Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:

LLEOLIAD CYNHADLEDD ASAB

Prifysgol Âé¶¹Íø, Âé¶¹Íø, Gwynedd LL54 7DG

Ein Lleoliad

Mae campws Prifysgol Âé¶¹Íø wedi ei leoli dafliad carreg o’r môr, Ynys Môn ac ar garreg drws Parc Cenedlaethol Eryri.

Prifysgol Âé¶¹Íø, Âé¶¹Íø, Gwynedd LL54 7DG

Teithio i Fangor

Mae’n llawer haws dod i Fangor nag y byddech yn feddwl - Mae cysylltiadau ffordd da i Fangor ar hyd arfordir gogledd Cymru o'r M56 a'r M6.

Mae trenau uniongyrchol o Lundain (~4 awr), Manceinion (~2.5 awr), Crewe (~2 awr) a Chaerdydd (~4 awr).

Teithio o dramor - y meysydd awyr agosaf yw maes awyr Liverpool John Lennon, maes awyr Manceinion, a maes awyr Birmingham, sydd i gyd tua 2-3 awr i ffwrdd. Y porthladd agosaf yw Caergybi, sydd â llongau’n hwylio’n uniongyrchol o Iwerddon ac yna taith hanner awr o Gaergybi i Fangor.

Neuadd Breswyl Glaslyn ym mhentref Ffriddoedd

Llety

Mae gennym 40 o ystafelloedd gwely ar y campws ar gael am £35 y noson (ystafell yn unig), sydd o fewn pellter cerdded i brif adeiladau'r brifysgol, siopau, caffis, bariau, canolfannau ffitrwydd a golchdai. Archebwch ystafell gan ddefnyddio'r botwm melyn isod a'r cod ANIBE23. Cofrestrwch yn fuan rhag i chi gael eich siomi.

Mae llety arall ar gael o fewn pellter cerdded i’r brifysgol, gweler  i weld beth arall sydd ar gael.

Âé¶¹Íø Main Arts

Map o'r campws

Mae map y campws yn dangos lle mae ein hadeiladau, gan gynnwys y neuaddau preswyl, o amgylch y ddinas.