Yn ogystal â chael ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru, gosodwyd y Brifysgol yn y 50 uchaf o blith prifysgolion Prydain ac yn drydydd yng Nghymru, llamodd y Brifysgol 28 lle i gyrraedd safle 54 yn y Guardian University Guide 2024 sydd newydd ei gyhoeddi.
Mae ganmoliaeth y Daily Mail yn sôn am sefydlu’r ysgol feddygol newydd fel un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y brifysgol.
Wrth groesawu’r newyddion dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor y Brifysgol,
Mae’r canlyniadau’n adlewyrchu ein huchelgais i ddarparu addysg o safon sy’n arwain y byd, wedi’i hysbrydoli gan ymchwil i’n myfyrwyr, ac i’w harfogi â’r profiadau angenrheidiol i raddedigion fel y gallant wneud cyfraniad gwerthfawr yn y gyrfaoedd y dewisant eu dilyn.
Bydd hon yn flwyddyn arwyddocaol yn hanes Prifysgol Âé¶¹Íø. Bydd agor yr ysgol feddygol newydd yn ddatblygiad chwyldroadol, gyda’r myfyrwyr meddygaeth cyntaf yn cael eu derbyn fis Medi nesaf.â€
“Mae’r fenter yn nodweddiadol o brifysgol sydd a’i gwreiddiau’n ddwfn yn ei chymuned, gan mai pennaf orchwyl yr Ysgol Feddygol fydd mynd i’r afael â’r prinder difrifol o feddygon teulu yng ngogledd Cymru.
“Mae sawl cwrs arall yn y sefydliad hefyd yn cyfrannu at anghenion y rhanbarth, gyda gwyddorau’r môr a chadwraeth yn feysydd o bwys byd-eang ac ymysg arbenigeddau Prifysgol Âé¶¹Íø. Mae bod yn 15fed trwy’r Deyrnas Unedig am ei llwyddiant wrth ddenu incwm ymchwil yn tystio i ansawdd a pherthnasedd gwaith ymchwil y brifysgol.
Mae safle o fewn y 50 uchaf a bod yn drydydd ymhlith prifysgolion Cymru, ynghyd â phwysigrwydd strategol yr ysgol feddygol newydd yn gwneud Prifysgol Âé¶¹Íø yn enillydd clir yng Ngwobrau Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru’r Daily Mail.



