Myfyrwyr entrepreneuraidd yn gosod 鶹 tua’r brig
Mae mwy o fyfyrwyr Prifysgol 鶹 wedi creu busnesau eu hunain nag mewn unrhyw brifysgol yng Nghymru yn ôl .
Roedd yr arolwg o 404,182 o fyfyrwyr o’r wyth sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn dadansoddi’r nifer oedd wedi cychwyn eu busnesau eu hunain, symud i swydd uwch mewn busnes oedd wedi ei sefydlu eisoes, neu a oedd yn gweithio ar eu liwt eu hunain fel gweithwyr llawrydd.
Gosodwyd y Brifysgol yn yr ail le yng Nghymru o ran y categorïau i gyd, gyda bron i 10% (9.13%) o fyfyrwyr wedi graddio yn dewis profi eu sgiliau mentergarwch.
Mae’r sefydliad yn ymfalchïo yn ansawdd y dysgu a’r profiadau prifysgol sy’n cael ei gynnig, a’r adroddiad diweddaraf yn agwedd arall ar y profiad rhagorol i fyfyrwyr, ynghyd â datblygiad sgiliau a gwybodaeth sydd ar gael yn y Brifysgol.
Meddai’r Athro Iwan Davies, Is-ganghellor y Brifysgol:
“Mae entrepreneuriaeth yn elfen hanfodol o economi Cymru, gyda 95% o economi Cymru yn fusnesau bychain iawn yn cyflogi naw neu lai o bobl. Mae datblygu ffrwd o entrepreneuriaid y dyfodol a all ddod â sgiliau a gwasanaethau newydd felly’n hanfodol ar gyfer ein heconomi. Dyma pam ein bod yn rhoi cymaint o bwyslais ar annog ysbryd o fentergarwch ymysg ein myfyrwyr.
Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor ynghyd â chyfleoedd i brofi’r farchnad drwy gystadlaethau a marchnadoedd a modiwlau yn ein dysgu, fel bod ein myfyrwyr efo’r sgiliau i adnabod a datblygu eu mentergarwch a chymryd y camau cyntaf i fyd busnes.”
Mae’r newyddion mai Prifysgol 鶹 oedd y cyntaf yng Nghymru i fynd i bartneriaeth efo IPSE (yr ‘Association of Independent Professionals and the Self Employed’) i gefnogi myfyrwyr sydd am, neu’n ystyried, gweithio’n llawrydd hefyd yn newyddion da i’r rhai hynny a adnabuwyd yn yr arolwg fel egin-weithwyr llawrydd.
Meddai Lowri Owen, Rheolwr Projectau Mentergarwch Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol:
“Mae cefnogi cyflogadwyedd ein myfyrwyr yn strategaeth allweddol ym Mhrifysgol 鶹 ac mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth i’r rhai hynny sydd eisiau cychwyn eu busnesau eu hunain neu fod yn hunangyflogedig.”