Rydym yn hynod o falch i allu gweithio gyda phartneriaethau yma yn Ysgol Busnes Âé¶¹Íø. Mae gweithio gyda phartneriaethau yn galluogi ni wella safon ein hymchwil ac yn gwella'r profiad i fyfyrwyr drwy ddarlithoedd gwadd, tripiau i ymweld a busnesai a chyfleodd am brofiad gwaith. Dyma gip olwg sydyn ar sut rydym yn gweithio gyda rhai o'n partneriaethau yma yn yr ysgol.
Rydym yn hynod o falch i allu gweithio gyda phartneriaethau yma yn Ysgol Busnes Âé¶¹Íø. Mae gweithio gyda phartneriaethau yn galluogi ni wella safon ein hymchwil ac yn gwella'r profiad i fyfyrwyr drwy ddarlithoedd gwadd, tripiau i ymweld a busnesai a chyfleodd am brofiad gwaith. Dyma gip olwg sydyn ar sut rydym yn gweithio gyda rhai o'n partneriaethau yma yn yr ysgol.
Ein Partneriaethau Polisi a Llywodraethau
Ein Partneriaethau Busnesau ac Elusennau
Adborth Partner Addysg Weithredol

"Mae’r bartneriaeth sydd gan yr Asian Banking School â Âé¶¹Íø yn un yr ydym yn ei gwerthfawrogi’n fawr. Gan fod yr MBA Banciwr Siartredig yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl ar-lein, mae gallu cynnig y cymhwyster hwn i’n cleientiaid banc wedi rhoi dimensiwn arall i’r rhaglenni yr ydym yn eu cynnig. Ac mae'r unigolion sydd â diddordeb mewn cofrestru bob amser eisiau gwybod a ydynt yn gymwys i astudior’r llwybrau carlam.
Gellir dibynnu ar y tîm Addysg Weithredol ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø bob amser i ymateb yn glir ac yn brydlon i’r ymholiadau hyn, ac i nifer o ymholiadau eraill. Ar yr ochr weinyddol, mae'r tîm hefyd wedi dangos proffesiynoldeb, dealltwriaeth, hyblygrwydd a thegwch, sydd bob amser yn ddefnyddiol ac yn gwneud ein gwaith ychydig yn haws."
Rafizah Abdul Rahman, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol
"Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad a’m canmoliaeth ddiffuant am y profiadau gwych yr wyf i a’r Sefydliad wedi’u cael mewn partneriaeth â Phrifysgol Âé¶¹Íø ers 2011.

O'r cychwyn cyntaf, mae Prifysgol Âé¶¹Íø wedi rhoi arddangos proffesiynoldeb, arbenigedd, ac ymrwymiad gwirioneddol i ragoriaeth. Mae'r bartneriaeth yr ydym wedi'i ffurfio wedi bod yn gynhyrchiol ond mae hefyd yn hynod gyfoethog, gan gyfrannu'n sylweddol at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y Diwydiant Gwasanaethau Ariannol yma yn y Bahamas.
Drwy gydol ein cyfnod o ryngweithio, rydym wedi cael ein plesio'n gyson gan safon y dalent a'r ymroddiad a ddangoswyd gan gyfadran a staff Prifysgol Âé¶¹Íø. Mae dyfnder eu gwybodaeth, dulliau arloesol, a chefnogaeth ddiwyro wedi bod yn asedau amhrisiadwy i'n holl brojectau hyfforddi.
I gloi, hoffwn ddiolch o galon i bawb ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø am eu cyfraniadau rhagorol, ac edrychaf ymlaen at barhau â’n cydweithrediad ffrwythlon am flynyddoedd i ddod."
Miguel Pratt, Cyfarwyddwr y Rhaglen

"Mae’r cydweithrediad gydag Ysgol Busnes Âé¶¹Íø yn ymestyn yn ôl cyn belled â 2011. Heb os, mae'r berthynas wedi bod yn un ffrwythlon, ac mae cyfanswm o 443 o ymgeiswyr wedi cymhwyso drwy’r rhaglen. Mae'r rhaglen MBA Banciwr
Siartredig newydd wedi derbyn cydnabyddiaeth ymhlith uwch reolwyr ac uwch swyddogion gweithredol yn y diwydiant bancio a chyllid oherwydd y cynnig unigryw o ddyfarniad triphlyg MBA Bancio a Chyllid, Statws Banciwr Siartredig y Deyrnas Unedig, a Banciwr Siartredig Nigeria."
Janet Olugbuyi, Meithrin Gallu, Ardystio a Safonau

“Fel sefydliad sy’n ymroddedig i ragoriaeth, mae’r Jamaica Institute of Financial Services yn ymfalchïo’n fawr yn ein partneriaeth â Phrifysgol Âé¶¹Íø, yn enwedig y rhaglenni MBA Banciwr Siartredig ac MBA Cydymffurfiaeth a Throseddau Ariannol. Mae'r cydweithio hwn wedi cyfoethogi ein cynigion, yn ogystal â gwella datblygiad proffesiynol y diwydiant gwasanaethau ariannol yn Jamaica, a'r Caribî yn ehangach, yn sylweddol.
Mae’r Jamaica Institute of Financial Services yn edrych ymlaen at barhau â’r berthynas hon wrth i ni geisio parhau i ddatblygu gweithwyr proffesiynol hynod gymwys, hyderus, sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r meddylfryd i lywio heriau ac ysgogi newid ystyrlon o fewn y diwydiant.â€
Darlene Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol

"Rydym wedi cael y pleser o gydweithio â Phrifysgol Âé¶¹Íø i gyflwyno rhaglenni gweithredol o fri i farchnad Botswana. Gallaf ddweud yn hyderus bod eu hymroddiad i ragoriaeth a’n hymrwymiad i’n nodau cyffredin wedi bod yn allweddol i lwyddiant y bartneriaeth hyd yma. Mae tîm Addysg Weithredol Prifysgol Âé¶¹Íø yn gyson yn dangos arbenigedd, proffesiynoldeb, ac ymagwedd ragweithiol, ac maent bob amser yn rhagori ar ein disgwyliadau. Mae'r tîm wedi bod yn hynod gymwys a dibynadwy. Mae eu gallu i addasu i amgylchiadau newidiol a dod o hyd i ddatrysiadau arloesol i heriau wedi bod yn amhrisiadwy i'n partneriaeth. At hynny, mae'r llinellau cyfathrebu agored a'r cydweithio tryloyw wedi creu perthynas waith ddi-dor, sy'n ein galluogi i weithio tuag at ein hamcanion yn effeithlon ac yn effeithiol."
Changu Tshane