Prifysgol 鶹 yn Gwobrwyo Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014
Yr Is-ganghellor yn cyflwyno tarian Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn i Victoria a Joe.Mae Victoria Allen a Joe Barnett wedi’u henwi’n enillwyr gwobr Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014 ym Mhrifysgol 鶹, i gydnabod y gefnogaeth wych maent wedi’i rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Mae Victoria (21) yn fyfyrwraig Hanes yn yr . Cyn cychwyn ar ei hastudiaethau yn y Brifysgol, mynychodd St Peter's RC High School and Sixth Form Centre yn Gloucester.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Dinbych, mae Joe yn fyfyriwr Gwyddor Chwaraeon yn yr .
Derbyniodd y ddau darian a gwerth £50 o docynnau Amazon fel gwobr.
Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Prifysgol 鶹 yn cynorthwyo myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd prifysgol. Mae’n eu paru â myfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol, ac sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig i’w galluogi i gynorthwyo eu cyd-fyfyrwyr. Gyda mwy na 450 o fyfyrwyr yn cymryd rhan, mae hwn yn un o’r cynlluniau mwyaf o’i fath yn y wlad.
Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn helpu’r myfyrwyr newydd i gymdeithasu, a dysgu eu ffordd o gwmpas y ddinas a’r Brifysgol. Gallant gyfeirio’r myfyrwyr newydd at wybodaeth neu gefnogaeth ychwanegol os bydd angen.
“Mae ymrwymiad yr Arweinwyr Cyfoed a’u cyfraniad at fywyd Prifysgol 鶹 yn amhrisiadwy,” meddai Kim Davies, Cydlynydd Arweinwyr Cyfoed o fewn y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr.
“Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn trefnu a chynnal digwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso, ac ar gael i gynorthwyo’r myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd Prifysgol. Gallant wneud y gwahaniaeth rhwng myfyriwr newydd yn penderfynu aros yn y Brifysgol neu ymadael yn ystod yr wythnosau cyntaf oddi cartref. Maent yn dod yn ffrindiau i’w myfyrwyr, a bydd rhai cysylltiadau’n parhau trwy’r Brifysgol,” ychwanegodd.
Enwebwyd Victoria a Joe am y wobr hon gan y myfyrwyr blwyddyn gyntaf y meant yn gyfrifol fel Arweinydd Cyfoed arnynt. Enwebwyd Joe am ei fod yn hynod o groesawgar a bob tro’n trio’i orau i ateb unrhyw gwestiynau a datrys unrhyw broblem. Dywedodd un o’r enwebwyr: "Rwy'n gwybod na fyddwn wedi gallu wynebu’r flwyddyn gyntaf heb y cymorth yr oedd ar gael ganddo."
Ar ôl derbyn ei wobr, dywedodd Joe: "Roeddwn eisiau bod yn Arweinydd Cyfoed gan fy mod eisiau helpu myfyrwyr blwyddyn gyntaf deimlo’n gartrefol, oherwydd yn fy mlwyddyn gyntaf cefais ddechrau sigledig a doeddwn i ddim eisiau i unrhyw un arall gael yr un profiad. Rwy'n hynod o falch o fod yn rhan o'r cynllun Arweinwyr Cyfoed a gychwynnodd ym Mangor a hefyd bod yn rhan o grŵp sy'n gofalu am fyfyrwyr. Mae wedi bod yn brofiad gwych."
Cafodd Victoria ei henwebu am ei bod wedi annog myfyrwyr i ymuno â chlybiau a chymdeithasau, rhoi’r hyder i fyfyrwyr archwilio 鶹 a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gael. Roedd hi hefyd mewn cysylltiad trwy gydol y flwyddyn ac wedi cysylltu gyda myfyrwyr sawl gwaith cyn iddynt ddod i Fangor ac yn ateb llawer o gwestiynau cyn iddynt gyrraedd. Meddai un enwebwr , "yn ystod cyfnod yr arholiadau yr oedd yn sicrhau fy mod yn iawn ac yn fy nghynghori am ffynonellau i gael cymorth ychwanegol."
Wrth ei bodd gyda'i wobr, dywedodd Victoria: "Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ym Mangor, cefais ofal a chymorth gan Arweinwyr Cyfoed ac yr oeddwn eisiau bod yn rhan o hynny. Mae ein hysgol mor agos; rwyf wrth fy modd yn ymuno â gweithgareddau a chwrdd â holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf a hefyd cadw mewn cysylltiad â nhw trwy gydol y flwyddyn."
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2014