Cyfleusterau
Yn ogystal â darparu i’n 55 o glybiau myfyrwyr, mae Prifysgol Âé¶¹Íø hefyd yn darparu cyfleusterau chwaraeon i oddeutu 50 o glybiau, timau a grwpiau lleol. Canolfan Brailsford yw Canolfan Hamdden y Brifysgol ac mae’n darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden i aelodau’r Brifysgol a’r cyhoedd.
Mae cyfleusterau dan-do ar gyfer ystod eang o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd, yn cynnwys codi pwysau, dosbarthiadau aerobeg, criced dan-do, sboncen, trampolinio a llawer mwy.
Bwrsariaethau Chwaraeon
Yn oystal â darparu caeau chwarae, neuaddau a chyrtiau, mae Prifysgol Âé¶¹Íø yn darparu bwrsariaethau ar gyfer athletwyr lleol er mwyn eu galluogi i hyfforddi yma yn rhad ac am ddim. Caiff ceisiadau eu derbyn yn flynoddol ac mae sawl un sydd wedi elwa ar bwrsariaethau hyn wedi cynrychioli Cymru a Phrydain yn eu campau maes o law.
Parneriaethau Cymunedol
Mae Prifysgol Âé¶¹Íø yn cydweithio’n agos â darparwyr chwaraeon lleol eraill er mwyn manteisio ar gyfleoedd cyllido. Yn 2014, darparodd Prifysgol Âé¶¹Íø gyllid ar gyfer cae-pob-tywydd 3G newydd ar safle Stadiwm Prifysgol Âé¶¹Íø a chreu adnodd buddiol ar gyfer ystod ehangach fyth o glybiau lleol.
Cafodd y dôm pêl-rwydd a thenis yn Nghanolfan Brailsford ei chyd-ariannu gan y Brifysgol a Chwaraeon Cymru a rhoddir blaenoriaeth i’r timau pêl-rwyd ieuenctid ac oedolion sy’n ei defnyddio.

Chwaraeon Âé¶¹Íø
Ewch i wefan Chwaraeon Âé¶¹Íø i wybod mwy am aelodaeth a'r gampfa a'r cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael.