Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:
Golygfeydd o fynyddoedd

Graddau Daearyddiaeth Israddedig

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Diddordeb mewn ymchwilio i mewn i systemau dynol ac amgylcheddol? Hoffi datblygu datrysiadau i heriau o bwysigrwydd byd-eang allweddol? Os felly, gradd mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø yw’r dewis i chi.

Ar y dudadeln yma:
Ein cyrsiau Daearyddiadeth

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Darganfyddwch y cwrs Daearyddiaeth i chi

Daearyddiaeth - BA (Anrh)
Dewch i ddeall tirweddau a chymdeithasau'r byd. Ymchwiliwch i ddaearyddiaeth ddynol a ffisegol, archwiliwch faterion amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol, ac ennill sgiliau ymchwil.
Cod UCAS
L700
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Daearyddiaeth - BSc (Anrh)
Cyfunwch ddaearyddiaeth â dulliau gwyddonol a thechnolegol. Gwnewch ymchwil, dadansoddwch ddata meistr a GIS, a chyfrannwch at ddyfodol cynaliadwy.
Cod UCAS
F800
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Daearyddiaeth - MGeog
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am ddaearyddiaeth.
Cod UCAS
F801
Cymhwyster
MGeog
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Daearyddiaeth Ffisegol ac Eigioneg - BSc (Anrh)
Cyfunwch ddaearyddiaeth ffisegol ac eigioneg ac archwiliwch brosesau daearol a morol ac effaith llygredd a newid hinsawdd.
Cod UCAS
F840
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL
Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Âé¶¹Íø enw rhagorol ym maes astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae Âé¶¹Íø yn eu cynnig heb eu hail.

Steve Backshall,  Darlithydd er Anrhydedd ac un o dîm addysgu Prifysgol Âé¶¹Íø; naturiaethwr, fforiwr a chyflwynydd

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Daearyddiaeth.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Daearyddiaeth llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Daearyddiaeth ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Daearyddiaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

1af

yn y DU am effaith ein Hymchwil

REF 2021

Ein Hymchwil o fewn Daearyddiaeth

Mae gennym dîm staff amlddisgyblaethol sydd ag amrywiaeth o arbenigeddau'n cynnwys amgylcheddau rhewlifol a morol, daearyddiaeth bwyd a dad-ddofi. Mae ein staff yn ymgymryd ag ymchwil arweiniol gyda sefydliadau academaidd eraill, grwpiau anllywodraethol a chymunedau ar draws y byd. Mae diddordebau staff yn cynnwys llygredd afonol, cynhesu Arctig, peryglon arfordirol, natur a chymdeithas, tlodi bwyd, systemau gwaddodol tanfor, a diwylliant brwdfrydedd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.