Fideo - Astudio Radiograffeg
Dyma Ameer Rana sef cyflwynydd teledu S4C yn cyflwyno'r cyrsiau Radiograffeg Diagnostig sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Radiograffeg
Ar ôl graddio o Fangor mewn Radiograffeg Ddiagnostig bydd eich rhagolygon gyrfa yn rhagorol. Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae ein graddedigion wedi cael cyflogaeth 100% o fewn 3 mis o raddio, yn bennaf o fewn y GIG.
Unwaith y byddwch yn gyflogedig, bydd datblygiad eich gyrfa yn cael ei lywio gan ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn sgil hyfforddiant ychwanegol yn y gwaith gallwch arbenigo mewn dull delweddu penodol neu ddatblygu eich gyrfa ymhellach o fewn Radiograffeg fel ymarferydd uwch neu ymgynghorol.
Yn ogystal â gweithio yn y gwasanaeth iechyd, gall radiograffwyr hefyd fynd ymlaen i weithio yn y sector masnachol. Mae gyrfaoedd posib yn cynnwys gweithio fel arbenigwyr rhaglenni sy'n cynnig hyfforddiant i eraill ar ddefnyddio offer yn gywir, gwerthu a Gwybodeg. Mae radiograffwyr yn defnyddio technoleg flaengar ym maes gwybodeg yn y Deyrnas Unedig. Mae'r holl ddelweddu yn y GIG wedi bod yn ddigidol ers 2010, felly bydd gennych sylfaen wybodaeth helaeth i gefnogi gwybodeg mewn meysydd iechyd eraill, gan roi hyblygrwydd gyrfa ychwanegol i chi.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Radiograffeg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Radiograffeg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Radiograffeg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Radiograffeg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Radiograffeg
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Âé¶¹Íø (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF2021 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Mae ein hymchwil sy’n ymwneud â’r Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth yn y 15ed safle yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r gwaith yma'n cefnogi cynlluniau blaenllaw'r brifysgol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ar gyfer sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø o 2024 a fydd yn adeiladu ar ein cryfderau ymchwil yn y Gwyddorau Dynol ac yn helpu i ddatblygu iechyd a gofal cymdeithasol i’r dyfodol a fydd yn gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn atgyfnerthu twf y sector gwyddorau bywyd y rhanbarth.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.