Mae Undeb Âé¶¹Íø yn ganolfan i fyfyrwyr Âé¶¹Íø ac yn gyfrifol am drefnu chwaraeon, clybiau, cymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli ac rydym hefyd yn gartref i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Âé¶¹Íø, yr undeb myfyrwyr i siaradwyr Cymraeg. Wedi'i leoli ar 4ydd llawr adeilad Pontio, mae'n siop un stop am wybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd.
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Âé¶¹Íø (UMCB) sy'n ganolbwynt i'r rhan helaeth o'r digwyddiadau a'r gweithgareddau hamdden a chymdeithasol - yn amrywio o nosweithiau cymdeithasol, Eisteddfod a Dawns Ryng-golegol i gemau pêl-droed a rygbi, a theithiau blynyddol i'r Iwerddon neu'r Alban.
UMCB
Mae bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail ym Mangor, ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Âé¶¹Íø (UMCB) sy’n ganolbwynt i’r rhan helaeth o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau hamdden a chymdeithasol.
Ffair Clybiau a Chymdeithasau
Yn ystod yr Wythnos Groeso, mae Undeb Âé¶¹Íø yn trefnu Ffair y Glas enfawr, sef Serendipedd (mae'n golygu canfyddiad ffodus trwy ddamwain). Mae'r Ffair yn gyfle i chi weld yr amrywiaeth o gyfleoedd a gweithgareddau i fyfyrwyr sydd ar gael i chi wneud y gorau o'ch amser ym Mangor. Bydd ystod eang o glybiau chwaraeon, cymdeithasau a phrojectau a grwpiau gwirfoddoli yno i chi ymaelodi â nhw. Y peth anoddaf fydd dewis pa rai i ymuno â nhw.
Mae cymryd rhan mewn cyfleoedd myfyrwyr yn ffordd wych o wneud ffrindiau, cyfarfod â phobl a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Gall edrych yn dda ar eich CV hefyd pan ddaw hi'n amser i chwilio am waith. Po fwyaf y gwnewch chi'r mwyaf y cewch yn ei ôl.