Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:
Tirlun gyda llyn a mynyddoedd.

Graddau Gwyddor yr Amgylchedd Israddedig

  • 1af yn y DU am effaith ein Hymchwil (REF 2021)

  • Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

 

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Darganfyddwch y cwrs Gwyddor yr Amgylchedd i chi

Cadwraeth Amgylcheddol - BSc (Anrh)
Archwiliwch systemau ecolegol a materion yn ymwneud â chadwraeth amgylcheddol. Enillwch y sgiliau i fonitro cynefinoedd a rhywogaethau ar gyfer cadwraeth lwyddiannus.
Cod UCAS
D447
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cadwraeth gyda Choedwigaeth - BSc (Anrh)
Eiriolwch dros ddyfodol byd natur. Cyfunwch arbenigedd mewn cadwraeth a choedwigaeth ac ennill sgiliau ar gyfer gyrfaoedd amrywiol ym maes cadwraeth. Achredwyd gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig.
Cod UCAS
5DKD
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Gwyddorau'r Amgylchedd - BSc (Anrh)
Dewch i dadansoddi a deall ein planed gymhleth. Archwiliwch ecosystemau amrywiol a dod i ddeol atebion cynaliadwy ac effaith polisïau. Dilynwch yrfaoedd sy’n rhoi llawer o foddhad ym maes diogelu'r amgylchedd ac ymchwil.
Cod UCAS
F900
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Gwyddorau'r Amgylchedd (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Mae'r radd sylfaen hon yn cynnig pynciau amrywiol i archwilio'r materion amgylcheddol pwysicaf, fel newid hinsawdd, llygredd, ynni adnewyddadwy, a diogelwch bwyd.
Cod UCAS
F90F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Gwyddorau’r Amgylchedd - MEnvSci
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am wyddorau’r amgylchedd.
Cod UCAS
F850
Cymhwyster
MEnvSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL

Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae Âé¶¹Íø yn eu cynnig heb eu hail.

Steve Backshall,  Darlithydd er Anrhydedd ac un o dîm addysgu Prifysgol Âé¶¹Íø; naturiaethwr, fforiwr a chyflwynydd
Myfyrwyr Gwyddorau Naturiol Prifysgol Âé¶¹Íø ar gwch rib gyda Steve Backshall
Fideo: 'Y ddarlith orau erioed!' - gyda Steve Backshall

[0:03] Mor, mor gyffrous! Mae hi’n grêt cwrdd gyda Steve! Mae’n gyfle mor grêt i hyd yn oed cael gweld 

[0:09] y Fenai mewn ffordd wahanol hefyd.

[0:12] Un o’r rhesymau i mi ddewis dod i Fangor oedd i gael bod mewn ardal fel hon, 

[0:16] Does dim ffordd well o dreulio’r prynhawn i ddweud y gwir! 

[0:23] Rydym yn mynd allan i’r afon Menai Fenai ac yna i Ynys Seiriol gyda chriw o fyfyrwyr gwyddorau naturiol 

[0:28] i gael blas o’r gorau sydd gan yr ardal yma i’w chynnig. 

[0:47] Wel, hyd yma rydym wedi gweld y gorau o’r bywyd gwyllt o’r rhan yma o’r byd, yn enwedig yr adar.  

[0:53] Mae’r ysgafelloedd yn dew, bron i bob centimedr, wedi ei orchuddio gyda heligogod, gwylanod 

[0:59] ac rydym wedi gweld mulfrain gwyn ac wrth gwrs y palod (puffins).

[01:02] Mae’n debyg mai dyma pam wnes i benderfynu creu perthynas gyda Âé¶¹Íø. 

[01:06] Oherwydd yr hyn rydych yn ei weld yn y fan yma. Gall unrhyw sefydliad fuddsoddi mewn isadeiledd.

[01:11] Gall unrhyw sefydliad gael adeiladau mwy, neu gael mwy o addysgu.

[01:14] Ond does dim buddsoddiad yn y byd all gael hyn. 

[01:18] Hyn ar ein trothwy, sy'n gwneud Âé¶¹Íø y lle gorau i astudio’r gwyddorau naturiol.

[01:30] Mae’n wych. Yn amlwg dim ond jyst y cwmni gyda Steve yma, mae gweld y bywyd gwyllt, y gwylanod coes-ddu... 

[01:37] y mulfrain, y morloi a’r math yna o beth. Hollol ryfeddol a phrofiad unigryw iawn.

[01:41] Mae Steve yn ddyn clên iawn. Ia, hollol anhygoel. Does unman gwell i fod. 

[01:46] Mae hi wedi bod yn brynhawn anhygoel. Dwi’n teimlo fy mod wedi cael fy ergydio ychydig ac yn rynllyd.

[01:51] Ond, i allu dod allan yma, a mi allwch weld y Brifysgol o fan hyn.

[01:56] Gallwch weld y neuaddau preswyl o fama. I fod yn fyfyriwr yma, a meddwl y gallwch orffen astudio 

[02:01] a dod lawr yma a padlfyrddio neu gaiacio allan ar y Fenai a chael hyn fel ffordd o leihau straen arholiadau.

[02:08] Mae hynna yn hollol anhygoel i mi.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Âé¶¹Íø enw rhagorol ym maes astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

Bydd ein cyfleusterau yn dod â'r hyn rydych wedi ei ddysgu yn fyw

Mae’r cyfleusterau yn cynnwys:

  • ein hamgueddfa hanes natur ein hunain 
  • gardd fotaneg
  • llyfrgell goed
  • acwaria dŵr croyw a morol
  • cyfleusterau ymlusgiaid yn cynnwys casgliad o nadroedd gwenwynig
  • labordy pridd tanddaearol mwyaf Ewrop 
  • adardai
  • llong ymchwil sy'n mynd dros y môr
  • fferm ymchwil weithredol gydag alpaca, defaid a cychod gwenyn 
Henfaes Research Farm

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

1af

yn y DU am effaith ein Hymchwil

REF 2021

Cynorthwyydd labordy yn cymryd sampl o ddŵr mewn pwll ac yn ei ddadansoddi

Ein Hymchwil o fewn Gwyddor yr Amgylchedd

Mae Prifysgol Âé¶¹Íø wedi bod ar y blaen ym maes ymchwil yng ngwyddorau'r amgylchedd ers degawdau. Mae amrywiaeth diddordebau ac arbenigedd staff yn golygu bod ein hymchwil yn helpu i ddarparu atebion i broblemau damcaniaethol a chymhwysol sylfaenol yng ngwyddorau'r amgylchedd, yn ogystal â chyfarwyddo ein haddysgu.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.