Mae Pelly yn ap sy’n canolbwyntio ar ganoli gwybodaeth a gweithgarwch ar gyfer clybiau pêl-droed, fel adroddiadau ar ddata chwarae’r chwaraewyr. Gall hyn gynnwys - faint o goliau mae chwaraewr wedi sgorio, taclo, hanes anafiadau, contractau, bonysau a beth maen nhw’n bostio ar y cyfryngau cymdeithasol — a hynny mewn un platfform, gan ei gwneud hi’n haws i glybiau drefnu a dadansoddi’n effeithiol. Mae’r cwmni yn cydweithio â nifer o gwmniau yn Lloegr ac yn rhyngwladol, fel SC Cambuur yn yr Iseldiroedd, a Cesena FC sy’n chwarae yng nghyngrair Serie B yn yr Eidal.
Fe aeth un o sylfaenwyr Pelly, Tomos Owen o Benllech, ati i ddatblygu’r platfform tra’n fyfyriwr ym Mhrifysgol 鶹. Mae Pelly yn gweithredu o M-SParc, parc gwyddoniaeth y Brifysgol yng Ngaerwen, mae Tomos a'i gyd-sylfaenwyr Iwan Pritchard o Amlwch a Stephen Hickingbotham o Coventry, wedi elwa o gydweithio â Dr Gavin Lawrence, uwch ddarlithydd mewn datblygu talent ac arbenigedd ym Mhrifysgol 鶹. Cefnogwyd y prosiect drwy Gynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi'r Brifysgol, sy'n rhoi mynediad i fusnesau at arbenigedd academaidd.
“Gawson ni sawl sgwrs efo Gavin yn sôn am sut fasa Pelly yn gallu defnyddio techneg dealltwriaeth artiffisial. Doedd gan neb yn Pelly arbenigedd yn y maes, ac mae o’n rywbeth all wella ein busnes ni. Mae cynnig AI yn rhoi mwy o wybodaeth i’n defnyddwyr ni allu ffeindio gwybodaeth yn haws, ac yn fwy effeithiol.
Mi wnaethon ni gydweithio â’r ysgol ddylunio, er mwyn cynnig profiadau gwaith i fyfyrwyr. Rydan ni’n elwa cymaint o glywed profiadau a syniadau pobl ifanc ar gyfer ein busnes ni. Hoffem ni gynnig rhagor o brofiadau gwaith i fyfyrwyr yn y dyfodol, a’u hannog i ddechrau busnes eu hunain, fel ni.”
Drwy'r Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi, llwyddais i weithio'n agos â chwmni Pelly er mwyn rhoi cymorth iddynt i archwilio ac integreiddio potensial AI o fewn eu platfform canoli data penodol i bêl-droed. Gan dynnu ar fy ymchwil academaidd mewn datblygu talent ac arbenigedd, a fy MBA mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth, roedd ein dull wedi'i seilio ar gyflawni effaith yn y byd go iawn a chefnogi twf busnes cynaliadwy. Roedd hyn yn golygu dechrau o'r gwaelod i fyny - cynnal 'archwiliad' data trylwyr i fapio cwmpas, ansawdd a defnyddioldeb setiau data presennol, gan nodi cryfderau, gwendidau a chyfleoedd yn y ffordd yr oedd data yn cael ei gasglu, ei storio a'i integreiddio.
O'r fan honno, cefnogais ddylunio pensaernïaeth data gadarn sy gallu cefnogi dadansoddiad cymhleth sy'n cael ei yrru gan AI a darparu mewnwelediadau ystyrlon, ymarferol i'r defnyddwyr terfynol. Trafodwyd a chytunwyd ar y dull hwn ar ddechrau'r project i sicrhau bod integreiddio AI wedi'i alinio'n strategol ag amcanion Pelly, gan wneud y mwyaf o fantais gystadleuol, gwella gwerth i gleientiaid, a chreu llwybr cynaliadwy ar gyfer twf - proses sy'n dangos sut y gall arbenigedd academaidd cymhwysol, pan gaiff ei baru â strategaeth fusnes gadarn, drawsnewid gallu technegol yn effaith fesuradwy o fewn y sector technoleg chwaraeon.
Mae gan Pelly berthynas dda â Chymdeithas Pêl-Droed Cymru, ac yn y dyfodol, hoffai’r cwmni gydweithio â chlybiau yng Nghymru er mwyn helpu’r gêm i dyfu a datblygu yn y wlad. Yn eu barn nhw mae cydweithio â Phrifysgol 鶹, a dysgu sut i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn effeithiol am eu helpu i ganfod rhagor o gleintiaid.
Roeddem yn falch iawn o ddyfarnu Taleb Sgiliau ac Arloesi i gwmni Pelly, un o dros 40 o fusnesau rydym wedi eu cefnogi ers 2024. Mae gennym 18 taleb ar gael ar gyfer busnesau sydd wedi eu lleoli yn Ynys Môn, Sir y Fflint ac ardaloedd gwledig Gwynedd. Mae pob taleb yn werth £5,000, ac yn gallu cael eu defnyddio i gael mynediad at gefnogaeth o Brifysgol 鶹. Mae cefnogaeth yn cynnwys mynediad at brojectau ymchwil a datblygu, cynghori, sgiliau a hyfforddiant, defnyddio cyfleusterau'r Brifysgol, defnyddio offer arbenigol a chanfod gwybodaeth newydd.
Am ragor o wybodaeth am dalebau sgiliau ac arloesi ym Mhrifysgol 鶹, ebostiwch SIV@bangor.ac.uk neu ewch i’r wefan /business-services/the-skills-and-innovation-voucher-scheme. Mae croeso i chi hefyd ddangos diddordeb yma: