
Mae Ysgol Busnes Âé¶¹Íø yn falch o gael ei chydnabod fel 'Canolfan Rhagoriaeth' y - yn un o ddim ond 8 prifysgol yn y Deyrnas Unedig sydd â'r statws hwn y mae mawr alw amdano.
Mae'r gydnabyddiaeth hon yn galluogi ein myfyrwyr i gyfoethogi eu datblygiad addysgol a phroffesiynol yn sylweddol trwy ennill statws Banciwr Siartredig ynghyd â gradd Meistr draddodiadol.
Bydd graddedigion ein rhaglenni achrededig - a restrir isod - hefyd yn gymwys i wneud cais am aelodaeth lawn neu rannol o'r CBI, ac i ddefnyddio teitl penodedig, tra bod myfyrwyr yn gallu manteisio ar aelodaeth yn ystod eu hastudiaethau.
Mae'r bartneriaeth hon yn tynnu ar enw da hir sefydledig Ysgol Busnes Âé¶¹Íø am ragoriaeth mewn ymchwil ac addysgu ym meysydd bancio a chyllid, ac yn agor llwybrau pellach o gydweithredu a rhyngweithio rhwng y gymuned academaidd a'r diwydiant bancio.
Cyrsiau gydag achrediad CBI
Bydd graddedigion o'r rhaglenni canlynol yn graddio gyda chymhwyster deuol: gradd Meistr Ysgol Busnes Âé¶¹Íø draddodiadol a chymhwyster Banciwr Siartredig.
MSc Bancio (Banciwr Siartredig)
Mae'r cwrs MSc Bancio (Banciwr Siartedig) wedi'i achredu'n llawn gan y Chartered Banker Institute, sy'n golygu bydd myfyrwyr yn graddio gyda chymhwyster deuol MSc Bancio a'r Diploma Banciwr Siartredig - y safon aur i fancwyr proffesiynol a'r dyfarniad uchaf sydd ar gael yn y byd bancio.
MBA Banciwr Siartredig
Ysgol Busnes Âé¶¹Íø yw'r unig sefydliad yn y byd i gynnig yr , cymhwyster newydd arloesol sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ennill cymhwyster deuol MBA o'r radd flaenaf mewn Bancio a Chyllid a'r statws 'Banciwr Siartredig' y mae galw mawr amdano - y dyfarniad proffesiynol uchaf posibl sydd ar gael i fancwyr ym mhob rhan o'r byd. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur ac mae'n rhaglen dysgu cyfunol a ellir ei hastudio lle bynnag y boch ac ar eich cyflymder eich hun.
Ynglŷn â'r Chartered Banker Institute
Sefydlwyd y yn 1875 ac mae'n cynrychioli bancwyr cymwysedig a'r rheiny sy'n astudio at gymwysterau bancio proffesiynol. Mae'r sefydliad yn ymroddedig i annog y safonau uchaf o ran proffesiynoldeb ac ymddygiad ymysg ei aelodau.