFIT Cymru yn cael ei darlledu nos Fawrth, 2 Ebrill ar S4C am 8 o’r gloch. I wybod mwy am y gyfres, ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019