Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:

Cymraeg Clir

Y 12 rheol wrth ysgrifennu’n glir

1. Defnyddiwch iaith syml a chryno – iaith bob-dydd.

2. Cyfarchwch eich darllenydd yn uniongyrchol.

3. Defnyddiwch eiriau, ymadroddion a threfn naturiol y Gymraeg.

4. Defnyddiwch frawddegau byr (dim mwy na 25 gair mewn brawddeg).

5. Cadwch at yr egwyddor: ‘un frawddeg – un syniad’.

6. Defnyddiwch ferfau gweithredol i wneud eich gwaith yn fwy bywiog ac uniongyrchol: e.e. Dechreuodd y cyngor 50 o brojectau yn lle Dechreuwyd 50 o brojectau gan y cyngor

7. Ceisiwch osgoi berfau amhersonol.

8. Defnyddiwch ferfau yn lle enwau.

9. Defnyddiwch ferfau anffurfiol a rhagenwau.

10. Ceisiwch osgoi iaith ‘swyddogol’ sy’n llawn o jargon a thermau technegol (ac esboniwch unrhyw dermau anghyfarwydd).

11. Rhannwch frawddegau hir yn bwyntiau byr neu’n bwyntiau bwled.

12. Defnyddiwch atalnodi i helpu’r ystyr.