Fy ngwlad:

Uniondeb Ymchwil

Arweinwyr a gwasanaethau academaidd dynodedig

Fel un o brif flaenoriaethau'r Tîm Gweithredu, mae’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol wedi creu swyddogaethau gweinyddol ffurfiol er mwyn gofalu am uniondeb ymchwil ac egwyddorion gwyddoniaeth agored. Mae’r rhain yn cynnwys:

Yn ogystal, mae gan Brifysgol 鶹 nifer o endidau sydd wedi ymrwymo i welliant ac uniondeb ymchwil, gan gynnwys y Gwasanaeth Cefnogi Ymchwil ac Effaith Integredig, a'r Ganolfan Cydweithredu a Rheoli Data Ymchwil a o fewn yr adran Llyfrgell ac Archifau.

Cysylltiadau

O fewn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ceir rhwydwaith lleol o'r : “Consortiwm dan arweiniad cymheiriaid sy’n ceisio sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn ganolfan ar gyfer ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd, drwy ymchwilio i’r ffactorau sy’n cyfrannu at ymchwil gadarn, hyrwyddo gweithgareddau hyfforddi a lledaenu’r arferion gorau, a gweithio gyda rhanddeiliaid allanol – sefydliadau sy’n yn rhan o’r ecosystem ymchwil ehangach – i sicrhau cydgysylltu ymdrechion ar draws y sector.” Mae gan yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol hefyd gysylltiad â nifer o fentrau ar lawr gwlad megis , y ceir cangen leol o’r fenter yma, ynghyd â’r . Mae'r cysylltiadau hyn yn gofnod cyhoeddus o'n hymrwymiad i uniondeb ymchwil ac yn ein galluogi i aros ar flaen y gad o ran yr arferion gorau.

‘Arferion 'gwyddoniaeth agored'

Mae ein hymchwilwyr yn ymgysylltu'n helaeth â dulliau gwyddoniaeth agored. Mae hyn yn cynnwys defnyddio – lle bo’n ymarferol ac yn ddichonadwy – rhag-gofrestru ac adroddiadau cofrestredig, a rhagargraffu a rhannu data, naill ai drwy gadwrfa labordy-benodol a gynhelir gan wasanaeth megis y Fframwaith Gwyddoniaeth Agored neu bioRxiv, neu drwy dynodedig Prifysgol 鶹 ei hun.

Hyfforddi ac addysgu

Mae’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol yn cynnal cyfleoedd datblygu 'arferion gorau' rheolaidd ar bynciau megis ystadegau, codio a rheoli amgylchedd cyfrifiannol, a llywio cadwrfeydd data cyhoeddus. Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd lle byddwn yn trafod metawyddoniaeth, o ddulliau ac athroniaeth gwyddoniaeth i'r dirwedd academaidd. Mae croeso i bawb ymuno â’r sesiynau hyn.

Er mwyn datblygu arweinwyr ymchwil y dyfodol a meithrin myfyrwyr gyda setiau sgiliau hynod drosglwyddadwy, rydym yn ymgorffori egwyddorion uniondeb ymchwil, moeseg, a gwyddoniaeth agored yn ein haddysgu o'r cychwyn cyntaf. O lefel israddedig mae ein myfyrwyr yn dod i gysylltiad â materion megis atgynhyrchu, pŵer ystadegol, hacio-p a HARKio, a thuedd samplu, ac yn cael eu hannog i weithio ar y cyd a rhag-gofrestru eu dadansoddiadau yn ystod projectau. Rydym hefyd yn hyrwyddo'r defnydd o feddalwedd cod agored trwy gydol ein haddysgu.