Os nad ydych yn derbyn ein e-newyddion misol ond hoffech ei derbyn drwy e-bost, cwblhewch ein ffurflen diweddaru i ni gael eich adio i'n rhestr bostio.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth yr hoffech ei weld yn y rhifynnau yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn alumni@bangor.ac.uk.
Croeso gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
"Ar ôl cyffro’r seremonïau graddio’r mis diwethaf, mae’r campws yn dawelach unwaith eto wrth i ni baratoi i groesawu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd i Fangor ym mis Medi. Yn y cyfamser, mae tîm y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn falch o rannu newyddion am lwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr a gweithgareddau diweddar o'r brifysgol.
Cofiwch rannu’r newyddion diweddaraf gyda ni, ynghyd â’ch manylion cyswllt cyfredol drwy ein ffurflen ddiweddaru ar-lein fel y gallwn gysylltu â chi pan fyddwn yn cynllunio digwyddiadau yn eich ardal neu os oes gennym wybodaeth pwnc-benodol yr ydym yn credu a allai fod yn berthnasol i chi. Rydym bob amser wrth ein bodd pan fyddwch yn rhannu eich llwyddiannau, eich anrhydeddau a'ch datblygiadau gyrfa gyda ni, felly cysylltwch ag alumni@bangor.ac.uk i rannu eich newyddion, a gallwch hefyd ymuno â'n grwpiau a a'n dilyn ni ar .
Rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth, boed hynny trwy fynychu digwyddiadau, gwirfoddoli eich amser a rhannu eich arbenigedd i hybu cyflogadwyedd y myfyrwyr, trwy gyfrannu’n garedig at Gronfa 鶹, neu ymuno â sgyrsiau ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Yn gywir,
Emma Marshall
Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
BANGOR UNIVERSITY NEWS
Aduniad i gyn-fyfyrwyr yr Eisteddfod Genedlaethol
Un o uchafbwyntiau yng nghalendr y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, roedden ni'n falch o groesawu alumni i stondin Prifysgol 鶹 ar gyfer ein haduniad blynyddol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a gynhelir eleni yn Wrecsam.
Clywodd alumni gan yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor y Gymraeg a Diwylliant, a Huw Williams, Llywydd UMCB, cyn mwynhau perfformiadau gan Gruff ac Elain o Aelwyd JMJ.
Roedd yn wych gweld cymaint o wynebau cyfarwydd yn ogystal â rhai newydd yn ymuno â ni ar y stondin!
Cronfa 鶹 yn cefnogi myfyrwyr mewn gweithdy ar ddigartrefedd yng Ngwlad Pwyll
Yn mis Mehefin, cefnogodd Cronfa 鶹 fyfyrwyr israddedig o'r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas i fynychu gweithdy ar ddigartrefedd ym Mhrifysgol Łódź, Gwlad Pwyl, fel rhan o gynhadledd ryngwladol flynyddol ar Waith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol. Rhoddodd y profiad fewnwelediadau gwerthfawr iddynt i wahanol ddulliau diwylliannol a dulliau polisi.
Recriwtio Ymddiriediolwyr Allanol Undeb 鶹
Mae Undeb 鶹 (Undeb Myfyrwyr Prifysgol 鶹) yn recriwtio dau Ymddiriedolwr Allanol newydd i ymuno â’u Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Mae Undeb 鶹 yn elusen ddemocrataidd dan arweiniad myfyrwyr ac yn cael ein hariannu (yn bennaf) drwy grant blynyddol gan Brifysgol 鶹. Er ein bod yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol, mae’r Undeb yn sefydliad ar wahân ac mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn fewnol gan ein haelodau.
Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn chwarae rôl hanfodol wrth arwain cyfeiriad strategol Undeb 鶹, sicrhau llywodraethu cadarn, a hyrwyddo diwylliant sy’n adlewyrchu ei gwerthoedd. Mae’r Undeb bellach yn awyddus i adeiladu ar fomentwm drwy groesawu dau ymddiriedolwr newydd sy’n rhannu ei hymrwymiad i rymuso myfyrwyr ac i ragoriaeth sefydliadol.
Mae hon yn rôl wirfoddol ddi-dâl a byddwch yn rhoi eich amser i sicrhau eu bod yn gwneud penderfyniadau ariannol cadarn ac yn dilyn fframweithiau cyfreithiol. Am ragor o wybodaeth a gwybodaeth ar sut i ymgeisio, gweler y Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar-lein ac mae'n debyg y byddant yn digwydd yr wythnos sy'n dechrau 8fed Medi.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Mair Rowlands, Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr - mair.rowlands@undebbangor.com
Nofel gyntaf alumna yn cael ei chydnabod yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru 2025
Llongyfarchiadau i Gwenno Gwilym, Swyddog Cynnwys y We ym Mhrifysgol 鶹 a chyn-fyfyriwr MA Ysgrifennu Creadigol Saesneg, sydd wedi cael ei chydnabod yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru eleni am ei nofel gyntaf, V + Fo, a gyhoeddwyd gan Gwasg y Bwthyn.
Enillodd y nofel y Wobr Ffuglen Gymraeg yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl Golwg360 – sef Gwobr Dewis y Bobl Gymraeg.
Cyn-fyfyriwr yn derbyn Bathodyn o fri am Drugaredd
Llongyfarchiadau i'r cyn-fyfyriwr, John Roberts, 92, ar gael ei ddyfarnu â bathodyn trugaredd o fri gan y League of Mercy Foundation. Cyn ymddeol, roedd John yn Gadlywydd Adain gyda’r RAF ac yn wirfoddolwr gydag Elusen y Lluoedd Arfog SSAFA (Cymdeithas Teuluoedd Milwyr a Morwyr) ac mae'r dyfarniad hwn yn cydnabod dros 20 mlynedd o gefnogaeth eithriadol i gyn-filwyr y Deyrnas Unedig a'u teuluoedd yn Ffrainc.
Wedi'i eni yn Llandudno ac wedi graddio o Brifysgol 鶹 yn 1954, ymunodd John â Heddlu'r RAF yn 1956. Treuliodd 35 mlynedd yn gwasanaethu, gan gynnwys 13 mlynedd dramor mewn lleoliadau megis Singapore, Hong Kong, Ynys y Nadolig a Gwlad Belg. Dyfarnwyd MBE iddo am ei waith yn Singapore ac aeth ymlaen i reoli Ysgol Hyfforddi Heddlu'r RAF. Ar ôl ymddeol yn 1991, ymgartrefodd yn Ffrainc a daeth yn weithiwr achos gyda SSAFA.
Dywedodd John: “Mae’n anrhydedd i dderbyn y dyfarniad hwn. Rydw i wedi mwynhau fy holl waith gyda'r elusen. Yn arbennig adegau gwerth chweil sy’n cynnwys sicrhau benthyciad hollbwysig i atal cartref gweddw rhag cael ei adfeddiannu, dychwelyd cyn-filwr a oedd yn ddifrifol wael, a'i deulu, i'w famwlad, a llwyddo i herio penderfyniad Bwrdd Pensiwn Rhyfel ar ran gweddw.”
Prifysgol 鶹 yn y tri uchaf yng Nghymru am foddhad ag addysg
Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025 ar gyfer Prifysgol 鶹 wedi cael eu cyhoeddi, gan ddangos cynnydd unwaith eto ym moddhad myfyrwyr ar draws nifer o themâu.
Cododd boddhad cyffredinol myfyrwyr ym Mhrifysgol 鶹 i 82%, gan godi’r brifysgol i’r 4ydd safle yng Nghymru o blith yr wyth Sefydliad Addysg Uwch sy'n cymryd rhan.
Gardd Perlysiau Cymreig yn Nhreborth
Mae Gardd Perlysiau Cymreig newydd wedi cael ei hagor yn swyddogol yng . Mae’r Ardd Perlysiau Cymreig newydd yn rhan ganolog o Ardd Fotaneg Treborth, sy'n 45 erw ac sy'n eiddo i Brifysgol 鶹 ac yn un o ddim ond saith gardd fotaneg achrededig yn y wlad.
Mae’r Ardd Perlysiau Cymreig yn dathlu’r dreftadaeth a’r llên gwerin ddifyr sy’n gysylltiedig â’r planhigion meddyginiaethol a ddefnyddiwyd yng Nghymru trwy’r oesoedd. Ysbrydolir yr ardd newydd gan dirwedd Cymru. Mae’n defnyddio deunyddiau lleol, ac mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddwy sedd gylchol sydd wedi eu cysylltu gan lwybrau troellog. Bydd gwelyau plannu gyda waliau cerrig yn darparu seddi a chyfle i weld y planhigion yn agos.
Dyfarnu Grant €3 miliwn i arwain project Astudiaethau Arthuraidd
Ѳ’r&Բ;Athro Raluca Radulescu o Brifysgol 鶹 wedi derbyn grant Ewropeaidd mawreddog gwerth €3 miliwn o dan Rwydwaith Hyfforddiant Doethurol Marie Skłodowska-Curie ar gyfer ei phroject ‘EU ARTHURS: European Arthurs, Medieval to Modern’.
Prifysgol 鶹 yn sicrhau dyfarniad masnach deg o fri
Mae Prifysgol 鶹 wedi sicrhau Dyfarniad Prifysgol a Choleg Masnach Deg o fri ar gyfer 2025.
Caiff y Dyfarniad 2* ei gyflwyno am ymrwymiad parhaus y brifysgol i hyrwyddo treuliant moesegol a chyfiawnder byd-eang ar draws ei champysau.
Mae'n cydnabod ymrwymiad parhaus dros ddwy flynedd academaidd i gynyddu ymwybyddiaeth ac i weithredu ar gyfiawnder masnach a globaleiddio yn ystod cyfnod pan mae tirweddau addysgol sy'n newid ac argyfyngau byd-eang sy'n cynyddu yn parhau i herio sefydliadau.
Prifysgol 鶹 yn arwain ymchwil i adfer fforestydd glaw tymherus
Mae Prifysgol 鶹 wedi lansio rhaglen ymchwil arloesol i adfer ac adfywio fforestydd glaw tymherus prin ac ecolegol gyfoethog yn y Deyrnas Unedig, a hynny mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac mae’r ymchwil wedi'i ariannu gan Aviva.
Mae'r gwaith yn rhan o ymrwymiad nodedig gan Aviva, sy’n werth £38 miliwn, i helpu i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur drwy adfer fforestydd glaw ledled Ynysoedd Prydain.
Prifysgol 鶹 yn ennill cyllid 'Doctoral Focal Awards' nodedig yr AHRC
Mae Prifysgol 鶹 wedi cael ei henwi'n arweinydd grant gan yr AHRC, sef y , ac yn bartner ar ail un. Bwriad y grantiau nodedig hyn, a gyhoeddwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), yw darparu hyfforddiant doethurol sy'n datblygu capasiti ymchwil mewn meysydd strategol, yn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol trwy ymchwil rhyngddisgyblaethol yn y celfyddydau a'r dyniaethau, ac yn paratoi myfyrwyr at yrfaoedd amrywiol yn y byd academaidd a thu hwnt.