Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:
Ymyl clogwyn cefnfor creigiog

Graddau Daeareg Israddedig

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Daeareg

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Darganfyddwch y cwrs Daeareg i chi

Eigioneg Ddaearegol - MSci
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am eigioneg ddaearegol.
Cod UCAS
F652
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Eigioneg Ddaearegol - BSc (Anrh)
Mentrwch i ddyfnderoedd eigioneg ddaearegol. Dadansoddwch hanes y Ddaear a deall ecosystemau’r môr. Gwnewch ymchwil a datblygwch sgiliau dadansoddi gwyddonol.
Cod UCAS
F650
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Eigioneg Ddaearegol (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen mewn eigioneg ddaearegol, enillwch sgiliau ar gyfer gyrfaoedd cyffrous mewn meysydd amrywiol. Opsiwn delfrydol i unrhyw un sydd ddim cweit yn bodloni'r gofynion mynediad i wneud gradd 3 blynedd.
Cod UCAS
F62F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Pam Astudio Daeareg?

Mae Eigioneg Ddaearegol yn canolbwyntio ar astudio gwaddodion môr yng nghyd-destun gwyddoniaeth systemau Daear. Mae a wnelo'r maes â phrosesau gwaddodol (tarddiad, cludiad a dyddodiad gronynnau yn amgylchedd y môr), a gwaddodion a chreigiau môr, yn enwedig y rhai a ffurfiwyd yn ystod y 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf, ond hefyd ymhellach yn ôl mewn amser. Mae'n rhoi pwyslais ar feithrin sgiliau a gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i faes mesur gwely'r môr a'r diwydiant hydrocarbon alltraeth.

Mae angen Eigionegwyr Daearegol i roi sylw i faterion megis archwilio safleoedd alltraeth mewn perthynas ag isadeiledd ynni adnewyddadwy a chwilio am olew a nwy, newid yn yr hinsawdd ac yn lefel y môr, ac erydu arfordirol. Mae'r rhain yn feysydd datblygu heriol a phrysur; ar hyn o bryd mae diffyg pobl â chymwysterau addas i wneud swyddi o'r fath. Ar ôl graddio, nid yn unig bydd gennych ddealltwriaeth drylwyr o 'systemau daear', ond bydd gennych hefyd ystod eang o sgiliau ymarferol mewn gwaddodeg, geoffiseg a geotechneg. Mae'r gallu i integreiddio data rhwng y disgyblaethau hyn yn brin yn y diwydiant alltraeth, ond mae cyflogwyr yn cydnabod fod hwnnw'n allu gwerthfawr.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Âé¶¹Íø enw rhagorol ym maes astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

Cyfleoedd gyrfa mewn Daeareg

Mae hwn yn sefydliad blaenllaw ar gyfer astudio geowyddorau'r môr ers dros 50 mlynedd, ac mae ein myfyrwyr fel rheol yn dod o hyd i waith yn y diwydiannau ynni adnewyddadwy a hydrocarbon alltraeth, cwmnïau contractio geoffisegol (alltraeth ac ar dir sych), cwmnïau peirianneg geotechneg, byrddau afonydd a harbwr a sefydliadau llywodraethol megis y British Geological Survey a'r British Antarctic Survey.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau'r Eigion. 

 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau'r Eigion llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau'r Eigion ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau'r Eigion ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

Ein Hymchwil o fewn Daeareg

Ffocws ein hymchwil yw nodi'r prosesau sy'n gyrru'r fflycsau ar draws moroedd arfordirol bas gan arwain at newid morffolegol. Rydym wedi datblygu technegau arsylwi newydd sydd, ynghyd â theori a modelu, wedi ein galluogi i herio paradeimau presennol, a datblygu syniadau newydd.

Mae'r ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar helpu i ddeall yn well sut mae stormydd egnïol yn effeithio ar ddeinameg gwaddodion arfordirol a chyllidebau, gan wella'r ddealltwriaeth am sut mae sylweddau biolegol yn sefydlogi gwely'r môr, tynged gwaddod yn y môr arfordirol ac effeithiau echdynnu ynni adnewyddadwy'r môr ar y cefnfor.

Rydym wedi defnyddio ein technegau tirfesur geoffisegol i bennu maint y llen iâ rhwng Prydain ac Iwerddon yn ystod yr oes iâ ddiwethaf a'r cyfnod o encilio wedi hynny.

Rydym hefyd wedi defnyddio technegau geoffisegol i bennu hyd a lled ac achosion newid yn yr hinsawdd dros y 200 mil o flynyddoedd diwethaf yn Nwyrain Affrica er mwyn edrych ar y cysylltiadau rhwng yr hinsawdd ac esblygiad dynol ac ymfudo.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.