Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:

Ein Hymchwil

Meysydd Ymchwil

Mae academyddion yr adran yn gweithio mewn amryw o feysydd, gan archwilio diwylliant, hunaniaeth ac iaith mewn cyd-destunau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yn fras, mae gennym arbenigedd mewn llenyddiaeth, llên deithio, cyfieithu, ffilm, perfformio, diwylliannau gweledol, diwylliant poblogaidd, newid cymdeithasol-wleidyddol a chyfnewid rhwng diwylliannau. Gweithiwn yng nghyd-destun disgyblaethau iaith-benodol ond mae cryn dipyn o arbenigedd trawsddisgyblaethol hefyd ym meysydd ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol, llên deithio, ecofeirniadaeth, diwylliant poblogaidd, trosglwyddo diwylliannol, a chyfieithu a newid cymdeithasol-wleidyddol. O fewn y meysydd bras hynny, mae academyddion yn ymchwilio i gwestiynau pwysig ar bynciau gan gynnwys y gwaddol ôl-wladychol; gwleidyddiaeth y cof; pŵer a thrafodaeth feirniadol; hunaniaethau cenedlaethol; trosedd a chynrychioliad o drosedd; mudo ac alltudiaeth; symudedd ac ansymudedd; diwylliannau materol a thestunau materol; a chyfnewid syniadau ymhlith diwylliannau. Oherwydd amrywiaeth yr arbenigedd sydd yn yr adran gallwn gynnig goruchwyliaeth ryngddisgyblaethol yn ogystal â goruchwyliaeth bwnc-benodol i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd.

Ymchwil mewn ieithoedd unigol

Mae’r canlynol yn rhoi blas i chi o’r ymchwil ym mhob maes iaith:

Ffrangeg ac Astudiaethau Ffrangeg

Ym maes a Ffrangeg ac Astudiaethau Ffrangeg, mae arbenigedd neilltuol ym maes astudiaethau ôl-wladychol, gan archwilio effaith gorffennol trefedigaethol Ffrainc ar y gymdeithas fodern trwy’r cof, mudo, ffilm, chwaraeon a diwylliant poblogaidd. .

Astudiaethau Sbaenaidd

Yn Astudiaethau Sbaenaidd, mae'r ffocws ar gyrion Iberia ac mae arbenigedd mewn hunaniaeth a diwylliant Galisaidd, Catalaneg a Basgeg. Pwysleisir agweddau ar alltudiaeth, mudo a symudedd, yn ogystal â rhywedd, gwleidyddiaeth a hunaniaethau lleiafrifol.

Astudiaethau Almaeneg

Mewn Astudiaethau Almaeneg mae arbenigedd mewn testun, perthnasedd cymharol a pherfformrwydd, yn ogystal ag ymchwil arloesol a arweinir gan ymarfer mewn perfformiad. Yn ogystal, mae ffocws hirsefydledig ar lên deithio, trosglwyddo diwylliannol a diwylliant y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Astudiaethau Eidalaidd

Mewn Astudiaethau Eidalaidd, mae pwyslais ar ddiwylliannau De'r Eidal, gan gynnwys y Maffia, a llenyddiaeth, diwylliant a hanes cyfoes yr Eidal.

Astudiaethau Tsieineaidd

Mewn Astudiaethau Tsieineaidd mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar y modd y caiff Tsieina ei chynrychioli yng nghyfryngau Prydain.

Astudiaethau Cyfieithu

Mewn Astudiaethau Cyfieithu, mae’r pwyslais ar rôl cyfieithu mewn trafodaethau rhyngddiwylliannol, yn enwedig o ran ieithoedd lleiafrifol, yn ogystal â materion sy’n ymwneud â grym, rhywedd a rôl cyfieithu mewn cymdeithas.

Projectau Ymchwil Diweddar

Dyma rhai enghreifftiau o brojectau diweddar a arweinid gan academyddion yr adran:

Dyma rhai enghreifftiau o brojectau diweddar a arweinid gan academyddion yr adran:

Main arts quad turret & tree

Ein Hymchwil Y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru

Mae gennym gryfder arbennig ym maes Astudiaethau Galisaidd ac rydym yn cynnal y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru. Dyma ganolfan sydd gyda’r gorau yn y byd o ran ymchwil. Fe’i, sefydlwyd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø yn 2006 i hyrwyddo a chyfnerthu ymchwil ac addysgu astudiaethau Galisaidd yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Mae’r Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru’n manteisio ar safle amlwg Prifysgol Âé¶¹Íø ym maes Astudiaethau Iberaidd a’r enw da sydd ganddi’n rhyngwladol fel canolfan ymchwil mewn ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol, astudiaethau Celtaidd a dwyieithrwydd. Mae’n cynhyrchu ymchwil o’r radd flaenaf mewn meysydd megis astudiaethau symudedd, ffilm Galiseg, gwaith gan ferched Galisia ac ecofeirniadaeth. Mae hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig Galiseg trwy gydol y flwyddyn.