鶹

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • 鶹 yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • 鶹 a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • 鶹 yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • 鶹 a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Sicrhau perfformiad parhaus

Gan ddatblygu’r sgiliau rheoli effeithiol a amlinellwyd yn gynharach yn y ddogfen, mae’n hollbwysig defnyddio’r sgiliau hyn yn y ffordd orau wrth roi adborth effeithiol, pan fydd angen cael sgwrs anodd gyda staff ac atgyfnerthu adborth a gosod nodau yn yr Adolygiad Datblygu Perfformiad.

Rhoi adborth effeithiol

Pwrpas adborth yw atgyfnerthu gweithredoedd ac ymddygiad cadarnhaol neu ailgyfeirio gweithredoedd ac ymddygiad fel bod unigolion yn newid eu hymddygiad a gweithredoedd. Bydd eich dull o roi adborth wrth gwrs yn dibynnu ar y sefyllfa hynny yw, gallech benderfynu mai dim ond adborth ysgafn sydd ei angen i gael y canlyniadau gofynnol neu mae’n rhaid i chi baratoi os bydd angen adborth mwy ffurfiol – yn arbennig os yw’r adborth yn negyddol.

Pan fyddwch yn rhoi adborth dylech sicrhau ei fod yn cael ei roi mor agos â phosib i’r digwyddiad fel ei fod yn amserol ac yn berthnasol. Hefyd, cofiwch y gall yr unigolyn ei chael hi’n anodd i dderbyn yr adborth ac felly mae paratoi’n dda yn hollbwysig fel y gallwch gyfathrebu eich neges yn sensitif ac yn effeithiol.

Fodd bynnag, o ran eich dull rheoli cyffredinol, cofiwch roi adborth cadarnhaol i staff – mae’n ysgogi ac yn helpu i atgyfnerthu ymddygiadau a gweithredoedd cadarnhaol!

Rhai syniadau

Pan fyddwch yn rhoi adborth byddwch yn benodol ac yn wrthrychol. Dyma enghreifftiau:

  • Disgrifiwch yr hyn a welwyd gennych – “Sylwais...”, “Gwelais...”
  • Annog hunan-fyfyrio – “Beth yw eich barn?”, “Sut ydych chi’n teimlo am hyn?”
  • Amlinellwch ganlyniadau’r gweithredu cyfredol – “Effaith hyn oedd/yw...”, “Roedd hyn yn golygu bod...”
  • Datblygu’r sgwrs trwy annog hunan-fyfyrio eto – “Beth yw eich barn?”, “Beth gallech chi fod wedi ei wneud yn wahanol”
  • Atgyfnerthu trwy ofyn – “Beth wnaethoch chi ddysgu o hynny?”
  • Cytuno ar gynllun gweithredu i’w ddatblygu – “Sut ydych chi’n meddwl y dylem ni symud ymlaen?”, “Sut hoffech chi gael eich cefnogi?”

Cael sgyrsiau anodd

O bryd i’w gilydd, mae materion yn codi sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i godi materion anodd gyda staff. Gall y mathau hyn o drafodaeth fod y sefyllfaoedd mwyaf anodd y mae’n rhaid i reolwr ymdrin â nhw, dyma rai egwyddorion allweddol i’w dilyn pan rydych yn gorfod rhoi adborth negyddol ac anodd.

  • Gwybod eich ffeithiau a’u cadw wrth law – nid ydych eisiau colli’ch trywydd os ydych wedi cael eich ffeithiau’n anghywir a bydd rhaid i chi sicrhau eich hygrededd drwy gydol y broses.
  • Rhagweld ymddygiad pobl eraill a pharatoi eich ymatebion – Dylech ragweld ymddygiad pobl eraill a pharatoi eich ymateb eich hun drwy ddychmygu beth alla’i ddigwydd. Paratowch eich atebion yn ôl y gwahanol senarios a all ddatblygu. Paratowch pobl eraill i’ch cefnogi ac amddiffyn. Bydd paratoi’n dda yn cynyddu eich hunan hyder ac yn eich galluogi i fod yn bendant am yr hyn sy’n bwysig i chi.
  • Paratowch a defnyddiwch gwestiynau agored da – Gofyn cwestiynau da yw’r ffordd fwyaf ddibynadwy o achub y blaen, a chymryd y gwynt o hwyliau rhywun, mewn unrhyw sefyllfa. Hefyd peidiwch â gadael neb i’ch rhwystro, daliwch ati. Os caiff y cwestiwn ei osgoi neu ei anwybyddu, ewch yn ôl ato neu ei aralleirio.
  • Adnewyddu ac ymarfer eich ymateb i ymddygiad ymosodol – Mae’n debygol y bydd ymatebion unigolion yn negyddol mewn sefyllfa anodd ac felly mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn bendant (ddim yn oddefol nac yn ymosodol) a pharatowch ar gyfer ymatebion negyddol. Unwaith eto, mae paratoi yn bwysig a byddwch yn ymwybodol o sut fyddwch yn ymateb i atebion negyddol.
  • Os ydych yn ansicr, gofynnwch am help – fel nodwyd, nid yw’n hawdd ymdrin â’r sefyllfaoedd hyn. Fel rhan o’ch gwaith paratoi, siaradwch â rheolwr arall neu rywun yn AD fel y byddwch yn teimlo’n fwy hyderus wrth ddelio â’r sefyllfaoedd hyn.

Rhai syniadau

Strwythur i’r sgwrs

  • Gosodwch y naws briodol
  • Dywedwch beth yw’r problemau
  • Rhowch dystiolaeth ac enghreifftiau
  • Canolbwyntiwch ar y broblem nid yr unigolyn
  • Gofynnwch am eglurhad
  • Cytunwch ar ffordd ymlaen
  • Rhowch gefnogaeth

Gosod y sefyllfa ac adeiladu perthynas

  • Dewch yn syth at y pwynt gan ddefnyddio iaith niwtral
    “Hoffwn drafod yn anffurfiol rhai materion perfformiad diweddar a chynnig rhywfaint o gefnogaeth.”
  • Dangoswch empathi
    “Rwy’n deall eich bod yn brysur iawn ac efallai nad ydych eisiau bod yma heddiw ond rwy’n credu y gall y ddau/y ddwy ohonom elwa o gyfarfod heddiw.”
  • Eglurwch beth yr hoffech ei wneud
    “Hoffwn dreulio hanner awr yn deall beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen gyda chi yn y gwaith, rhoi adborth i chi, cymharu ein canfyddiadau a chytuno ar ffordd ymlaen a chytuno ar rai camau gweithredu ar y diwedd. Unrhyw gwestiynau?”

Gwrando myfyriol

  • Dylech wahodd yr unigolyn i siarad yn rhydd am eu profiad yn y gwaith
    “Felly, sut mae gwaith wedi bod i chi yn ddiweddar?”
  • Gwrandewch yn fyfyriol a chrynhoi heb fod yn feirniadol
    ”...felly rydych yn dweud bod pethau wedi newid, nid yw pethau yr un fath ers...mae rhai ffyrdd o weithio yn anodd...mwy heriol...”
  • Dylech bob amser wirio bod unrhyw grynhoi yn gywir

Hoffech chi wybod mwy?

Mae’r brifysgol yn ceisio cynnal gweithdy ‘Delio â sgyrsiau anodd’ bob blwyddyn sy’n arwain staff drwy’r materion a’r broses o ymdrin â sgyrsiau anodd. Ceir gwybodaeth am y gweithdy hwn yn y rhestr hyfforddiant a datblygu.

Adolygiad datblygu perfformiad

Mae’r Adolygiad Datblygu Perfformiad yn adeiladu ar adborth rheolaidd drwy’r flwyddyn fel y gallwch chi a’ch staff nodi amcanion newydd.

Mae Cynllun Adolygiad Datblygu Perfformiad Prifysgol 鶹 yn seiliedig ar y gred bod gan yr holl staff yr hawl i ddealltwriaeth glir o ddisgwyliadau’r Brifysgol ohonynt a chyfle i drafod a chytuno ar eu cyfraniad at gyflawni amcanion y Brifysgol. Amcanion y cynllun Adolygiad Datblygu Perfformiad yw:

  • dod â staff ac adolygwyr at ei gilydd yn rheolaidd, i adolygu swyddogaethau, disgwyliadau a datblygiad.
  • adnabod cryfderau staff a’u cyfraniadau at y Brifysgol.
  • cytuno ar amcanion allweddol unigolion i sicrhau bod yr holl staff yn gwneud cyfraniad effeithiol at gyflawni nodau ac amcanion cyffredinol y brifysgol.
  • nodi a chefnogi anghenion datblygiad proffesiynol parhaus aelodau staff.
  • rhoi cyfle i unigolion fyfyrio ar yr hyn y maent yn ei wneud a sut yr hoffent gyfrannu yn y dyfodol ac
  • annog cyfathrebu effeithiol o fewn y Brifysgol.

O ran y broses, disgwylir bod staff yn cael Adolygiad Datblygu Perfformiad o leiaf unwaith y flwyddyn a bod y broses wedi ei seilio’n gadarn ar y rhagosodiad bod yr holl staff yn gwneud eu gwaith yn well a chyda mwy o foddhad yn y gwaith, pan:

  • Maent yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt, a gallant gytuno â hynny.
  • Maent yn cael sylwadau ar eu gwaith gan reolwyr a chydweithwyr y maent yn atebol iddynt.
  • Gallant fynegi pryderon a nodi cyfyngiadau heb ofni cael eu hedliw.
  • Maent yn cael cefnogaeth ac arweiniad i gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt.
  • Bod cyfle i hunan-ddatblygu a datblygu gyrfa.

Felly mae’r brifysgol yn ystyried yr Adolygiad Datblygu Perfformiad fel proses gadarnhaol sy’n caniatáu i reolwyr a staff adfyfyrio ar eu gwaith a nodi amcanion ar gyfer y cyfnod canlynol. Fel rheolwr rydych yn gyfrifol am: gytuno ar set o amcanion ar gyfer y flwyddyn ganlynol, rhoi arweiniad i’r sawl sy’n cael ei adolygu, nodi anghenion hyfforddi a datblygu i gynorthwyo gyda chyflawni amcanion a nodwyd ac amcanion datblygu gyrfa cyffredinol a gwerthuso llwyddiant o ran cyflawni amcanion a pherfformiadau blaenorol a bod yn agored i dderbyn a rhoi sylwadau perthnasol.

Dylai’r Adolygiad Datblygu Perfformiad fyfyrio ar drafodaethau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn mewn cyfarfodydd un i un gyda staff ac mewn cyfarfodydd tîm a dylai helpu rheolwyr i gynllunio gwelliannau at y dyfodol a chynllunio cyfleoedd datblygu i staff.

Hoffech chi wybod mwy?

  • Dylai’r holl staff sy’n rheoli pobl eraill fynd i’r gweithdy Datblygu Sgiliau Datblygu Perfformiad.
  • Safle’r Adolygiad Datblygu Perfformiad

Os nad oes llawer o newid ym mherfformiad unigolyn ar ôl cael hyfforddiant, adborth a chefnogaeth, efallai bydd angen dilyn trefniadau ffurfiol i roi sylw i’r bylchau mewn perfformiad.

Hafan

Gwasanaethau a Chyfleusterau

Adnoddau Dynol

  • Arweinlyfr Rheoli Perfformiad
    • Cyflwyniad
    • Cefnogi Perfformiad
    • Perfformiad effeithiol – o’r dechrau
    • Perfformiad parhaus
    • Rheoli Perfformiad Da
    • Rheoli Tan-Berfformio
    • Datrys Anghydfodau
    • Rheoli Straen
    • Rheoli Perfformiad drwy Newid
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol 鶹

鶹, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol 鶹
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol 鶹 yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol 鶹