Mae Prifysgol Âé¶¹Íø yn croesawu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn falch o gyflawniadau ei chyn-fyfyrwyr rhyngwladol. Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn cynnal aduniadau a digwyddiadau ledled y byd ac maent bob amser yn falch o weld cynifer o gyn-fyfyrwyr yn dod ac yn sgwrsio am hyn a llall a chwrdd ag aelodau o staff Prifysgol Âé¶¹Íø. Cynhelir aduniadau blynyddol yn Nheyrnas Bahrain a Tsieina a chynhaliwyd digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau, Gwlad Groeg, Singapore a Hong Kong ymhlith eraill!
Mae gan Brifysgol Âé¶¹Íø gysylltiadau â sefydliadau addysgol ledled y byd megis Prifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau a Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain yn Nheyrnas Bahrain ac mae grwpiau o gyn-fyfyrwyr wedi dod ynghyd yn y lleoliadau hynny i gefnogi'r partneriaethau.
A allech chi gefnogi Prifysgol Âé¶¹Íø yn eich gwlad chi?
Mae Prifysgol Âé¶¹Íø yn ddiolchgar am gefnogaeth gwirfoddolwyr o blith yr alumni mewn mannau allweddol ledled y byd sy'n ymfalchïo yn eu cysylltiad â'r Brifysgol ac yn dymuno helpu codi ei phroffil yn rhyngwladol.
Fel gwirfoddolwr gallwch gefnogi Prifysgol Âé¶¹Íø trwy rannu eich profiadau gyda darpar fyfyrwyr, ehangu rhwydwaith yr alumni yn eich rhanbarth a rhannu eich gwybodaeth am fywyd a diwylliant eich gwlad.
Gallwch chi ein cynorthwyo gyda digwyddiadau fel sesiynau briffio ar gyfer myfyrwyr newydd, digwyddiadau gyrfaoedd a derbyniadau croeso i fyfyrwyr sy'n dychwelyd i'ch rhanbarth. Cewch gyfle i gysylltu â'ch cyd alumni yn eich dinas a'ch gwlad ar gyfer rhwydweithio cymdeithasol a busnes yn ogystal â datblygu cysylltiadau â staff y Brifysgol sy'n ymweld â'ch rhanbarth.
Os ydych chi'n alumnus rhyngwladol ac mae gennych chi ddiddordeb helpu codi proffil Âé¶¹Íø yn eich rhanbarth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Anfonwch e-bost at Bethan Perkins yn: alumni@bangor.ac.uk
Gweler tudalennau Canolfan Addysg Ryngwladol Prifysgol Âé¶¹Íø am ragor o wybodaeth am y gwaith maen nhw'n ei wneud yn eich gwlad chi.
Gwobr Alumni y Flwyddyn
Bob blwyddyn mae Prifysgol Âé¶¹Íø yn ystyried ymgeiswyr ar gyfer gwobrau Alumni y Flwyddyn. Mae gwobr Alumni y Flwyddyn yn cydnabod llwyddiannau ein graddedigion, yn broffesiynol ac yn bersonol. Darllenwch mwy am y rhai sydd wedi derbyn Alumni Rhyngwladol y Flwyddyn isod.
- Zahra Al Shamma (Bancio a Chyllid, 2013) - Âé¶¹Íø / BIBF Alumnus of the Year 2022
- Fatema Bastaki (Banking and Finance, 2012) - Âé¶¹Íø / BIBF Alumnus of the Year 2019
- Yingying Liu (Linguistics, 2014) - China Alumnus of the Year 2019
- Michelle Han (MBA, 2004) - China Alumnus of the Year 2018
- Mohamed Al-Mahroos (Banking & Finance MSc, 2012) - Âé¶¹Íø / BIBF Alumnus of the Year 2018
- Mohamed Ashoor (Business Studies and Finance, 2011) - Âé¶¹Íø / BIBF Alumnus of the Year 2017
- Prof. Yanjing Wu (Psychology PhD, 2008) - China Alumnus of the Year 2017
- Amina Rashid Al-Alaiwi (Accounting and Finance, 2010) - Âé¶¹Íø / BIBF Alumnus of the Year 2016