Cipolwg cyflym o'n cyrsiau er mwyn i chi allu cymharu a dod o hyd i'r rhai sy'n addas i chi.
360 Taith Rithwir Gwyddorau Iechyd
Fideo - Astudio Nyrsio
Dyma Ameer Rana sef cyflwynydd teledu S4C yn cyflwyno'r cyrsiau Nyrsio sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Nyrsio
Mae datblygiadau mewn triniaethau a thechnoleg yn creu cyfleoedd gyrfa newydd i nyrsys cofrestredig sy'n darparu gwahanol wasanaethau, yn cyflawni gwahanol swyddogaethau ac yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd. Mae llawer o wahanol agweddau ar nyrsio o fewn y pedwar maes a nifer o wahanol gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae cyfleoedd gyrfa yn amrywio o weithio fel nyrs staff mewn ysbyty neu yn y gymuned, er enghraifft, i swyddi mwy arbenigol ac arweiniol fel nyrsys arbenigol neu ymgynghorol. Mae sawl math o swydd ar gael i nyrsys cofrestredig ac maent yn cynnig datblygiad a dilyniant gyrfa o nyrs staff i nyrs arbenigol, rheolwr ward, metron, arweinydd, ymchwilydd, addysgwr ac ymgynghorydd nyrsio ym mhob maes. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am .
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Nyrsio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Nyrsio llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Nyrsio ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Nyrsio ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Nyrsio
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Âé¶¹Íø (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Âé¶¹Íø yn REF 2021 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil feddygol, ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.